Swyddog tîm troseddau ieuenctid

Cyflwyniad
Mae timau troseddau ieuenctid llywodraeth leol yn gweithio gyda phobl ifanc, fel arfer rhwng 10 a 18 oed, sydd ar gamau amrywiol o'r system cyfiawnder troseddol.  Mae tîm troseddau ieuenctid cyngor lleol yn nodi anghenion troseddwyr ifanc ac yn ymchwilio i'r problemau penodol sy'n gwneud iddynt droseddu i geisio eu hatal rhag gwneud hynny.  Gallai swyddogion tîm troseddau ieuenctid llywodraeth leol gael eu galw'n swyddogion cyfiawnder ieuenctid hefyd, neu'n weithwyr cymdeithasol y tîm troseddau ieuenctid.
 
Amgylchedd Gwaith
Mae swyddogion tîm troseddau ieuenctid llywodraeth leol yn gweithio mewn lleoliadau amrywiol fel swyddfeydd, llysoedd, canolfannau cadw a hyfforddiant, gorsafoedd heddlu, clybiau ieuenctid a chartrefi troseddwyr ifanc.  Fel arfer byddant yn gweithio 37 awr yr wythnos yn ystod oriau swyddfa arferol, ond gallai fod angen gweithio gyda'r nos a/neu ar benwythnosau o bryd i'w gilydd.
 
Gweithgareddau Allweddol
Yng Nghymru a Lloegr, mae timau troseddau ieuenctid yn cynnwys amrywiaeth o staff yn cynrychioli adrannau gwahanol o'r cyngor ac asiantaethau allanol eraill, e.e. gwasanaethau plant a phobl ifanc, yr heddlu, y gwasanaeth iechyd, y gwasanaeth prawf a lles addysg.  Prif rôl swyddog tîm troseddau ieuenctid llywodraeth leol yw gweithio gyda throseddwyr ifanc, eu teuluoedd a dioddefwyr i atal troseddau a datrys troseddau gyda phawb sy'n ymwneud â'r achos.  Gall gyflawni rhai o'r dyletswyddau canlynol, os nad pob un ohonynt:

  • cynnal asesiadau o droseddwyr ifanc a nodi eu hanghenion;
  • llunio cynlluniau gweithredu i gefnogi troseddwyr ifanc a diwallu'r anghenion a nodwyd;
  • herio agweddau troseddwyr ifanc a'u helpu i ddeall yr effaith a gaiff eu hymddygiad ar eraill, yn arbennig y dioddefwr;
  • ymyrryd cyn mynd i'r llys i sicrhau, lle y bo'n bosibl, datrysiad y mae'r troseddwr a'r dioddefwr yn ei dderbyn;
  • paratoi adroddiadau cyn y ddedfryd, sy'n cynnwys ymchwilio i gefndir person ifanc a siarad gydag ef a'i deulu;
  • goruchwylio pobl ifanc mewn perthynas â gorchmynion llys a dedfrydau cymunedol a'u helpu i beidio ag aildroseddu;
  • annog troseddwyr ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau adeiladol fel Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru, neu eu helpu i gael swydd neu le ar gwrs hyfforddi;
  • cysylltu â chydweithwyr yn y tîm troseddau ieuenctid a sefydliadau partner;
  • llunio adroddiadau, casglu gwybodaeth ystadegol a chadw cofnodion cyfrinachol yn briodol.

Sgiliau a Galluoedd
Mae angen y canlynol ar swyddogion tîm troseddau ieuenctid llywodraeth leol:

  • sgiliau cyfathrebu a'r gallu i feithrin perthnasau da â phobl ifanc a'u teuluoedd;
  • rhywfaint o wybodaeth am y system gyfreithiol;
  • hyder a phendantrwydd i ddelio ag ymddygiad heriol;
  • sgiliau ysgrifennu adroddiadau;
  • y gallu i beidio â beirniadu a bod yn deg wrth drin troseddwyr ifanc.

