Cyflwyniad
Yn sgîl Deddf y Gymraeg 1993, rhaid i bob corff cyhoeddus drin a
thrafod y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal wrth gysylltu â'r
cyhoedd. Felly, ym myd llywodraeth leol, fe ddylai pob cyngor
gynnig gwasanaethau dwyieithog fel y gall pobl gael gwybodaeth a
chyfathrebu â staff y cyngor yn yr iaith sydd orau gyda nhw - naill
ai'r Saesneg neu'r Gymraeg. Mae Mesur y Gymraeg 2011 yn dweud
bod statws cyfreithiol y ddwy iaith yn gyfartal, hefyd. O
ganlyniad, mae gan sawl cyngor ei gyfieithwyr ei hun i ofalu bod
gwybodaeth berthnasol ar gael yn y ddwy iaith, bod pobl yn cael
ysgrifennu i'r cyngor a chael ymateb yn yr iaith sydd orau gyda nhw
a bod pobl mewn cyfarfodydd yn gallu deall beth sy'n digwydd a
chyfrannu yn y naill iaith neu'r llall.
Amgylchiadau'r gwaith
Yn y swyddfa mae gwaith cyfieithu testunau'n digwydd fel arfer, er
y gallai cyfieithwyr ymweld ag unedau dylunio ac argraffu weithiau
i gywiro proflenni. Gallai fod angen cyfieithu ar y pryd mewn
unrhyw gyfarfod yn y cyngor neu'r gymuned ehangach, fodd bynnag, i
ryw ddibenion megis gwaith y cyngor, llywodraethu ysgol neu
ymgynghori â'r cyhoedd. 37 awr yw'r wythnos safonol a gallai
fod rhaid gweithio yn y nos ambell waith wrth gyfieithu mewn
cyfarfodydd. Mae peth teithio lleol a gallai fod angen cario
rhywfaint o offer ar gyfer cyfieithu ar y pryd.
Gweithgareddau beunyddiol
Mae cyfieithwyr y cynghorau'n treulio'r rhan fwyaf o'r dydd wrth y
cyfrifiadur naill ai'n cyfieithu testunau, yn golygu deunydd neu'n
gwirio proflenni. Pan fo angen cyfieithu ar y pryd mewn
cyfarfod, efallai y bydd rhaid teithio unrhyw le yn yr ardal a
pharatoi offer sain yno. Y prif gyfieithydd sy'n rheoli'r
uned, gan ddyrannu gwaith a phennu'r blaenoriaethau. Rhaid
gorffen y rhan fwyaf o orchwylion cyfieithu yn ôl amserlenni - rhai
ar fyr rybudd. Dyma grynodeb o'r prif ddyletswyddau:
- cyfieithu testunau ar amryw ffurfiau cyfrifiadurol;
- cyfieithu cynnwys gwefannau trwy raglenni golygu ar y we;
- defnyddio meddalwedd cof cyfieithu;
- defnyddio adnoddau ar y we i wirio geirfa;
- darllen a chywiro testunau sydd wedi'u cyfieithu;
- darllen a chywiro proflenni argraffwyr;
- cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd a seminarau;
- trafod materion megis geirfa ac arddulliau gyda
chydweithwyr;
- trafod materion megis cynnwys ac amserlenni gyda
chwsmeriaid;
- comisiynu gwaith gan gyfieithwyr preifat pan fo angen;
- gwirio gwaith cyfieithwyr preifat;
- cofnodi'r gwaith i gyd ar gyfer anfonebau;
- cadw golwg ar ddatblygiadau ym maes cyfieithu, gan gynnwys
cymryd rhan mewn gweithgareddau hyfforddi a datblygu.
Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai pwysicaf:
- gafael gadarn ar y Gymraeg a'r Saesneg, yn arbennig
gramadeg;
- medrau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac ar bapur fel ei
gilydd;
- medrau rhagorol ynglŷn â thrin a thrafod cyfrifiaduron;
- manwl gywirdeb;
- medrau trefnu rhagorol;
- gallu gweithio o dan bwysau ac yn ôl amserlenni caeth;
- gallu gweithio mewn ystafell dawel am oriau;
- gallu gweithio o'ch pen a'ch pastwn eich hun;
- gallu gweithio'n dda mewn tîm;
- hyder ac agwedd ddymunol.
Meini prawf derbyn
Y gofyn lleiaf fydd gradd yn y Gymraeg neu bwnc cysylltiedig megis
Astudiaethau Celtaidd, fel arfer. Fe allai diploma ym maes
cyfieithu ar ôl graddio fod o gymorth, hefyd. Ar ôl gweithio
dan oruchwyliaeth am dair blynedd, byddwch chi'n cael sefyll
arholiadau cyfieithu a/neu gyfieithu ar y pryd i fod yn aelod
cyflawn o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru - corff proffesiynol
cyfieithwyr yng Nghymru.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Mae mwy a mwy o alw am gyfieithwyr ym myd llywodraeth leol a'r
sector gwladol ehangach er mwyn ateb gofynion y gyfraith megis
Deddf y Gymraeg 1993 a Mesur y Gymraeg 2011. Mae rhai cwmnïau
preifat yn arbenigo mewn cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg,
hefyd. Y llwybr arferol yng ngyrfa cyfieithwyr profiadol yw
dyrchafu i rôl oruchwylio (uwch gyfieithydd) a phrif gyfieithydd yn
y pen draw, er y gallai fod rhaid symud i gyngor arall ar gyfer
hynny. Mae swyddi i gyfieithwyr yn y byd academaidd a'r
cyfryngau, hefyd. Gallai fod swyddi yn amryw sefydliadau
Undeb Ewrop yn y pen draw, ond bydd hynny'n dibynnu ar statws
swyddogol y Gymraeg yno.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru: www.cyfieithwyrcymru.org.uk
Chartered Institute of Linguists: www.iol.org.uk
Institute of Translation and Interpreting: www.iti.org.uk
National Register of Public Service Interpreters: www.nrpsi.co.uk
Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd
eich ysgol.