Swyddog cyfathrebu

Cyflwyniad
Mae Swyddog Cyfathrebu yn gyfrifol am amrywiaeth eang o weithgareddau sy'n anelu at godi proffil yr awdurdod lleol ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol.  Mae Swyddog Cyfathrebu'n helpu i reoli a gwarchod enw da'r awdurdod a chwarae rhan allweddol yn y gwaith o lywio barn y cyhoedd am y cyngor a'r gwasanaethau y mae'n eu cyflawni.  Mae Swyddog Cyfathrebu'n gyfrifol am greu a gweithredu cynlluniau cyfathrebu strategol er mwyn cefnogi'r gwaith o gyflwyno negeseuon corfforaethol ac o fewn ardaloedd gwasanaeth. Mae hyn yn cynnwys dod â'r timau amrywiol o fewn yr adran at ei gilydd a'u rheoli.  Mae'n bosibl y bydd yna gyfrifoldebau rheoli staff yn ogystal â rheoli cyllidebau.

Amgylchedd Gwaith
Lleolir y swydd ym mhencadlys gweinyddol yr awdurdod a bydd y prif ddiwrnod gwaith o fewn yr amgylchedd hwnnw.

Gweithgareddau Dyddiol
Gallai'r dyletswyddau gynnwys:

  • rheoli enw da'r awdurdod yn y cyfryngau, drwy ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau cyfathrebu adweithiol a rhagweithiol;
  • datblygu a gweithredu strategaethau cyfryngol cynhwysfawr wedi'u hanelu at hyrwyddo elfennau positif gwaith yr awdurdod, adweithio i, a chyfyngu, niwed a achosir gan sylw negatif yn y wasg;
  • delio gyda sbectrwm eang ac, yn aml, cymhleth, o faterion cyfryngol yn ymwneud â phob agwedd ar fusnes yr awdurdod lleol;
  • cynnig cyngor ac arweiniad proffesiynol ar y cyfryngau a marchnata ar gyfer dibenion hybu a hyrwyddo i'r holl ardaloedd gwasanaeth a - lle bo'n briodol - partneriaid allanol;
  • gweithio fel aelod allweddol o'r tîm cyfathrebu wrth ymateb i sefyllfaoedd argyfwng neu frys.

Sgiliau a Diddordebau
Bydd gan Swyddog Cyfathrebu:

  • sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol gwych;
  • sgiliau cymdeithasol;
  • sgiliau negodi;
  • ysgogiad;
  • creadigrwydd a dychymyg;
  • dealltwriaeth fanwl o lywodraeth leol a'r sector cyhoeddus yn ehangach, yn enwedig yng Nghymru;
  • sgiliau rheoli er mwyn ysbrydoli a chyrraedd targedau allweddol gyda holl staff yr adran;

Anghenion Mynediad
Gradd, neu gymhwyster proffesiynol cyfatebol, mewn Cyfathrebu, y Cyfryngau neu Farchnata.  Mae nifer o brifysgolion y DU yn cynnig graddau neu gyrsiau ôl-radd perthnasol.

Cyfleoedd a Rhagolygon ar gyfer y Dyfodol
Ceir Swyddogion Cyfathrebu yn y sectorau cyhoeddus a phreifat yn cynnwys mewn sefydliadau gwirfoddol a nid-er-elw.

Gwasanaethau a Gwybodaeth Bellach
Chartered Institute of Public Relations www.cipr.co.uk
Public Relations Consultants Association www.prca.org.uk

Gallwch gael gwybodaeth bellach ar y maes gwaith hwn drwy Gyrfa Cymru (www.gyrfacymru.com) neu yn eich llyfrgell leol, y swyddfa yrfaoedd neu lyfrgell yrfaoedd eich ysgol.

Related Links