Cyflwyniad
Mae ceidwaid cefn gwlad llywodraeth leol yn rheoli ac yn cynnal
mannau agored fel parciau, coetiroedd, rhostiroedd, tir comin a
mannau gwyrdd trefol. Mewn ardaloedd mwy trefol cânt eu
galw'n aml yn geidwaid parciau neu geidwaid hamdden.
Amgylchedd Gwaith
Mae'r ceidwad llywodraeth leol yn treulio llawer o'i amser yn yr
awyr agored yn goruchwylio mannau agored. Gall dreulio
peth o'i amser yn ysgrifennu adroddiadau mewn swyddfa.
Gweithgareddau Dyddiol
Mae ceidwaid cefn gwlad llywodraeth leol fel arfer yn rhan o dîm o
geidwaid yn y gwasanaeth cefn gwlad neu barciau a
hamdden. Mae pob ceidwad yn gyfrifol am nifer o
safleoedd mewn ardal ddaearyddol benodol, ac ef fel arfer yw'r
pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pobl sy'n byw yn yr ardal honno os
ydynt yn cael anawsterau neu angen cyngor ar faterion yn ymwneud â
mannau agored y cyngor lleol.
Mae ceidwaid cefn gwlad llywodraeth leol yn cyflawni amryw
ddyletswyddau, gan gynnwys y canlynol:
- Goruchwylio mannau agored i sicrhau eu bod yn ddiogel i'r
cyhoedd. Gall hyn gynnwys mynd i'r afael ag ymddygiad
gwrthgymdeithasol fel reidio beiciau modur, fandaliaeth, taflu
sbwriel a thipio anghyfreithlon.
- Cyflawni tasgau cadwraeth a chynnal a chadw ymarferol, yn aml
mewn partneriaeth a gwirfoddolwyr cadwraeth lleol;
- Cynnal digwyddiadau ar gyfer pobl leol i hyrwyddo'r defnydd
cywir o fannau agored, a gofal am yr amgylchedd
naturiol;
- Ymweld ag ysgolion a grwpiau cymunedol i siarad am ofal a
chadwraeth amgylcheddol;
- Arwain teithiau tywys a digwyddiadau natur;
- Cynnig cyngor i unigolion, grwpiau cadwraeth neu sefydliadau ar
reoli cadwraeth, gwella tirwedd, coedyddiaeth a sgiliau cadwraeth
ymarferol.
Mewn ardaloedd mwy trefol gall y tasgau ychwanegol gynnwys
goruchwylio a monitro parciau, parciau sglefrio a chydweithio â
wardeiniaid cymunedol/stryd.
Sgiliau a Diddordebau
Mae angen y sgiliau canlynol ar geidwaid cefn gwlad llywodraeth
leol:
- cyfeillgar, gyda'r gallu i gyfathrebu â mathau gwahanol o
bobl,
- sgiliau cyflwyno hyderus,
- y gallu i gyflawni tasgau corfforol heriol,
- gwybodaeth ddaearyddol dda am yr ardal lle yr hoffent weithio,
a'r gallu i ddarllen mapiau,
- Trefnus.
Gofynion Mynediad
Bydd gofynion mynediad yn amrywio yn dibynnu ar fanylion y rôl
mewn Awdurdod Lleol. Efallai bydd angen trwydded yrru
lawn, brofiad blaenorol ym maes cadwraeth, profiad o ymdrin â
phobl, neu wybodaeth am yr ardal leol.
Mae llawer o geidwaid cefn gwlad yn dechrau eu gyrfaoedd yn
gweithio fel gwirfoddolwyr ar brosiectau cadwraeth.
Dyma ffordd wych o gael profiad ymarferol. Gallwch ddod
o hyd i ragor o wybodaeth am fod yn wirfoddolwr cefn gwlad drwy
gysylltu â gwasanaeth cefn gwlad neu barciau a hamdden eich cyngor
lleol yn uniongyrchol.
Efallai bydd angen cymhwyster amgylcheddol cydnabyddedig ar
geidwad cefn gwlad ynghyd â sgiliau ymarferol fel y gallu i
ddefnyddio offer fel llif gadwyn neu dorrwr llwyni. Fel arfer
bydd angen cymhwyster lefel is ar Geidwad trefol, ac efallai na
fydd unrhyw ofynion mynediad heblaw am y profiad o ddelio â phobl
neu brofiad o wirfoddoli ar brosiect.
Fel arall, gall y Gwirfoddolwyr Cadwraeth ddarparu gwybodaeth am
ble i edrych am brosiectau gwirfoddoli yn eich ardal.
Mae BTCV hefyd yn cynnal amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi, yn cynnwys
tocio coed, adeiladu llwybrau cerdded, defnyddio llif gadwyn,
darllen mapiau, rheoli pyllau a gosod gwrychoedd.
Unwaith y cewch swydd fel ceidwad cefn gwlad, gallech gael
cyfleoedd i weithio tuag at N/SVQ perthnasol a/neu Brentisiaeth
mewn cadwraeth amgylcheddol a pheirianneg tir.
Cyfleoedd yn y dyfodol
Gyda hyfforddiant a phrofiad priodol, gallech gael cyfleoedd i fod
yn swyddog cefn gwlad neu'n rheolwr cefn gwlad gyda llywodraeth
leol. Gallech symud i rolau gwahanol gydag adrannau
gwasanaethau amgylcheddol neu hamdden ehangach y cyngor.
Rhagor o Wybodaeth a Gwasanaethau
Cyngor Amgylcheddol www.the-environment-council.org.uk
Cyngor Cefn Gwlad Cymru www.ccw.gov.uk
Lantra www.lantra.co.uk
The Conservation Volunteers www.tcv.org.uk
Y Sefydliad Ecoleg ac Amgylcheddol www.ieem.net
Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich
ysgol.