Cynorthwywr cysylltiadau cyhoeddus

Cyflwyniad
Mae cysylltiadau cyhoeddus yn ymwneud â chyfleu delwedd gadarnhaol i'r cyhoedd - trwy'r cyfryngau (papurau newydd, cylchgronau, y radio a'r teledu) fel arfer.  Mae cynorthwywyr cysylltiadau cyhoeddus yn gweithio mewn awdurdodau lleol o bob math, gan ofalu bod gwaith da'r cyngor yn hysbys ymhlith y cyhoedd.  Gan fod y cyfryngau'n fwyfwy pwysig yn ein cymdeithas ni, mae pwysigrwydd maes cysylltiadau cyhoeddus - a nifer y swyddi sydd ynddo - ar gynnydd.

Amgylchiadau'r gwaith
Mae rhywfaint o waith i'w wneud yn y swyddfa, ond rhaid mynd allan yn aml i gwrdd â newyddiadurwyr a threulio peth amser yn yr achlysuron sydd i'w hyrwyddo.

Gweithgareddau beunyddiol
Gwaith y cynorthwywyr cysylltiadau cyhoeddus yw helpu'r swyddogion cysylltiadau cyhoeddus i gyflawni nodau'r tîm - sef hyrwyddo'r cyngor ymhlith pobl y fro a/neu'r wlad a gofalu bod yr wybodaeth briodol yn hysbys i'r cyhoedd a'r cyfryngau.  Gall y gwaith fod yn rhagweithredol:

  • casglu gwybodaeth am ddigwyddiadau sydd i ddod a gwaith y cyngor;
  • llunio datganiadau i'r wasg;
  • cael sêl bendith er mwyn eu cyhoeddi;
  • eu hanfon at newyddiadurwyr a phobl eraill sydd ar y rhestr bostio;
  • ffonio newyddiadurwyr i weld a yw stori o ddiddordeb iddyn nhw;
  • anfon gwybodaeth ddilynol atyn nhw;
  • trefnu sesiynau tynnu lluniau a chyfweliadau, gan gynnwys achlysuron lansio;
  • darllen trwy bapurau newydd a chylchgronau, gan gasglu pigion i ddangos ble mae erthyglau wedi'u cyhoeddi;
    neu'n ymatebol:
  • ymateb i geisiadau newyddiadurwyr am wybodaeth;
  • cynnal ymchwil i ddata - ar gais cydweithwyr ac adrannau eraill o'r cyngor, er enghraifft.

Gallai fod angen cynnal ymchwil i gytundebau newydd trwy ffonio papurau newydd, cylchgronau, gorsafoedd radio a sianeli teledu i siarad â'r bobl briodol.  Fe allai fod rhaid gweithio yn ôl amserlenni caeth yn yr adran (pan fo rhywbeth ar fin digwydd) a gyda newyddiadurwyr (pan fo dogfen neu raglen ar fin cael ei chyhoeddi/darlledu). Wrth drefnu achlysur, gallai fod angen dod o hyd i rywle addas ar ei gyfer, dod o hyd i enwogion a threfnu lluniaeth.  Yn ystod achlysur, gallai fod rhaid gofalu am y wasg, y ffotograffwyr neu'r pwysigion.
 
Medrau a diddordebau
Mae angen y canlynol:

  • medrau cyfathrebu da (ar lafar ac ar bapur fel ei gilydd) - ynghyd â'r gallu i ennyn diddordeb newyddiadurwr fel y bydd yn fodlon cyhoeddi erthygl;
  • meddwl rhesymegol - gallu cyfleu hanfod stori'n gryno;
  • gallu trin a thrafod amryw orchwylion yr un pryd;
  • gallu gweithio'n dda o dan bwysau ac yn ôl amserlenni;
  • rhadlonrwydd;
  • dyfalbarhad - i wneud yn siwr eich bod yn cyfleu'ch neges.

Meini prawf derbyn
Does dim llwybr safonol i'r maes hwn.  Gallai Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol yn astudiaethau'r cyfryngau fod yn ddefnyddiol yn ogystal â chymwysterau Cyngor Addysg Busnes a Technoleg a/neu ddiploma/tystysgrif mewn maes megis busnes, cyllid neu farchnata.  Fe fydd rhai cynghorau'n mynnu gradd.  Mae nifer o gyrsiau prifysgol ac iddyn nhw gysylltiadau cyhoeddus, marchnata neu astudiaethau'r cyfryngau yn brif bwnc.  Mae diplomâu i ôl-raddedigion a graddau meistr ym maes cysylltiadau cyhoeddus, hefyd.  Ar ôl eich penodi, cewch chi astudio ar gyfer cymwysterau Sefydliad yr Addysg am Gyfathrebu, Hysbysebu a Marchnata neu Sefydliad Breiniol Marchnata.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Mae nifer y cynorthwywyr cysylltiadau cyhoeddus yn amrywio'n sylweddol yn ôl pa mor fawr yw'r awdurdod lleol.  Mae'n bosibl cael dyrchafiad yn swyddog cysylltiadau cyhoeddus ac, yn y pen draw, yn gyfarwyddwr cysylltiadau cyhoeddus.  Mae modd symud i awdurdodau eraill ar gyfer dyrchafiad, hefyd.  Mae swyddi cysylltiadau cyhoeddus y tu allan i faes llywodraeth leol - er enghraifft, yn y byd masnachol.  Gallai rolau marchnata a hysbysebu fod o ddiddordeb, hefyd.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Sefydliad Breiniol Cysylltiadau Cyhoeddus: www.cipr.co.uk
Sefydliad Breiniol Marchnata: www.cim.co.uk
Sefydliad yr Addysg am Gyfathrebu, Hysbysebu a Marchnata: www.camfoundation.com

Fe gewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links