Swyddog rheoli’r celfyddydau

Diddanu'ch cymuned trwy reoli'r celfyddydau ym myd llywodraeth leol

Cyflwyniad
Mae swyddogion y celfyddydau ym maes llywodraeth leol yn ymwneud â threfnu, llunio a chynnal achlysuron a rhaglenni yn y celfyddydau.  Eu rôl yw helpu i gynnal mentrau datblygu'r celfyddydau yn yr ardal a chodi nifer y rhai sy'n cymryd rhan yn y celfyddydau.

Amgylchiadau'r gwaith
Mae swyddogion y celfyddydau'n gweithio mewn swyddfa ond mae angen iddyn nhw deithio i gyfarfodydd ac achlysuron mewn gwahanol leoedd megis theatrau, sinemâu, neuaddau cyngerdd, orielau, canolfannau celf, stiwdios ac, weithiau, amgueddfeydd a llyfrgelloedd.  Gallai fod rhaid gweithio yn yr awyr agored mewn achlysuron megis carnifalau a chyngherddau ar adegau, hefyd.

Gweithgareddau beunyddiol
Mae rôl swyddog y celfyddydau'n amrywio, a gall gynnwys rhai o'r gorchwylion isod neu bob un ohonyn nhw: 

  • llunio, trefnu, hybu a chynnal rhaglen o achlysuron a mentrau'r celfyddydau allai gynnwys cyngherddau, gwyliau, dramâu i blant, arddangosfeydd ac ati;
  • rheoli cyllidebau prosiectau penodol yn y celfyddydau;
  • helpu i godi arian ar gyfer y celfyddydau - gan gynnwys denu noddwyr a buddsoddwyr;
  • annog amrywiaeth helaeth o gynulleidfaoedd i gymryd rhan mewn prosiectau ac achlysuron sy'n ymwneud â'r celfyddydau - er enghraifft, annog pobl ifanc i ymuno â gweithgareddau drama a dawnsio neu hyrwyddo amrywioldeb diwylliannol trwy amryw achlysuron codi ymwybyddiaeth;
  • llunio strategaethau marchnata effeithiol i hybu achlysuron a phrosiectau yn y celfyddydau;
  • hysbysu a chynghori mudiadau lleol sy'n ymwneud â'r celfyddydau;
  • gweithio ar y cyd â sefydliadau eraill megis colegau, cylchoedd drama a dawnsio ac ati i ddatblygu a hybu'r celfyddydau yn yr ardal a'r rhanbarth.

Medrau a diddordebau
Mae angen y canlynol ar swyddogion y celfyddydau: 

  • cyfathrebu'n dda;
  • marchnata'n dda;
  • trefnu gweithgareddau a rheoli prosiectau'n rhagorol;
  • rheoli cyllidebau'n effeithiol;
  • syniadau creadigol ac arloesol;
  • peth gwybodaeth am y celfyddydau a modd eu hariannu.


Meini prawf ymgeisio 
Er nad oes gofynion lleiaf yn y maes hwn, mae gan y rhan fwyaf o swyddogion y celfyddydau ym myd llywodraeth leol radd sydd wedi'i seilio ar y celfyddydau neu farchnata.  Mewn rhai achosion, fodd bynnag, bydd profiad o weinyddu ym maes y celfyddydau yn bwysicach.

Mae Cyngor Annibynnol y Theatr yn cynnig cyrsiau hyfforddi byrion mewn amryw bynciau sy'n ymwneud â'r celfyddydau.

Gallai prentisiaethau a chyrsiau Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol fod ar gael mewn pynciau megis medrau diwylliannol a chreadigol.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Mae modd i swyddog dros y celfyddydau gael ei ddyrchafu'n rheolwr yn adran y celfyddydau.  Ar y llaw arall, gallai symud i rolau cyfathrebu, marchnata neu reoli prosiectau yn rhai o adrannau eraill y cyngor lleol megis hamdden, twristiaeth neu addysg.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Cyngor y Celfyddydau: www.artscouncil.org.uk
Datblygu Celfyddydau'r DG (gan gynnwys AD:uk Cymru) ww.artsdevelopmentuk.org 
Medrau Creadigol a Diwylliannol: www.ccskills.org.uk Cyngor Annibynnol y Theatr: www.itc-arts.org

Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu erthygl Sbotolau ar yrfaoedd yn y diwydiannau creadigol: https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-diwydiannau-creadigol/

Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/) y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich ysgol.

Related Links