Cyflwyniad
 Fel peiriannydd sifil, byddwch yn cynllunio, dylunio a rheoli
prosiectau adeiladu.  Gall y rhain amrywio o rai cymharol
fach, er enghraifft trwsio pontydd, i gynlluniau cenedlaethol mawr,
megis adeiladu stadiwm newydd.  Mae angen i bob peiriannydd
sifil gael dealltwriaeth o brosesau dylunio ac adeiladu yn ogystal
â materion yn ymwneud ag iechyd a diogelwch.  Gallai'r swydd
gynnwys arwain timau o beirianwyr eraill, efallai o sefydliadau neu
gwmnïau eraill.
Amgylchedd Gwaith
 Er mai mewn swyddfa y byddai'r gwaith yn bennaf, mae gofyn hefyd
am weithio tu allan, gydag achosion rheolaidd o weithio mewn
amgylcheddau anodd neu annymunol neu yn yr awyr agored. Er
enghraifft: ymweliadau safle cyson â safleoedd adeilad.
Gweithgareddau Dyddiol
- trafod y gofynion gyda'r cleient a phobl broffesiynol eraill
(e.e. penseiri);
 
- dadansoddi data arolwg, mapio a phrofi deunydd gyda meddalwedd
modelu cyfrifiadurol;
 
- creu glasbrintiau drwy ddefnyddio pecynnau cynllunio trwy
gymorth cyfrifiadur (CAD);
 
- rheoli newid, gan y gallai'r cleient newid ei feddwl am y
dyluniad, a sicrhau bod pawb perthnasol yn cael gwybod am y
newidiadau i'r prosiect;
 
- barnu a yw prosiectau'n ymarferol drwy asesu anghenion deunydd,
costau ac amser;
 
- asesu effaith amgylcheddol a risg sy'n gysylltiedig â
phrosiectau;
 
- paratoi ceisiadau tendr, ac adrodd yn ôl i gleientiaid,
asiantaethau cyhoeddus a chyrff cynllunio;
 
- rheoli, cyfarwyddo a monitro cynnydd yn ystod pob gwedd unrhyw
brosiect; 
 
- monitro darparu deunydd;
 
- cydgysylltu ag a chyfarwyddo gwaith isgontractwyr a gyflogir ar
y prosiect;
 
- sicrhau ansawdd pob crefftwaith;
 
- delio â chwynion gan bobl leol sy'n cael eu haflonyddu gan y
gwaith adeiladu;
 
- sicrhau bod safleoedd yn cwrdd â chanllawiau chyfreithiol a
gofynion iechyd a diogelwch.
 
Sgiliau a Diddordebau
- sgiliau TG, mathemateg a gwyddoniaeth gwych;
 
- gallu i egluro syniadau dylunio a chynlluniau yn eglur;
 
- gallu i ddadansoddi llawer o ddata ac asesu datrysiadau;
 
- gallu i wneud penderfyniadau yn hyderus;
 
- sgiliau cyfathrebu gwych;
 
- gallu i negodi'n effeithiol;
 
- defnyddio profiad dylunio ac adeiladu safleoedd i werthuso
mewnbwn technegol pobl eraill;
 
- rheoli gwrthdaro er mwyn ei ddatrys yn dderbyniol;
 
- ymrwymiad i ofal cwsmer;
 
- sgiliau rheoli prosiect;
 
- gallu i weithio o fewn cyllidebau a therfynau amser;
 
- sgiliau cryf o ran gweithio mewn tîm.
 
Gofynion Mynediad
 Gradd mewn Peirianneg Sifil neu bwnc cysylltiedig a phrofiad
priodol mewn maes perthnasol.  Fel arall, gallech weithio tuag
at ddod yn beiriannydd os ydych eisoes yn gweithio o fewn y
diwydiant, er enghraifft, fel technegydd peirianyddol.  Drwy
astudio rhan-amser neu tra'r ydych wrth eich gwaith am BTEC
HNC/HND, gradd sylfaen neu radd, gallech gymhwyso maes o law.
Cyfleoedd a Rhagolygon ar gyfer y Dyfodol
 Fel arfer, byddwch yn cychwyn eich bywyd proffesiynol fel
peiriannydd sifil ar gynllun hyfforddiant i raddedigion. Mae'r math
hwn o gynllun yn rhoi cyfle i chi fod yn rhan o brosiectau o dan
oruchwyliaeth mentor, ac fe'u cynlluniwyd i ddatblygu'ch gwybodaeth
dechnegol a sgiliau busnes. Dros amser, byddech yn cael mwy o
gyfrifoldebau. Yn aml bydd cynlluniau hyfforddi'n para rhwng
blwyddyn a dwy flynedd.
Gallech roi hwb i ddatblygiad eich gyrfa drwy weithio tuag at
statws corfforedig neu siartredig. I wneud hyn, dylech gofrestru
gyda chorff proffesiynol y diwydiant a gwneud cais i'r Cyngor
Peirianneg.  Mae cadw cydbwysedd rhwng amcanion economaidd,
cymdeithasol ac amgylcheddol, nawr ac yn y dyfodol, wedi dod i gael
ei adnabod fel datblygiad cynaliadwy ac yn fwy a mwy cyffredin, mae
hyn yn llywio newid sefydliadol.
Gwasanaethau a Gwybodaeth Bellach
 Civil Engineering Contractors Association www.ceca.co.uk
 Institution of Civil Engineers www.ice.org.uk
Gallwch gael gwybodaeth bellach ar y maes gwaith hwn drwy Gyrfa
Cymru (www.gyrfacymru.com)
neu yn eich llyfrgell leol, y swyddfa yrfaoedd neu lyfrgell
yrfaoedd eich ysgol.
Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu Sbotolau erthygl ar yrfaoedd mewn
STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg): https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-stem/ ac
adeiladu: https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-adeiladu/