Rheolwr tai

Cyflwyniad
Mae rheolwyr tai'n gyfrifol am oruchwylio timau materion tai'r cynghorau bob dydd.  Bydd eu cyfrifoldebau'n amrywio o'r naill gyngor i'r llall ond dyma'r rhai arferol:

  • asesu anghenion pobl ddigartref a thenantiaid y cyngor i ofalu bod cartrefi'n cael eu dyrannu'n ddiymdroi yn ôl polisi'r cyngor;
  • llunio polisïau tai'r ardal a gofalu eu bod yn cael eu defnyddio mewn modd teg ac ystyriol i roi gwasanaeth effeithlon a thringar;
  • trin a thrafod cartrefi gwag, rhoi tai ar osod ac ailgartrefu tenantiaid cyfredol;
  • rheoli tai a gofalu eu bod mewn cyflwr da gan nodi problemau ac atebion a chynnal rhaglenni atgyweirio'n effeithiol;
  • trefnu i renti gael eu casglu ac ymdopi ag ôl-ddyledion;
  • meithrin perthynas â'r trigolion a chydweithio â nhw i wella'r amgylchedd;
  • gofalu bod tenantiaid yn cadw at gytundebau, gan gynnwys paratoi amryw adroddiadau a bod yn bresennol yn y llys lle bo angen;
  • penodi, goruchwylio, hyfforddi a datblygu staff;
  • prosesu ceisiadau am brynu tai yn ôl ffurflenni a gweithdrefnau statudol.

Mae rheolwyr tai'n arwain tîm ac ynddo gynorthwywyr a swyddogion tai allai weithio mewn nifer o gymdogaethau.  Bydd ehangder y tîm yn dibynnu ar ehangder y cyngor yn ogystal â'r pwyslais ar faterion tai yn yr ardal.

Amgylchiadau'r gwaith
Mae rheolwyr tai'n gweithio mewn swyddfa gan amlaf, er bod angen ymweld â thai a thenantiaid y cyngor yn aml.  37 awr yw'r wythnos safonol (yn ôl trefn oriau hyblyg, gan amlaf) a bydd peth gwaith y tu allan i oriau'r swyddfa, yn ôl pob tebyg.

Gweithgareddau beunyddiol
Mae rheoli staff yn rhan bwysig o'r rôl hon.  Gallai rheolwr tai fod yn gyfrifol am wyth gweithiwr neu ragor - gan ofalu eu bod wedi'u trefnu i weithio mor effeithlon ag y bo modd fel y bydd y tenantiaid yn cael gwasanaeth rhagorol ac y bydd y trethdalwyr yn cael gwerth eu harian.  Hanfod y gwaith yw goruchwylio a monitro staff, adolygu eu cynnydd, awgrymu ffyrdd o weithio'n well ac ystyried eu hawgrymiadau nhw.  Mae'n bwysig cynnwys tenantiaid yn y penderfyniadau ynglŷn â ble byddan nhw byw - nid dim ond y tŷ, ond yr ystâd hefyd.  Mae'n hanfodol meithrin perthynas dda â phobl o bob cefndir.  Gallai rheolwr tai gymryd rhan mewn cyfarfodydd yn y gymuned - naill ai gyda gweithwyr eraill neu ar ei ben ei hun.  Ar ben hynny, mae'n debygol y bydd yn cydweithio ag arweinyddion y gymuned i wella byd y tenantiaid.  Mae rheolwyr tai yn ymwneud â llunio strategaethau tai ar y cyd â chynghorwyr, aelodau o'r Cynulliad, swyddogion yn amryw adrannau'r cyngor a chynrychiolwyr cymunedau.  Fe fyddai gweinyddu'n mynnu rhan sylweddol o'u hamser, gan gynnwys:

  • ymateb yn brydlon i ymholiadau tenantiaid, cynghorwyr a phobl eraill;
  • monitro cyllideb y tai - gan gadw llygad ar y gwariant a'i newid lle bo angen.

Dyma gyfrifoldebau eraill:

  • monitro proses dyrannu gwaith ymhlith contractwyr;
  • gofalu bod contractwyr yn gweithio yn ôl safonau, prisiau ac amserlenni sydd wedi'u pennu;
  • awdurdodi rhybuddion ailfeddiannu;
  • cydweithio â chyrff allanol megis yr heddlu a'r gwasanaethau cymdeithasol.

Medrau a diddordebau
Mae angen y canlynol:

  • medrau cyfathrebu da (ar lafar ac ar bapur) i esbonio gwybodaeth i amryw bobl megis cynghorwyr, tenantiaid a thîm materion tai'r cyngor;
  • medrau trafod telerau - gallu lleddfu argyfwng heb gynhyrfu mewn sefyllfa anodd;
  • medrau trefnu a hyblygrwydd - cynllunio a blaenoriaethu gwaith yn ôl amserlenni;
  • medrau arwain - gallu ysgogi pobl;
  • gallu gweithio a phenderfynu o'ch pen a'ch pastwn eich hun;
  • medrau dadansoddi a datrys problemau;
  • gallu trin a thrafod cyfrifiaduron ar gyfer llunio adroddiadau ac ati;
  • rhifedd cryf a'r gallu i drin a thrafod sustemau ariannol;
  • gwybod gofynion y gyfraith ynglŷn â thai ac adeiladu yn ogystal â pholisïau perthnasol Llywodraeth Cymru.

Byddai trwydded yrru o fantais, hefyd.

Meini prawf derbyn
Mae angen o leiaf dair blynedd (pum mlynedd fyddai orau) o brofiad yn gynorthwywr i fod yn rheolwr.  Mae gan y rhan fwyaf o reolwyr tai Uwch Dystysgrif Genedlaethol, Uwch Ddiploma Genedlaethol, gradd mewn pynciau megis tai, astudiaethau busnes a gweinyddu neu un o gymwysterau priodol Sefydliad Breiniol Tai.  Mae rhai rheolwyr yn dechrau'n ôl-raddedigion o dan hyfforddiant ac yn astudio ar gyfer cymwysterau yn eu hamser rhydd.

Mae nifer o bobl yn dechrau yn y maes yn syth ar ôl gadael yr ysgol, fodd bynnag.  I wneud hynny, byddai angen o leiaf bedair TGAU (A*-C) gan gynnwys mathemateg a Chymraeg neu Saesneg.  Mae modd astudio wedyn ar gyfer cymwysterau Sefydliad Breiniol Tai a chymwysterau galwedigaethol cenedlaethol ym maes tai hyd at lefel 4.  Gyda digon o brofiad a chymwysterau, mae modd i gynorthwywr gael ei ddyrchafu'n swyddog tai a, maes o law, yn rheolwr tai.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Mae modd cael eich dyrchafu yn yr un adran weithiau trwy ganolbwyntio ar agwedd wahanol ym maes tai.  Gallai fod yn bosibl symud i awdurdod arall i gael dyrchafiad, hefyd.
 
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Asset Skills www.assetskills.org
Cymdeithas Rheolwyr Tai Ymddeol: www.arhm.org
Sefydliad Breiniol Tai: www.cih.org
Asiantaeth Cartrefi a Chymunedau: www.homesandcommunities.co.uk

Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links