Diddanu eich cymuned - datblygu twristiaeth llywodraeth
leol
Cyflwyniad
Mae swyddogion twristiaeth llywodraeth leol yn gyfrifol am
ddatblygu strategaeth dwristiaeth y cyngor, hybu twristiaeth a
chefnogi'r holl fusnesau'n gysylltiedig â thwristiaeth yn yr ardal
leol. Fe'u cyflogir ym mhob math o gyngor.
Amgylchedd Gweithio
Yn arferol mae swyddogion twristiaeth llywodraeth leol yn gweithio
o swyddfa, ond gall fod yn ofynnol iddynt deithio i ganolfannau
croeso ac atyniadau twristiaid.
Gweithgareddau dyddiol
Gall twristiaeth gael effaith enfawr ar dref neu ranbarth ac mae
ganddo botensial mawr i gynyddu ffyniant ardal. Mae swyddogion
twristiaeth llywodraeth leol yn gweithio i ddatblygu'r potensial
hwn a gallant ymwneud â rhai neu'r cyfan o'r tasgau isod:
- hybu atyniadau twristiaeth presennol trwy ymgyrchoedd
hysbysebu, gweithio â'r cyfryngau digidol a datblygu llenyddiaeth
hyrwyddo;
- cynnal gwaith ymchwil ynghylch atyniadau twristiaeth presennol
i gael adborth gan gwsmeriaid er mwyn gwneud
gwelliannau;
- gweithio â'r cyfryngau a mudiadau partner lleol eraill i godi
proffil yr ardal leol, creu cyhoeddusrwydd cadarnhaol a chreu brand
ar gyfer yr ardal;
- trefnu stondinau arddangos mewn cynadleddau cenedlaethol i
hyrwyddo'r ardal;
- denu cynadleddau a seminarau busnes i'r ardal;
- darparu cymorth ac arweiniad, a gweinyddu cyllid weithiau, i
fusnesau lleol yn gysylltiedig â thwristiaeth a chynghori busnesau
twristiaeth newydd;
- annog datblygu swyddi newydd yn y sector
twristiaeth;
- denu cyllid datblygu twristiaeth i'r ardal;
- asesu effaith unrhyw ddatblygiadau arfaethedig ar yr amgylchedd
leol yn erbyn y manteision potensial;
- cysylltu â busnesau twristiaeth lleol megis trefnwyr teithiau,
bwytai a gwestai i asesu pa mor effeithiol yw'r polisïau datblygu
twristiaeth presennol a datblygu strategaeth datblygu
twristiaeth;
- goruchwylio canolfannau croeso'r cyngor.
Sgiliau a diddordebau
Mae angen i swyddogion twristiaeth llywodraeth leol feddu ar:
- sgiliau cyfathrebu rhagorol, a medru ymgynghori ag amrywiaeth
eang o bobl;
- creadigrwydd a meddwl strategol ac arloesol;
- sgiliau cysylltiadau cyhoeddus a marchnata da;
- sgiliau gwasanaethau cwsmer rhagorol;
- sgiliau rheoli cyllideb;
- sgiliau trefnu da.
Gofynion mynediad
Er nad oes unrhyw ofynion mynediad penodol, mae'r rhan fwyaf o
gynghorau lleol yn gofyn am beth profiad blaenorol yn y diwydiant
twristiaeth/teithio. Gall cymwysterau perthnasol fod yn ofynnol,
megis gradd neu Ddiploma Cenedlaethol Uwch mewn Twristiaeth a
Theithio, Marchnata, neu Ddatblygu Economaidd o bosibl. Mae cyrsiau
NVQ Twristiaeth a Theithio ar gael hefyd ar Lefel 2 a
3.
Cyfleoedd a rhagolygon yn y dyfodol
Mae llwybr cynnydd o gynorthwy-ydd gwybodaeth twristiaeth, i
swyddog twristiaeth cynorthwyol ac yna swyddog twristiaeth. Mae'n
bosibl symud ymlaen trwy gael swydd reoli, un ai yn yr adran
datblygu twristiaeth neu mewn adran arall fel datblygu economaidd
neu adfywio.
Swyddi cysylltiedig
Dilynwch y ddolen hon i weld rhestr o'r holl swyddi cysylltiedig
ym maes Diddanu eich Cymuned
Rhagor o Wybodaeth
ABTA www.abta.com
Institute of Travel and Tourism www.itt.co.uk
People 1st www.people1st.co.uk
The Chief Cultural & Leisure Officers Association www.cloa.org.uk
The Tourism Society www.tourismsociety.org
Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich
ysgol.
Related Links