Cyflwyniad
 Mae rhai cynghorau'n galw swyddogion trwyddedu'n
swyddogion gorfodi.  Mae gofyn i bob cyngor ofalu bod cerbydau
preifat sydd ar log (tacsis, bysiau bach, bysiau ysgol a choetsis)
yn ddiogel i deithio ynddyn nhw.  At hynny, rhaid gofalu bod
safleoedd ar gyfer adloniant cyhoeddus megis tafarnau, clybiau,
mannau lle bydd cerddoriaeth ac adloniant byw, neuaddau
ysgol/pentref a'r nifer cynyddol o fannau lle bydd priodasau yn
cadw at reoliadau iechyd a diogelwch ac is-ddeddfau lleol.
Amgylchiadau'r gwaith
 Bydd rhywfaint o'r gwaith yn swyddfeydd y cyngor lle bydd
tafarnwyr a gyrwyr yn dod i gyflwyno cais am drwydded.  Bydd
rhai swyddogion yn ymwneud ag archwilio cerbydau a safleoedd mewn
amryw fannau, hefyd.  Bydd rhywfaint o'r gorchwylion yn
rheolaidd a rhywfaint yn sgîl cwynion neu wybodaeth mae'r cyhoedd
wedi'u rhoi. Er enghraifft, gall fod rhaid ymweld â thafarn os yw
rhywun wedi rhoi gwybod bod disgo yno heb drwydded.  37 awr
yw'r wythnos safonol, gan gynnwys peth gwaith gyda'r nos a thros y
Sul.
Gweithgareddau beunyddiol
 I gael trwydded neu fathodyn, rhaid i yrwyr lenwi
ffurflenni cais, dangos pa mor dda maen nhw'n adnabod y fro trwy
brawf ysgrifenedig a rhoi tystiolaeth eu bod wedi cael archwiliad
meddygol a bod yr heddlu wedi gwirio eu cefndir.
Bydd swyddog trwyddedu'n eu helpu i lenwi'r ffurflenni lle bo
angen, yn ogystal â goruchwylio'r prawf.  Bydd yn gwirio'r
wybodaeth ac yn rhoi trwydded am gyfnod penodol.  Yn ystod y
cyfnod hwnnw, bydd yn archwilio'r cerbyd heb rybudd, gan ofyn am
gerdyn adnabod y gyrrwr, gwirio'r mesurydd ac edrych ar nodweddion
diogelwch y cerbyd.  Os nad yw'n fodlon, mae ganddo hawl i
wahardd y gyrrwr a mynnu iddo fynd i ganolfan lle bydd modd
archwilio ei gerbyd yn fanwl.  Mae'r rhan fwyaf o'r gorfodi
hwnnw'n digwydd fin nos a thros y Sul.  Ar ben hynny, bydd
swyddogion yn edrych yn rheolaidd ar restr y gyrwyr ddylai
adnewyddu eu trwyddedi cyn bo hir ac yn cysylltu â'r rhai sydd heb
gyflwyno cais eto.
Ynglŷn â thrwyddedi adloniant cyhoeddus, bydd swyddogion
trwyddedu'n ymweld â'r safle a chyfweld y perchennog.  Yna,
byddan nhw'n holi'r heddlu, y gwasanaeth tân a swyddogion iechyd
amgylcheddol a ydyn nhw yn erbyn rhoi trwydded am resymau
diogelwch, trefn gyhoeddus, glanweithdra neu sŵn.  Byddan
nhw'n rhoi hysbysiad o'r cais yn y wasg leol ac yn cofnodi unrhyw
wrthwynebiad gan y cyhoedd.  Ar ôl hynny i gyd, byddan nhw'n
argymell y dylai cynghorwyr y bwrdd trwyddedu naill ai roi neu
wrthod y drwydded.
Mae'r swyddogion yn gyfrifol am roi bathodynnau i staff
diogelwch clybiau hefyd, yn ogystal â gofalu eu bod wedi cael yr
hyfforddiant priodol.  Pe bai cais wedi'i wrthod, a'r
ymgeisydd yn cyflwyno apêl, gallai fod rhaid i swyddog roi
tystiolaeth yn y llys.
Medrau a diddordebau
 Bydd angen: 
- medrau cyfathrebu rhagorol - ar lafar a thrwy lythyr fel ei
gilydd;
 
- gallu trin a thrafod pobl o bob lliw a llun;
 
- hyder wrth siarad yn gyhoeddus - wrth gyflwyno tystiolaeth yn y
llys;
 
- agwedd dringar - am y gallai ambell un golli ei dymer - a gallu
gwrando'n astud tra bo rhywun yn bwrw ei fol.
 
Rhaid gwybod rhannau perthnasol o'r gyfraith ym maes llywodraeth
leol yn drylwyr, yn ogystal â Deddf 'Tystiolaeth Heddluoedd a
Throseddwyr'.
Meini prawf ymgeisio
 Fel arfer, bydd cynghorau'n mynnu 4 TGAU (A*-C), gan
gynnwys mathemateg a Saesneg, er y bydd cymwysterau uwch megis
gradd prifysgol gan sawl ymgeisydd.  Bydd angen profiad o
gynghori'r cyhoedd neu ofalu am gwsmeriaid, yn aml.  Felly,
mae'r swydd yn addas i rywun fu'n swyddog mewn heddlu neu yn y
lluoedd arfog.  Bydd angen trwydded yrru ddi-farc,
hefyd.  Yn y gwaith y bydd yr hyfforddiant, er y gallai'ch
cyflogwyr adael ichi fanteisio ar gyrsiau byrion Cymdeithas y
Swyddogion Trwyddedu a Gorfodi dros Dacsis a Cherbydau Preifat ar
Log.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
 Mae modd cael eich dyrchafu'n uwch swyddog trwyddedu sy'n
gyfrifol am waith nifer o swyddogion trwyddedu/gorfodi a
swyddogion/cynorthwywyr gweinyddu.  Gallai fod mewn cyngor
bychan un swyddog trwyddedu ac un uwch swyddog.  Mewn cyngor
mawr, fodd bynnag, gallai fod dau swyddog trwyddedu ac un uwch
swyddog.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
 Sefydliad Breiniol y Gweithredwyr Cyfreithiol www.ilex.org.uk 
 Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch - Trwyddedu gweithgareddau
antur 
www.hse.gov.uk 
 Cymdeithas y Gyfraith www.lawsociety.org.uk 
 Cymdeithas Masnachwyr Diwydiant Trwyddedu www.licensing.org 
 Cymdeithas y Swyddogion Trwyddedu a Gorfodi dros Dacsis a
Cherbydau Preifat ar Log 
www.naleo.org.uk
Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/),
y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich
ysgol.