Gofynion Mynediad
Gall cyflogwyr cyngor lleol dderbyn cymwysterau a phrofiad amrywiol mewn perthynas â swyddogion tîm troseddau ieuenctid, megis gradd neu ddiploma mewn gwaith cymdeithasol, gradd neu ddiploma mewn astudiaethau ieuenctid a chymunedol neu waith ieuenctid, neu gymhwyster proffesiynol perthnasol arall.  Gall cymhwyster addysgu hefyd fod yn dderbyniol.

Mae'r fframwaith cymwysterau cyfiawnder ieuenctid cenedlaethol a ddatblygwyd gan y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn cynnig amrywiaeth o gymwysterau proffesiynol a luniwyd i gefnogi'r rheini sy'n gweithio ar lefelau gwahanol ym maes cyfiawnder ieuenctid.  Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Tystysgrif Proffesiynol mewn Arfer Effeithiol (Cyfiawnder Ieuenctid);
  • graddau sylfaen;
  • Rhaglen y Porth Cyfiawnder Ieuenctid, sy'n cynnwys y llwybrau mynediad canlynol: Rhaglen Staff ar Ymwybyddiaeth Pobl Ifanc, Uwch Brentisiaethau, Gwobr Arfer Effeithiol, cwrs Sgiliau Astudio;
  • Hyfforddiant Mewn Swydd ar Arfer Effeithiol.

Mae'r Brifysgol Agored yn cynnig gradd sylfaen mewn cyfiawnder ieuenctid i'r rheini a gyflogir gan y sector cyfiawnder ieuenctid ar hyn o bryd, gwirfoddolwyr neu'r rheini sy'n gobeithio gweithio yn y maes hwn.  Byddai profiad blaenorol o weithio gyda phlant a phobl ifanc a rhywfaint o wybodaeth am y system cyfiawnder ieuenctid o fantais.  Gallai fod cyfleoedd i gael profiad gwaith gyda phobl ifanc yn y system cyfiawnder ieuenctid drwy wirfoddoli.  Gall y cyfleoedd gynnwys gweithio gydag oedolyn priodol, mentor, ynad, neu amrywiaeth o rolau eraill.  

Cyfleoedd yn y Dyfodol
Ceir llwybr gyrfaol clir ar gyfer y rheini sy'n gweithio gyda thîm troseddau ieuenctid mewn llywodraeth leol drwy gwblhau cymwysterau perthnasol o fewn y fframwaith cymwysterau cyfiawnder ieuenctid cenedlaethol.  Gall gweithwyr tîm troseddau ieuenctid profiadol gael swydd fel uwch ymarferydd neu symud i mewn i swyddi goruchwylio fel arweinydd/rheolwr tîm troseddau ieuenctid.  Yn aml ceir cyfleoedd i arbenigo mewn meysydd gwaith penodol, fel mechnïaeth a'r ddalfa, gweithio gyda throseddwyr mynych, atal troseddau ieuenctid, addysg a hyfforddiant neu gamddefnyddio sylweddau.   Drwy hyfforddiant priodol, gallai fod cyfleoedd i symud i feysydd eraill o wasanaethau plant a phobl ifanc, megis gwaith cymdeithasol a lles addysg.
 
Rhagor o Wybodaeth a Gwasanaethau
Cyngor Gofal Cymru www.ccwales.org.uk
Cyngor Iechyd a Phroffesiynau Gofal www.hpc-uk.org 
Y Cyngor Cenedlaethol Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol www.ncvys.org.uk
Y Gwasanaeth Rheoli Troseddau Cenedlaethol www.justice.gov.uk/about/noms
Yr Asiantaeth Ieuenctid Genedlaethol www.nya.org.uk
Y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid www.yjb.gov.uk

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y maes gwaith hwn drwy Yrfa Cymru (www.gyrfacymru.com) neu yn eich llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links