Swyddog cyfathrebu mewnol

Helpu'ch cymuned chi ynglŷn â chyfathrebu ym maes llywodraeth leol

Cyflwyniad
I weithredu'n effeithiol, rhaid i bob sefydliad mawr gyfathrebu'n dda yn fewnol, a rôl swyddog cyfathrebu mewnol yw gofalu bod y rheolwyr, y staff a'r amryw adrannau'n cyfathrebu â'i gilydd mewn modd eglur ac effeithlon.  Mewn rhai cynghorau, gelwir gweithwyr o'r fath yn swyddogion cyfathrebu corfforaethol.

Amgylchiadau'r gwaith
Yn y swyddfa mae swyddogion cyfathrebu mewnol yn gweithio, er bod rhaid iddyn nhw fynd i gyfarfodydd mewn sawl adran o'r cyngor.  Felly, gallai fod angen teithio rhwng gwahanol adeiladau.  37 awr yw'r wythnos safonol, fel arfer.

Gweithgareddau beunyddiol
Mae swyddogion cyfathrebu mewnol yn gyfrifol am lunio a defnyddio strategaeth cyfathrebu mewnol y cyngor.  Mae'n bwysig i staff cyfathrebu mewnol ofalu eu bod yn gyfarwydd â rôl, delfryd ac amcanion y cyngor a'r modd mae'i adrannau'n cynnig gwasanaethau.  Dyma orchwylion y gallai fod angen eu cyflawni:

  • gofalu bod amrywiaeth o ddulliau cyfathrebu ar gael i'r staff fel y gallan nhw gadw golwg ar newyddion pwysig yn y cyngor, rhannu gwybodaeth a chodi pryderon trwy gyfrwng - er enghraifft - cyfarfodydd eu timau a'u rheolwyr, cyfarfodydd unigol â rheolwyr, papurau hysbysu a negeseuon diweddaru trwy ebost;
  • rheoli gwaith llunio a lledaenu cylchlythyr mewnol y cyngor gan gynnwys ysgrifennu a golygu'r cynnwys, trefnu i luniau gael eu tynnu a goruchwylio'r dylunio a'r argraffu (lle bo copïau caled);
  • rheoli gwaith llunio mewnrwyd y cyngor gan gynnwys cydweithio ag arbenigwyr TG ynglŷn â'r diwyg a'r dylunio, a chydweithio â swyddogion ledled y cyngor i greu cynnwys addas;
  • ymgynghori â staff y cyngor i hel eu sylwadau am ddulliau cyfathrebu mewnol a gofyn iddyn nhw awgrymu ffyrdd o'u gwella;
  • defnyddio adborth y staff i argymell a chyflwyno mentrau newydd a fydd yn gwella'r cyfathrebu mewnol;
  • cynghori a chyfarwyddo'r staff am ddefnyddio brand ac enw'r cyngor;
  • trefnu a rheoli seminarau a hyfforddiant fel y gall y staff ddysgu rhagor am amcanion y cyngor a'i adrannau;
  • cydweithio â swyddogion ledled y cyngor mewn prosiectau penodol megis Buddsoddwyr mewn Pobl, Fframwaith Gwella Cydraddoldeb Cymru ac ymgysylltu â gweithwyr.

Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:

  • gallu cyfathrebu'n dda â phobl o bob lliw a llun;
  • medrau da ynglŷn ag ysgrifennu a golygu deunydd;
  • meddwl arloesol a chreadigol;
  • medrau da ynglŷn â rheoli prosiectau;
  • manwl gywirdeb;
  • gallu esbonio materion cymhleth.

Meini prawf derbyn
Gallai fod modd dechrau'n weithiwr dibrofiad a chael eich dyrchafu maes o law.  Fe fyddai angen addysg o safon dda megis 5 TGAU A*-C gan gynnwys mathemateg a Saesneg neu Gymraeg.  Gallai peth profiad o waith swyddfa ym maes gweinyddu neu ofalu am gwsmeriaid fod o gymorth, hefyd.

Fel arfer, byddai angen ar swyddog cyfathrebu mewnol ym myd llywodraeth leol radd neu gymhwyster cyfwerth mewn pynciau megis marchnata, cysylltiadau cyhoeddus, gweinyddu busnes, astudiaethau busnes neu astudiaethau'r cyfryngau.  Fe fyddai un o gymwysterau proffesiynol perthnasol Sefydliad Breiniol Marchnata neu Sefydliad Breiniol Cysylltiadau Cyhoeddus o fantais, ond efallai y cewch chi gyfle i astudio ar eu cyfer yn y gwaith.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Gallech chi ddechrau'n gynorthwywr cyfathrebu neu farchnata a chael eich dyrchafu'n swyddog cyfathrebu mewnol wedyn.  Gallai fod cyfleoedd i symud i rolau gwahanol yn adran marchnata a chyfathrebu'r cyngor megis swyddog cyfathrebu, swyddog y wasg neu swyddog achlysuron.  Efallai y bydd cyfleoedd i fynd ymlaen i swyddi uwch megis rheolwr cyfathrebu, hefyd.  Mae modd symud i waith marchnata mewn adran megis y gwasanaethau i blant neu wasanaethau'r amgylchedd.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Sefydliad Breiniol Marchnata: www.cim.co.uk
Sefydliad Breiniol Cysylltiadau Cyhoeddus: www.cipr.co.uk
Sefydliad Hysbysebu a Marchnata Cyfathrebu: www.camfoundation.com

Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links