Cyflwyniad
Mae swyddogion ystadau'n gyfrifol am ofalu bod tir ac adeiladau'r
cyngor yn cael eu rheoli mor effeithlon ag y bo modd. Mae
swyddogion o'r fath ym mhob cyngor lleol - mae dros 3,000 yn y
Deyrnas Gyfunol ar hyn o bryd.
Amgylchiadau'r gwaith
36 awr yw'r wythnos safonol. Gallai fod rhaid mynd i
gyfarfodydd pwyllgorau gyda'r nos, hefyd. Mewn swyddfa y
byddwch chi'n gweithio gan amlaf, ond gallai fod rhaid teithio i
gyfarfodydd neu safleoedd weithiau. Bydd oriau hyblyg, gwaith
rhan-amser a chyfle i rannu swydd ar gael mewn rhai cynghorau.
Gweithgareddau beunyddiol
Mae swyddogion ystadau'n ymwneud ag amryw ddyletswyddau ynglŷn â
thir ac adeiladau'r cyngor, gan gynnwys:
- asesu rhenti sy'n ddyledus;
- adnewyddu prydlesau;
- ystyried ceisiadau darpar denantiaid;
- monitro cytundebau tenantiaeth a gofalu bod tenantiaid yn cadw
at amodau prydles;
- rheoli adeiladau - gan drefnu ac archwilio atgyweiriadau a
gofalu bod pob adeilad yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y dibenion
priodol;
- asesu'r posibiliadau ynglŷn â defnyddio safleoedd y cyngor -
gan gynnwys marchnata a gwerthu tir ac adeiladau neu eu rhoi ar
osod;
- cynnal trafodaethau manwl gyda thirfeddianwyr neu unigolion a
chwmnïau perthnasol eraill ynglŷn â phrynu safleoedd yn
orfodol;
- llunio adroddiadau a chyfrifon i'w rhoi gerbron pwyllgorau'r
cyngor.
Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:
- cyfathrebu'n effeithiol ar lafar ac ar bapur;
- medrau trefnu da;
- gallu dadansoddi gwybodaeth ysgrifenedig ac ystadegol yn
gywir;
- medrau negodi da;
- medrau cyflwyno da;
- agwedd dringar a phwyllog;
- gallu trin a thrafod cyfrifiadur.
Meini prawf derbyn
Er nad oes cymwysterau penodol, bydd y rhan fwyaf o gyflogwyr yn
mynnu TGAU (A*-C) mewn o leiaf bum pwnc yn ogystal â thystysgrifau
Safon Uwch - o bosibl - ac Uwch Dystysgrif Genedlaethol mewn pwnc
sy'n ymwneud â thai. Fe fydd angen trwydded yrru fel arfer,
hefyd. Gallai rhai cyflogwyr fynnu gradd ym maes tirfesur neu
reoli tai. A chithau'n swyddog ystadau, efallai y bydd rhaid
astudio ar gyfer Lefel 4 Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol ym
maes rheoli tir neu dai.
Mae modd astudio ar gyfer cymwysterau dau gorff proffesiynol:
Sefydliad Brenhinol y Tirfesurwyr Breiniol a Sefydliad Cyllid,
Graddio a Phrisio.
Dyma feini prawf Sefydliad Brenhinol y Tirfesurwyr Breiniol:
- Mae angen gradd i gofrestru'n fyfyriwr. I astudio ar
gyfer gradd prifysgol, fe fydd angen TGAU (A*-C) mewn o leiaf bum
pwnc a thystysgrifau Safon Uwch (neu gymhwyster cyfwerth) mewn dau
bwnc.
- Ar ôl ennill gradd berthnasol, bydd angen o leiaf ddwy flynedd
o brofiad yn ôl strwythur cyn yr asesiad terfynol.
- Rhaid i raddedigion heb gymhwyster perthnasol ddechrau trwy
ddilyn cwrs achrededig amser llawn am flwyddyn (neu ddwy flynedd os
rhan-amser).
- Ar y llaw arall, mae modd osgoi'r astudio ychwanegol i gyd trwy
ennill gradd neu ddiploma megis BSc 'Rheoli Ystadau'. Bydd
cymhwyster Cyngor Addysg Busnes a Thechnoleg (neu rywbeth cyfwerth)
ym maes defnyddio tir neu reoli ystadau yn eich galluogi i osgoi
rhywfaint o'r astudio ychwanegol.
Gobeithion a chyfleoedd ar gyfer y
dyfodol
Bydd dyrchafu'n dibynnu ar ehangder a gorchwylion yr adran.
Yn adrannau'r amryw gynghorau lleol, mae llwybr eglur at swyddi
rheolwyr a chyfleoedd i arbenigo mewn agweddau penodol.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Asset Skills: www.assetskills.org
Sefydliad Breiniol Adeiladu: www.ciob.org.uk
Sefydliad Breiniol Tai: www.cih.org
Construction Skills: www.citb-constructionskills.co.uk
Inside Housing: www.insidehousing.co.uk
Sefydliad Cyllid, Graddio a Phrisio: www.irrv.org.uk
Sefydliad Brenhinol y Tirfesurwyr Breiniol:
www.rics.org/uk/
Coleg Rheoli Ystadau: www.cem.ac.uk
The Surveyor: www.surveyormagazine.com
Gallai fod rhagor o wybodaeth ar wefan Gyrfaoedd Cymru
(www.careerswales.com/), yn llyfrgell eich bro neu yn
swyddfa/llyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.
Related Links