Cyflwyniad
 Mae adran eiddo a gwasanaethau adeiladu'r cyngor yn gyfrifol am
roi gwasanaethau pensaernïol, trydanol a pheirianneg fecanyddol i
adrannau eraill y cyngor, adeiladau'r cyngor a rhai cyrff
allanol.  Yn rhan o'r cyfrifoldeb hwnnw, mae peiriannydd gwres
yn gyfrifol am osod a chynnal sustemau gwresogi a sustemau dŵr
poeth ac oer.
Amgylchiadau'r gwaith
 Gan fod cynghorau'n berchen ar adeiladau a safleoedd ac yn
gyfrifol am rai preifat hefyd, mae swyddogaeth iddyn nhw ynglŷn ag
adeiladu, datblygu a rheoli yn y maes hwnnw.  Felly, rhaid i
beirianwyr gwres deithio i sawl lle.  Byddan nhw'n defnyddio'r
swyddfa ar gyfer gwaith dylunio a threfnu, cyfarfodydd a
thrafodaethau.  Weithiau, fe fydd eu dyletswyddau nhw'n
ymwneud â sefyllfaoedd brwnt ac anodd, ond mae dillad diogelu ar
gael.  37 awr yw'r wythnos safonol ond mae'n hanfodol bod yn
hyblyg am y gallai fod angen ymateb i argyfwng gyda'r nos neu dros
y Sul.
Gweithgareddau beunyddiol
 Cynnal a rheoli gwasanaeth cynhwysfawr ar gyfer cynnal a chadw
sustemau gwresogi.  Gofalu bod popeth yn cyd-fynd â gofynion y
gyfraith a bod amcanion y gwasanaeth yn cael eu cyflawni.
- Sefydlu, goruchwylio a rheoli rhaglen gwasanaethu sustemau
gwresogi tai bob blwyddyn ar gyfer pob tanwydd.
 
- Cynnal arolygon o gartrefi i bennu cyflwr adeiladau ynglŷn â
sustemau gwresogi a dŵr poeth.
 
- Dylunio sustemau gwresogi a dŵr poeth, pennu amserlenni a
phennu gofynion.
 
- Llunio/monitro rhaglenni gwasanaethu blynyddol ac archwilio'r
gwaith wedyn.
 
- Goruchwylio a chyfarwyddo staff sy'n atebol i chi gan eu
cynghori am faterion technegol a'u hysgogi.
 
- Monitro gwaith is gontractwyr ynglŷn â gwasanaethu, cynnal a
chadw, trwsio, adnewyddu a gwella sustemau gwresogi.
 
- Cynghori swyddogion eraill y gyfadran am faterion
technegol.
 
- Helpu peirianwyr nwy, plymwyr a thrydanwyr adrannau eraill i
ddatrys unrhyw broblemau gan ymweld â safleoedd weithiau i'r perwyl
hwnnw.
 
Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:
- gallu ysgrifennu adroddiadau a dadansoddi costau;
 
- medrau sylfaenol ynglŷn â thrin a thrafod cyfrifiadur;
 
- medrau cyfathrebu a threfnu da;
 
- llythrennedd a rhifedd;
 
- osgoi cynhyrfu mewn argyfwng;
 
- cymhelliant cryf;
 
- gallu gweithio mewn tîm;
 
- gallu dod i benderfyniadau;
 
- adnabod y diwydiant a'r newidiadau technolegol;
 
- agwedd dringar ynglŷn â phryderon tenantiaid.
 
I wneud y gwaith yn effeithiol, rhaid gwybod y canlynol:
- iechyd a diogelwch;
 
- rheolau Cyngor y Gosodwyr Nwy Cofrestredig;
 
- diogelwch nwy;
 
- codau ymarfer presennol.
 
Meini prawf derbyn
 Rhaid bod yn gymwysedig ym mhob agwedd ar nwy ac ailsefyll
arholiadau bob pum mlynedd.  Mae angen gwybod agweddau
trydanol boeleri a sustemau gwresogi'n dda hefyd, yn ogystal â
Safonau Prydain a rheoliadau iechyd a diogelwch.  Yn
ddelfrydol, byddwch chi wedi gweithio mewn awdurdod lleol neu
sefydliad tebyg o'r blaen (yn y gwasanaethau tai fyddai orau) ac yn
gwybod rheoliadau adeiladu i ryw raddau.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
 Bydd angen peirianwyr o bob math drwy'r amser.  Mae modd
symud i faes tebyg megis peiriannydd trydanol neu weinyddwr
technegol.  Ymhlith y swyddi uwch mae pennaeth pensaernïaeth a
gwasanaethau adeiladu ac amryw uwch reolwyr.  Mae llawer o
gyfleoedd yn y sector preifat, hefyd.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
 Cymdeithas Gwasanaethau Adeiladu a Pheirianneg: www.b-es.org
 Cyngor Peirianneg: www.engc.org.uk
 Cofrestr Diogelwch Nwy: www.gassaferegister.co.uk
 SEMTA www.semta.org.uk
 SummitSkills www.summitskills.org.uk
 Sefydliad Breiniol Peirianwyr Gwasanaethau Adeiladu: www.cibse.org
Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd
eich ysgol.
Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu Sbotolau erthygl ar yrfaoedd mewn
STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg): https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-stem/ ac
adeiladu: https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-adeiladu/