Swyddog y dreth gyngor

Cyflwyniad
Mae Cynghorau'n creu refeniw ar ffurf treth gyngor a godir ar feddianwyr eiddo, yn seiliedig ar werth yr eiddo hwnnw.   Mae swyddogion y dreth gyngor yn pennu atebolrwydd trigolion lleol o ran talu treth, cyfrifo treth a gweinyddu systemau ar gyfer ceisio a chasglu taliadau.

Amgylchedd Gwaith
Mae swyddogion y dreth gyngor fel arfer wedi'u lleoli yn swyddfeydd y cyngor.

Gweithgareddau Dyddiol
Mae swyddogion y dreth gyngor yn delio â phroses gyfan y dreth gyngor, o'r bil cychwynnol i gasglu treth.   Bydd y dyletswyddau yn cynnwys:

  • diweddaru cronfa ddata gyfrifiadurol yn dangos manylion trethdalwyr, er enghraifft, pan fyddant yn derbyn gwybodaeth newydd am rywun yn symud i mewn i eiddo neu'n hawlio eithriad neu leihad mewn perthynas â'r dreth gyngor;
  • paratoi a dosbarthu biliau'r dreth gyngor, hysbysiadau atgoffa, gwysion a gohebiaeth bwysig arall;
  • sefydlu a diwygio cyfarwyddiadau debyd uniongyrchol;  
  • negodi, cytuno ar, a monitro trefniadau a wneir gyda threthdalwyr sy'n ei chael hi'n anodd talu;
  • adolygu gostyngiadau ac eithriadau i ystyried pwy sydd â'r hawl iddynt;
  • cysylltu â'r Adran Budd-daliadau i sicrhau bod cwsmeriaid yn cael unrhyw fudd-dal treth gyngor y mae ganddynt hawl iddo;  
  • lle bo angen, trosglwyddo ac ailddyrannu arian rhwng ac o fewn cyfrifon, ynghyd â pharatoi ad-daliadau;
  • paratoi gwaith papur a thystiolaeth ddogfennol os bydd preswylydd yn apelio yn erbyn y dreth gyngor sydd i'w thalu gan fynd i dribiwnlys treth;
  • cyfweld â diffygdalwyr a gweithio fel eiriolwr i geisio gorchmynion atebolrwydd yng ngwrandawiadau Llys yr Ynadon;   
  • gweithio gydag amryw gysylltiadau gan gynnwys y cyhoedd, cyfreithwyr, Cynghorau eraill, Prifysgolion, cyflogwyr, yr Asiantaeth Budd-daliadau, y Derbynnydd Swyddogol, gwasanaethau cymdeithasol, cyfleustodau cyhoeddus (nwy, dŵr, trydan) ac adrannau eraill yn y cyngor i sicrhau bod cofnodion y dreth gyngor yn gywir ac yn gyfredol, a cheisio gwybodaeth am ddyledwyr;
  • ateb galwadau ffôn gan bobl sydd ag ymholiadau ynglŷn â chyfrifon y dreth gyngor - weithiau bydd angen delio â chwsmeriaid anodd, yn enwedig y rheini y mae camau adennill wedi'u cymryd yn eu herbyn;
  • delio ag ymholiadau cymhlethach o ran atebolrwydd megis gwneud penderfyniad ynghylch lle mae "prif" breswylfa unigolyn neu a ddylid ystyried eiddo yn dŷ amlfeddiannaeth;
  • prosesu a chydbwyso rhestrau o newidiadau i fandiau ac eiddo a geir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio;
  • gwirio darpar restrau o gyfrifon a phenderfynu pa gyfrifon ddylai gael gwŷs yn unol â'r canllawiau a roddwyd.

Mae gwaith swyddog y dreth gyngoryn cynyddu o bryd i'w gilydd yn ystod y flwyddyn. Er enghraifft, ym mis Mawrth a mis Ebrill pan gaiff biliau blynyddol eu paratoi a'u dosbarthu.

Sgiliau a Diddordebau
Rhaid i swyddogion y dreth gyngor:

  • weithio'n fanwl gywir,
  • gallu dilyn a deall gweithdrefnau yn fanwl a chwblhau cyfrifiadau cymhleth,
  • meddu ar sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar da er mwyn cyfathrebu'n ystyriol ag amrywiaeth o bobl,
  • gallu gweithio ar eu liwt eu hunain ac fel aelod o dîm,
  • gallu blaenoriaethu gwaith er mwyn cyflawni terfynau amser,
  • dangos gwybodaeth am ddeddfwriaeth y dreth gyngor a diogelu data,
  • cael sgiliau TGCh rhagorol.

Rhaid i uwch aelodau o staff sy'n ymddangos yn y llys ac mewn tribiwnlysoedd fod yn hyderus wrth siarad yn gyhoeddus.

Gofynion Mynediad
Nid oes gofynion mynediad sylfaenol.  Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o gynghorau yn gofyn am o leiaf bedair gradd TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg.  Fel arfer bydd cymwysterau cyfatebol fel NVQ/SVQ neu GNVQ/GSVQ canolradd mewn busnes yn cael eu derbyn. Gall rhai cynghorau ofyn am brofiad blaenorol perthnasol.

Cyfleoedd yn y dyfodol
Gallech gael eich dyrchafu i fod yn uwch swyddog y dreth gyngor neu'n rheolwr y dreth gyngor.  Gyda mwy o brofiad yn y rôl, gallai swyddogion y dreth gyngor symud ymlaen i rolau rheoli eraill yn y tîm refeniw a budd-daliadau ehangach, neu yn yr adran gyllid yn gyffredinol.  Gyda rhagor o brofiad a chymwysterau, gallai arwain at swyddi cyfrifyddu arbenigol.

Rhagoro Wybodaeth a Gwasanaethau
Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu www.aat.co.uk 
Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli www.cimaglobal.com 
Y Sefydliad Rheoli Systemau Gwybodaeth www.imis.org.uk   
Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr www.icaew.com 
Sefydliad Refeniw, Trethi a Phrisio www.irrv.org.uk   
Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig www.acca.co.uk 
Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth www.cipfa.org.uk

Mae modd cael rhagoro wybodaeth am y maes hwn trwy wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/) y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich ysgol.

Related Links