Cyflwyniad
 Yn wahanol i fynwentydd, lle mae modd gosod carreg ar fedd rhywun
sydd wedi'i gladdu yno, mae amlosgi'n llai amlwg.  Dyna pam
mae'r awdurdodau lleol yn cynnig amryw gynlluniau sy'n helpu pobl i
fynegi eu galar.  Mae swyddogion cofebion yn ymwneud â
gwerthu, cofnodi a chynnal/cadw amryw drefniadau er cof am rywun -
blodau, llech neu rodd i elusen - yn ogystal â gosod cofebion a
gwasgaru llwch corff sydd wedi'i losgi.  Mae swyddogion o'r
fath ym mhob awdurdod lleol - ymhlith staff gwasanaethau
profedigaeth cyfadran y gwasanaethau cymdeithasol, fel arfer.
Amgylchiadau'r gwaith
 Byddwch chi'n gweithio mewn swyddfa ar safle amlosgfa a mynwent,
gan amlaf.  37 awr yw'r wythnos safonol.  Gallai fod
angen gweithio ar ddydd Sadwrn, hefyd.  Rhaid gwisgo'n briodol
ac efallai y bydd gwisg swyddogol ddu ar gael.
Gweithgareddau beunyddiol
 I roi cymorth i bobl sy'n galaru, rhaid i swyddogion cofebion
wneud y canlynol:
- gwerthu cynlluniau cofio yn ôl cyfarwyddiadau a gwybodaeth
clientiaid, gan gynnwys pennu prisiau a chasglu'r arian;
 
- casglu'r ffurflenni priodol a'u cyflwyno i ganolwr meddygol fel
y gall y llosgi fynd rhagddo yn ôl y bwriad;
 
- helpu clientiaid i ddewis cofeb o blith amrywiaeth o gynlluniau
cofio naill ai trwy'r post, dros y ffôn neu'n bersonol;
 
- cofnodi ac adnewyddu cynlluniau a thynnu cofebion ar ôl iddyn
nhw ddyddio;
 
- archebu cofebion o gwmnïau arbenigol a'u dodi yn y mannau
priodol neu eu gosod â hoelion troi yn ôl cyfarwyddiadau'r
client;
 
- mynd gyda'r galarwyr i Ardd y Cofio a'u helpu i gladdu neu
wasgaru'r llwch;
 
- cyflawni unrhyw orchwylion gweinyddu ar ôl y seremoni.
 
Medrau a diddordebau
 Rhaid wrth agwedd dringar gan wybod pryd y dylech chi fod yn
gynnil ond yn effeithlon fel na fydd galarwyr yn gorfod trin a
thrafod materion gweinyddol.  Felly, bydd eisiau:
- medrau cyfathrebu da ar lafar ac ar bapur;
 
- gallu defnyddio cyfrifiadur;
 
- gallu gweithio'n effeithiol ac yn fanwl gywir o dan
bwysau;
 
- gallu cadw a chanfod gwybodaeth;
 
- gallu cynllunio;
 
- agwedd ystyriol, amynedd a dealltwriaeth; 
 
- medrau trefnu.
 
Meini prawf derbyn
 Bydd hynny'n dibynnu ar natur y rhinweddau personol sydd wedi'u
disgrifio uchod, er y bydd angen TGAU yn y Gymraeg/Saesneg a
mathemateg, fel arfer.  Bydd profiad yn bwysicach na hynny,
fodd bynnag.  Byddai rhai blynyddoedd o brofiad o weithio gyda
phobl sy'n mynd trwy brofedigaeth ac ymdrin â'r cyhoedd yn bersonol
a thros y ffôn yn ddefnyddiol.  At hynny, byddai disgwyl ichi
fod yn brofiadol ynglŷn â chadw cofnodion papur a chyfrifiadurol yn
ogystal â chyflawni gorchwylion ariannol.  Byddai o gymorth pe
baech chi'n deall rhywfaint am arferion amryw grefyddau, hefyd.
Gobeithion a chyfleoedd ar gyfer y
dyfodol
 Dyma faes eithaf cyfyng ond mae modd cael eich dyrchafu'n
oruchwyliwr amlosgfa, swyddog gwasanaethau profedigaeth neu
arolygydd mynwentydd ar ôl cael rhagor o gymwysterau a
phrofiad.  Mae cyfleoedd gyda threfnwyr angladdau preifat,
hefyd.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
 Ffederasiwn Awdurdodau Claddu ac Amlosgi: www.fbca.org.uk
 Sefydliad Rheoli Mynwentydd ac Amlosgfeydd: www.iccm-uk.com
Gallai fod rhagor o wybodaeth ar wefan Gyrfaoedd Cymru
(www.careerswales.com/), yn llyfrgell eich bro neu yn
swyddfa/llyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.