Cyflwyniad
 I rai pobl, gallai'r syniad o fynd i adeilad crand a gofyn i
swyddogion am wybodaeth fod yn dipyn o her.  Dyna pam mae gan
rai cynghorau (yn arbennig yn y dinasoedd) gyfleusterau allgymorth
sy'n rhoi cynghorion a chyfarwyddyd am yrfaoedd, swyddi, addysg a
hyfforddiant i drigolion lleol.  Swyddogion allgymorth a
chynghorion sy'n rheoli 'siopau unstop' o'r fath.  Ar gyfer
cymunedau difreintiedig mae'r gwasanaeth, yn bennaf.
Mae swyddogion allgymorth a chynghorion yn hyfforddi staff
grwpiau cymunedol fel y gallan nhw ddatblygu eu gwasanaethau
gwybodaeth, cynghorion a chyfarwyddyd eu hunain i helpu i leddfu
ynysu cymdeithasol, gwella iechyd, creu swyddi a diogelu'r
amgylchedd - elfennau hanfodol adfywio trefol.  Mae swyddogion
o'r fath ym mhob math o awdurdodau lleol.
Amgylchiadau'r gwaith
 Mae gwybodaeth a chynghorion allgymorth ar gael mewn amryw fannau
yn ardal y cyngor.  Gallai'r gwasanaethau weithredu mewn
canolfannau pwrpasol neu'n rhan o ganolfannau cymunedol lleol,
cylchoedd rhieni, meithrinfeydd, llyfrgelloedd, hostelau,
canolfannau iechyd, swyddfeydd materion tai, gwyliau yn y stryd,
ffeiriau hyfforddi a swyddi ac achlysuron lleol.  Mae'r
swyddfeydd/stondinau'n anffurfiol ac yn gyfeillgar.  37 awr
yw'r wythnos safonol (dydd Llun - dydd Gwener) ac mae eisiau
gweithio dros y Sul a chyda'r nos, hefyd.
Gweithgareddau beunyddiol
 Mae angen gwasanaeth personol i gynnig gwybodaeth, cynghorion a
chyfarwyddyd allgymorth i'r sy'n eu mynnu.  Mae'n arbennig o
fuddiol i bobl o gefndir economaidd-gymdeithasol difreintiedig
megis y rhai sy'n perthyn i dras leiafrifol, rhieni sengl,
ffoaduriaid, pobl ddigartref a'r rhai sydd heb waith ers amser
maith.  Mae llawer o'r rheiny'n dibynnu ar fudd-daliadau
gwladol.  Wrth eu cynghori, rhaid i'r swyddogion wybod ychydig
am Gredyd Treth Teuluoedd Gweithiol a Bargen Newydd Cynlluniau
Rhieni Sengl.  Dylen nhw fod yn gyfarwydd â'r hyn sy'n
rhwystro pobl rhag dod o hyd i swydd hefyd, gan gynnwys pobl anabl
a'r rhai dros 55.  Dyma'r prif nodau:
- rhoi gwybodaeth a chynghorion allgymorth (gan gynnwys chwilio
am swyddi a helpu i lunio CV) am gyflogaeth, gyrfaoedd, addysg a
hyfforddiant;
 
- cyfeirio clientiaid at sefydliadau eraill lle bo'n
briodol;
 
- cynnig gwasanaeth wyneb yn wyneb, dros y ffôn a thrwy ffacs ac
ebost yn ôl yr angen i glientiaid unigol a grwpiau cymunedol;
 
- chwilio am y rhai mae'r angen mwyaf arnyn nhw yn hytrach na
disgwyl iddyn nhw ddod atoch chi;
 
- manteisio ar sefydliadau sydd wedi ennill eu plwyf ym maes
gyrfaoedd a hyfforddiant;
 
- tynnu sylw at swyddi gwag a cheisio cysylltu clientiaid
di-waith â chyfleoedd i gael swydd neu brofiad o weithio;
 
- trefnu deunydd marchnata i hysbysebu'r gwasanaeth, gan gynnwys
cyflwyno deunydd i'w gyhoeddi mewn cylchlythyrau a phapurau newydd
lleol;
 
- llunio cronfa adnoddau ynglŷn â swyddi, gyrfaoedd, hyfforddiant
ac addysg;
 
- cadw deunydd am ffeiriau gyrfaoedd/hyfforddiant a swyddi gwag
i'w ledaenu a'i arddangos yn adeiladau cymunedol y gymdogaeth;
 
- llunio a datblygu hyfforddiant, gwaith fesul grŵp a sesiynau
cyflwyniadau ar gyfer mudiadau cymunedol;
 
- monitro cynnydd clientiaid;
 
- cadw a diweddaru cofnodion am glientiaid, yn ôl amodau
cyfrinachedd;
 
- gweinyddu cronfa fynediad.
 
Medrau a diddordebau
 Dyma'r rhai hanfodol:
- cyfathrebu'n eglur ac yn effeithiol wyneb yn wyneb, dros y ffôn
ac ar bapur;
 
- gweithio gyda phobl o bob lliw a llun mewn modd tringar a
phroffesiynol;
 
- ymdopi â sefyllfaoedd anodd o dan bwysau;
 
- paratoi a chynnal sesiynau hysbysu a chyflwyniadau ar gyfer
grwpiau;
 
- cydweithio â phartneriaid a meithrin rhwydwaith o
gysylltiadau;
 
- trin a thrafod adnoddau prin;
 
- cadw cofnodion;
 
- llunio deunydd cyhoeddusrwydd a marchnata deniadol trwy
gyfryngau TG;
 
- dangos bod natur feddylgar gyda chi.
 
Meini prawf derbyn
 Gradd prifysgol mewn pwnc perthnasol, cymhwyster cyfwerth neu dair
blynedd o brofiad.  Bydd profiad o hysbysu a chynghori pobl am
faterion dinesig a helpu pobl i chwilio am swydd yn bwysig. 
Mae modd cael profiad o'r fath trwy weithio mewn cyfleuster dinasol
neu amlddiwylliannol - gan ddod i adnabod hanfod amddifadedd ac
anghenion ac anawsterau pobl ddi-waith.  Rhaid gwybod am
faterion gyrfaoedd, cyflogaeth, hyfforddiant ac addysg, hefyd.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
 Gan fod canol sawl dinas yn cael ei adfywio a bod mwy a mwy o
gymunedau'n ceisio ysgwyddo cyfrifoldeb am eu lles eu hunain, mae
swyddi o sawl math yn y maes hwn.  Mae cyfleoedd i gael
dyrchafiad trwy gynlluniau cyllideb adfywio sengl a phrosiectau
cronfa adnewyddu cymdogaethau (dan nawdd gwladol) er enghraifft, a
thrwy ragor o hyfforddiant a chymwysterau ym maes gwaith
cymdeithasol.  Mae partneriaethau'r awdurdodau lleol gyda
chwmnïau masnachol yn cynnig cyfleoedd ychwanegol i reoli
prosiectau adfywio, hefyd.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
 Rhwydwaith Sefydliadau Hyfforddi Awdurdodau Lleol a Rhanbarthol
Ewrop: www.ento.org/portal
 Cymdeithas Gofal Cymdeithasol: www.socialcareassociation.co.uk
 Canolfan Byd Gwaith: www.dwp.gov.uk/jobcentreplus
 Cyngor ar Bopeth: http://www.citizensadvice.org.uk/
Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd
eich ysgol.