Cyflwyniad
 Y derbynnydd yw'r gweithiwr y bydd y rhan fwyaf o ymwelwyr yn ei
weld gyntaf.  Mae derbynyddion yn holl adeiladau'r cyngor ac
mae'n bwysig iddyn nhw fod yn gyfeillgar ac yn groesawgar - gall eu
hagwedd effeithio ar y modd y bydd ymwelydd yn gweld y cyngor i
gyd.
Amgylchiadau'r gwaith
 Mae'r rhan fwyaf o dderbynyddion yn gweithio wrth gownter derbynfa
yng nghyntedd un o adeiladau'r cyngor.  Gall fod gofyn i rai
wisgo dillad unffurf.
37 awr yw'r wythnos safonol fel arfer, er y gallai fod rhaid
gweithio shifftiau weithiau - gyda'r nos a thros y Sul.
Gweithgareddau beunyddiol
 Gall dyletswyddau amrywio yn ôl yr adeilad neu'r adran. 
Efallai y bydd rhaid gweithio fel a ganlyn, fodd bynnag:
- agor a chau'r dderbynfa yn ôl gweithdrefnau diogelwch
perthnasol;
 
- cyfarch ymwelwyr, cofnodi eu henwau a gwirio â phwy maen nhw'n
ymweld;
 
- ffonio'r swyddog hwnnw a rhoi gwybod iddo fod yr ymwelydd wedi
cyrraedd (yn achos ymwelydd annisgwyl, dweud yr hoffai rhywun ei
weld);
 
- gofyn i ymwelwyr lofnodi'r gofrestr wrth gyrraedd a
gadael;
 
- rhoi bathodynnau i ymwelwyr i ddibenion diogelwch;
 
- defnyddio drws diogelwch i ofalu mai dim ond gyda chaniatâd y
bydd pobl yn cael mynd i mewn i'r adeilad;
 
- ateb y ffôn a throsglwyddo galwadau mewnol ac allanol i'r
swyddog priodol;
 
- derbyn negeseuon i weithwyr nad ydyn nhw wrth eu desgiau;
 
- llofnodi am barseli a phecynnau ar ran y cyngor;
 
- helpu i ddidoli a dosbarthu'r post;
 
- gofalu bod y dderbynfa'n lân ac yn daclus;
 
- cyflawni gorchwylion gweinyddol ac ysgrifenyddol megis teipio
llythyrau a diweddaru cofnodion;
 
- archebu tacsis a negeswyr;
 
- neilltuo ystafelloedd cyfarfod;
 
- archebu deunydd ysgrifennu.
 
Medrau a diddordebau
 Mae angen y canlynol:
- agwedd gyfeillgar a chroesawgar;
 
- gallu cyfathrebu'n dda â phobl o bob lliw a llun;
 
- gallu trosglwyddo negeseuon mewn modd eglur a chryno;
 
- gallu osgoi cynhyrfu o dan bwysau - er enghraifft, os yw'r ffôn
yn canu yn y dderbynfa pan foch chi'n ymwneud ag ymwelwyr;
 
- medrau trefnu da a'r gallu i flaenoriaethu gorchwylion;
 
- gallu ymaddasu a symud o'r naill orchwyl i'r llall yn ôl yr
angen;
 
- natur broffesiynol a'r gallu i ofalu am gwsmeriaid;
 
- gallu trin a thrafod cyfrifiaduron;
 
- medru'r Gymraeg.
 
Meini prawf derbyn
 Does dim llwybr penodol i'r gwaith hwn.  Yn aml, bydd profiad
o ofalu am gwsmeriaid a rhinweddau personol megis brwdfrydedd a
medrau cyfathrebu da yn bwysicach na chymwysterau.  Bydd y
rhan fwyaf o gyflogwyr yn mynnu addysg o safon dda, fodd bynnag,
megis TGAU neu gymhwyster cyfwerth mewn pynciau megis mathemateg a
Saesneg.
Gallai fod modd astudio ar gyfer Cymhwyster Galwedigaethol
Cenedlaethol neu fwrw prentisiaeth mewn maes megis gweinyddu busnes
neu ofal cwsmeriaid wedyn.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
 Does dim llwybr dyrchafu unffurf yn y swydd hon - mae gwaith
derbynnydd yn ffordd dda o feithrin amryw fedrau allai'ch arwain at
nifer o feysydd.  Gallech chi benderfynu symud i rôl weinyddol
mewn adran benodol neu ddatblygu gyrfa yn y gwasanaethau i
gwsmeriaid.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
 Sefydliad Trwydded Defnyddio Cyfrifiaduron Ewrop: www.ecdl.com
 Sefydliad Gofal Cwsmeriaid: www.instituteofcustomerservice.com
Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd
eich ysgol.
       
      
          Related Links