Digwyddiadau / swyddog adloniant

Cyflwyniad
Mae swyddogion digwyddiadau/adloniant yn cynllunio, datblygu a hyrwyddo adloniant a digwyddiadau arbennig, o fewn ardal awdurdod lleol. Maent yn ceisio darparu rhywbeth i bawb - beth bynnag fo'u diddordebau neu oedran. Gallai digwyddiadau gynnwys sioeau theatrig, arddangosfeydd, cyngherddau, cynadleddau, ffeiriau Nadolig, gwyliau, cyfarfodydd chwaraeon a ffeiriau crefft.

Amgylchedd Gwaith
Mae swyddogion digwyddiadau ac adloniant yn treulio rhywfaint o'u hamser yn swyddfeydd y cyngor a rhan o'u hamser yn teithio o gwmpas i ymweld â lleoliadau.

Gweithgareddau dyddiol
Yn aml mae swyddogion digwyddiadau/ adloniant yn gweithio naill o fewn adrannau gwasanaethau hamdden, marchnata neu dwristiaeth y cyngor. Fel swyddog ddigwyddiadau, gallai eich dyletswyddau gynnwys:

  • meddwl am syniadau newydd ar gyfer digwyddiadau a chasglu gwybodaeth ar ddigwyddiadau neu atyniadau mewn rhannau eraill o'r wlad;
  • mynychu cyfarfodydd gyda swyddogion eraill y cyngor i drafod syniadau a gwneud penderfyniadau ar ba rai i'w dwyn ymlaen;
  • troi'r syniadau hynny'n gynlluniau strategol ac, yn y pen draw, rhaglen o ddigwyddiadau;
  • cysylltu gydag awdurdodau cyfagos er mwyn osgoi dyblygu digwyddiadau;
  • gwneud cais am grantiau, arian neu nawdd;
  • gwneud penderfyniadau ar sut i ddefnyddio'r arian sydd ar gael fwyaf effeithiol a monitro cyllidebau'n agos;
  • penderfynu ar leoliadau a chysylltu gyda rheolwyr lleoliadau;
  • cydlynu'r holl bobl sy'n ymwneud â rhoi digwyddiad at ei gilydd;
  • archebu artistiaid a pherfformwyr a thrafod eu ffioedd;
  • ysgrifennu datganiadau i'r wasg a / neu ddeunyddiau marchnata, neu gysylltu ag adrannau marchnata;
  • delio gyda'r cyfryngau i sicrhau bod digwyddiadau'n cael eu hyrwyddo'n dda;
  • trefnu cyfleoedd am luniau;
  • gwerthuso llwyddiant digwyddiadau ac ysgrifennu a chyflwyno adroddiadau.

Sgiliau a Diddordebau
Rhaid i swyddogion digwyddiadau/ adloniant fod:

  • yn drefnus a gallu gweithio i derfynau amser,
  • yn gyfathrebwyr da ac yn gallu cyflwyno eu syniadau yn glir,
  • yn gallu trafod,
  • yn llawn cymhelliant ac yn frwdfrydig,
  • yn dda am gynllunio a threfnu,
  • yn defnyddio dychymyg,
  • yn gallu ymdopi â sawl tasg ar yr un pryd,
  • yn gallu rheoli prosiectau cyfan a chydlynu llawer o bobl.

Gofynion Mynediad
Er nad oes unrhyw ofynion mynediad penodol ar gyfer y swydd hon, gallai pobl sydd â rhywfaint o brofiad blaenorol o drefnu digwyddiadau a marchnata ei chael hi'n haws i gael swydd. Mae gan y rhan fwyaf o newydd-ddyfodiaid radd neu gyfwerth - mae pynciau defnyddiol yn cynnwys marchnata, gweinyddu'r celfyddydau, astudiaethau busnes, hamdden a thwristiaeth, a rheoli hamdden.

Gall fod yn bosibl dechrau ar lefel cymhorthydd a mynychu coleg rhan amser i ennill N/SVQ neu Brentisiaeth yn y Celfyddydau ac Adloniant neu Dreftadaeth Ddiwylliannol.

Rhagolygon a chyfleoedd y dyfodol
Gan ddibynnu ar faint y cyngor, gall fod yn bosibl symud ymlaen i swydd reoli. Mae'n bosibl y bydd cyfleoedd hefyd i symud i feysydd tebyg o waith, megis gweinyddu'r celfyddydau, twristiaeth neu hamdden a rheoli hamdden.

Mwy o Wybodaeth a Gwasanaethau
Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol www.cciskills.org.uk
Athrofa Rheoli Hamdden ac Amwynder  www.ilam.co.uk

Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/) y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich ysgol.

Related Links