Swyddog materion y wasg

Helpu'ch cymuned i gyfathrebu â byd llywodraeth leol

Cyflwyniad
Mae swyddog materion y wasg ym maes llywodraeth leol yn gyfrifol am hybu enw da'r cyngor ymhlith y cyfryngau a meithrin perthynas dda â'r cyfryngau hynny.  Fe elwir swyddogion materion y wasg yn swyddogion materion cyfathrebu a'r cyfryngau weithiau.

Amgylchiadau'r gwaith
Yn y swyddfa mae swyddogion materion y wasg yn gweithio gan amlaf, er y gallai fod rhai cyfarfodydd allanol.

Gweithgareddau beunyddiol
Mae swyddog materion y wasg ym myd llywodraeth leol yn meithrin perthynas â'r cyfryngau lleol i gyfleu rôl a delfryd y cyngor, gofalu bod y cyfryngau'n sôn am y cyngor mewn modd teg a chytbwys a hybu enw da'r cyngor ymhlith trigolion y fro, adrannau gwladol a chwmnïau lleol. 

Gallai'r dyletswyddau amrywio yn ôl ehangder y rôl, ond bydd swyddogion materion y wasg yn ymwneud â'r gorchwylion isod, fel arfer:

  • cynnal ymchwil, a llunio a chyhoeddi datganiadau i'r wasg yn ymateb i ymholiadau'r cyfryngau;
  • pennu pa straeon fydd yn berthnasol a gofalu bod y cyfryngau rhanbarthol, lleol, cenedlaethol ac arbenigol yn eu trafod;
  • cydweithio'n agos ag amryw adrannau'r cyngor i ofalu bod y cyfryngau'n sôn am waith pwysig;
  • paratoi a defnyddio strategaethau trin a thrafod y wasg mewn argyfyngau megis llunio datganiadau dros dro, gweithredu'n llefarydd yn y cyfryngau a gofalu eu bod yn trafod straeon a allai fod yn niweidiol mewn modd craff a chyflym;
  • trefnu sesiynau hysbysu, cynadleddau i'r wasg a sesiynau tynnu lluniau;
  • cydweithio'n agos â swyddogion materion y wasg a'r cyfryngau yn y cyrff sy'n bartneriaid i'r cyngor;
  • hyfforddi a chynghori swyddogion ac aelodau sy'n cynrychioli'r cyngor yn y cyfryngau ac a allai gael eu cyfweld.

Medrau a ddiddordebau
Mae angen y canlynol:

  • medrau ysgrifennu a golygu rhagorol;
  • gallu deall gwybodaeth gymhleth ac amrywiol a'i dehongli i bobl eraill;
  • gallu cyfathrebu'n dda ar lafar a thrafod telerau;
  • gallu ymdopi â phwysau;
  • medrau da o ran trin a thrafod amser a threfnu gwaith;
  • medrau ardderchog ynglŷn â marchnata a chysylltiadau cyhoeddus.

Meini prawf derbyn
Fel arfer, bydd angen gradd mewn maes megis newyddiaduraeth, marchnata neu gysylltiadau cyhoeddus.  Ar y llaw arall, gallai fod angen cymwysterau proffesiynol Sefydliad Breiniol Marchnata, Sefydliad Breiniol Cysylltiadau Cyhoeddus neu Gyngor Cenedlaethol Hyfforddi Newyddiadurwyr.  Gallai rhai cynghorau ofyn am brofiad o weithio ym maes marchnata a chyfathrebu, hefyd.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Y llwybr arferol yw dechrau'n gynorthwywr cysylltiadau cyhoeddus neu gyfathrebu a mynd yn swyddog materion y wasg wedyn.  Mae'n bosibl cael eich dyrchafu'n uwch swyddog cyfathrebu neu bennaeth cyfathrebu a marchnata ar ôl profiad perthnasol.  Gallai fod modd symud i adrannau eraill ac arbenigo mewn cyfathrebu ynglŷn â rhai meysydd penodol megis gwasanaethau i blant neu wasanaethau'r amgylchedd.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Sefydliad Breiniol Marchnata: www.cim.co.uk
Sefydliad Breiniol Cysylltiadau Cyhoeddus: www.cipr.co.uk
Sefydliad yr Addysg am Gyfathrebu, Hysbysebu a Marchnata: www.camfoundation.com
Cyngor Cenedlaethol Hyfforddi Newyddiadurwyr: www.nctj.com

Fe gewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links