Swyddog safonau masnach

Yn diogelu eich cymuned mewn adrannau safonau masnach llywodraeth leol
 
Cyflwyniad
Mae swyddogion safonau masnach llywodraeth leol yn gweithio i ddiogelu'r cyhoedd - maent yn helpu i amddiffyn busnesau a phrynwyr rhag masnachwyr diegwyddor ac arferion masnachu anghyfreithlon.  Ceir hyd i swyddogion safonau masnach mewn cynghorau sir, unedol a metropolitan.

Amgylchedd Gwaith
Mae swyddogion safonau masnach llywodraeth leol yn gweithio o swyddfeydd, ond yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn ymweld â masnachwyr a chyflenwyr. Mae'n bosibl y bydd angen iddynt ymddangos yn y llys i roi tystiolaeth, ac mae'n rhaid iddynt fynd i mewn i adeiladau o bob math, y mae rhai ohonynt yn fudr ac yn annymunol. Gallant weithio ar eu pen eu hunain, neu o fewn tîm yn dibynnu ar faint ymchwiliad.  Byddant yn gweithio wythnos waith 37 awr safonol.

Gweithgareddau Dyddiol
Os ydych erioed wedi prynu dilledyn gan ddylunydd ac arno label ffug neu eitem drydanol anniogel, efallai y bu angen cymorth swyddog safonau masnach arnoch. Bydd swyddogion safonau masnach llywodraeth leol yn amddiffyn defnyddwyr rhag twyll, nwyddau ffug neu anniogel ac arferion troseddol.

Mae tri phrif nod i waith safonau masnach:

  • addysgu, hysbysu a chynghori defnyddwyr;
  • addysgu, hysbysu a chynghori busnesau;
  • sicrhau bod masnachu'n digwydd mewn amgylchedd teg a diogel.

Mae gan swyddogion safonau masnach llywodraeth leol amryw o rolau pwysig. Maent yn rhoi cyngor i ddefnyddwyr ynglŷn â'u hawliau, yn monitro safon cynnyrch a gwasanaethau, yn cynnal arolygiadau o fusnesau'n rheolaidd, yn ymchwilio i gwynion ac, ar adegau, rhaid iddynt orfodi cyfraith defnyddwyr.  Mae'r gwaith yn amrywio yn ôl y lleoliad. Efallai y bydd y rhai hynny sy'n gweithio mewn ardaloedd gwledig yn treulio llawer o'u hamser ym myd iechyd anifeiliaid ac amaethyddiaeth, tra bydd y rhai sydd wedi'u lleoli mewn ardaloedd mwy trefol, o bosib, yn ymwneud â masnachwyr stryd, siopau a ffatrïoedd, a'r rhai sydd wedi'u lleoli'n agos at borthladdoedd yn gweithio'n agos gyda'r adran dollau'n archwilio nwyddau wedi'u mewnfudo.

Dyma rai o'r tasgau y gellid disgwyl i swyddog safonau masnach llywodraeth leol fod yn eu cyflawni:

  • sicrhau bod da byw yn cael eu cludo i'r farchnad yn y dull cywir;
  • gwirio peiriannau pwyso a labeli bwyd mewn siopau;
  • gwirio mesuriadau cwrw a gwirodydd mewn tafarndai;
  • ymdrin â masnachwyr sy'n gwerthu nwyddau diffygiol;
  • ymchwilio i ymgyrchoedd hysbysebu camarweiniol;
  • canfod peryglon posibl, fel nwyddau trydanol anniogel neu gerbydau sydd heb fod yn addas i fod ar y ffyrdd;
  • rhoi cyngor cyfreithiol i bobl ynglŷn â hawliau defnyddwyr;
  • rhoi tystiolaeth mewn achosion llys yn erbyn masnachwyr diegwyddor.

Y dewis olaf bob tro fydd gorfodi deddfwriaeth drwy'r llysoedd a bydd swyddogion safonau masnach yn ymwneud â'r gwaith o gasglu tystiolaeth, paratoi achos a rhoi tystiolaeth.  Bydd y rhan fwyaf o swyddogion safonau masnach llywodraeth leol hefyd yn cyflawni rôl cysylltiadau cyhoeddus ac addysg, gan dreulio peth amser yn rhoi sgyrsiau o flaen ysgolion a rhanddeiliaid.

Sgiliau a Diddordebau
Mae angen i swyddogion safonau masnach llywodraeth leol:

  • fod yn gyfathrebwyr gwych a gallu siarad â phobl o amryw o wahanol gefndiroedd; 
  • feddu ar sgiliau datrys problemau ac ymchwilio da; 
  • fod yn alluog yn ymarferol; 
  • fod yn dda am weithio ar eu cymhelliant eu hunain ac o fewn tîm; 
  • beidio cynhyrfu dan bwysau; 
  • fwynhau elfen o her.

Gofynion Mynediad
Mae cymwysterau proffesiynol y Sefydliad Safonau Masnach mewn materion defnyddwyr a safonau masnach i'w cael ar bedair lefel. Tystysgrif Sylfaen mewn Materion Defnyddwyr a Safonau Masnach; Tystysgrif Modiwl mewn Materion Defnyddwyr a Safonau Masnach; Diploma mewn Materion Defnyddwyr a Safonau Masnach (DCATS); Diploma Uwch mewn Materion Defnyddwyr a Safonau Masnach (HDCATS). Gallwch gyfuno eich astudiaethau â swydd gyflogedig a gweithio drwy'r cymwysterau, neu astudio am radd wedi'i hachredu gan y Sefydliad Safonau Masnach a dechrau dilyn cymwysterau proffesiynol ar lefel uwch.

Rhagolygon a chyfleoedd i'r dyfodol
Ceir llwybr gyrfa clir, o lefel dechnegol a chynorthwyol, hyd at gynghorydd defnyddwyr, swyddog safonau masnach, ac yna prif swyddog neu uwch swyddog a swyddi rheoli.  Efallai y bydd angen symud i gyngor lleol gwahanol er mwyn cael dyrchafiad.  Fodd bynnag, mae'n bosibl hefyd y bydd cyfleoedd i'w cael mewn gwasanaethau eraill sy'n diogelu'r cyhoedd o fewn llywodraeth leol, fel iechyd yr amgylchedd, cynllunio neu reoli adeiladu.

Gwybodaeth a Gwasanaethau Pellach
Gwybodaeth am Yrfaoedd Safonau Masnach www.tscareers.org.uk
Y Sefydliad Safonau Masnach www.tradingstandards.gov.uk

Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich ysgol.

Related Links