Diogelu eich cymuned drwy reoli gwastraff llywodraeth
leol
Cyflwyniad
Bob blwyddyn mae'r DU yn cynhyrchu tua 330 miliwn tunnell o
wastraff. Mae swyddogion rheoli gwastraff y llywodraeth leol
yn gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei waredu'n ddiogel.
Cyflogir swyddogion rheoli gwastraff ym mhob math o gyngor
lleol.
Amgylchedd Gwaith
Fel arfer mae swyddogion rheoli gwastraff llywodraeth leol yn
gweithio mewn swyddfeydd, ond bydd angen gwneud rhywfaint o waith
yn yr awyr agored i ymweld â safleoedd gwastraff a mynychu
cyfarfodydd.
Gweithgareddau Dyddiol
Mae gwasanaethau rheoli gwastraff cynghorau lleol yn cwmpasu'r
meysydd gwaith canlynol:
- casglu gwastraff - caiff hyn ei reoli gan gynghorau dosbarth,
cynghorau unedol a chynghorau bwrdeistref metropolitan. Gall staff
y cyngor wneud hyn neu gall y gwaith gael ei gontractio i
asiantaethau allanol;
- ailgylchu gwastraff - gwneir hyn gan bob math o gyngor, ac
mae'n cynnwys ailgylchu papur, cerdyn, alwminiwm, gwydr,
tecstiliau, plastig, hen nwyddau trydanol a gwastraff organig o
erddi a rhandiroedd;
- gwaredu gwastraff - mae hyn yn cynnwys cludo gwastraff i
safleoedd tirlenwi.
Swyddogion rheoli gwastraff llywodraeth leol sy'n goruchwylio'r
gweithgareddau hyn, ac maent yn cyflawni rhai o'r tasgau canlynol,
os nad pob un ohonynt:
- monitro ansawdd a pherfformiad gwasanaethau gwastraff y cyngor
- mae hyn yn cynnwys rheoli contractau gyda darparwyr allanol os yw
gwasanaethau gwastraff y cyngor yn cael eu rhoi ar gontract
allanol;
- ymchwilio i unrhyw gwynion am wasanaethau gwastraff y
cyngor;
- nodi datrysiadau i broblemau a sicrhau bod camau'n cael eu
cymryd;
- ymchwilio i achosion o dipio anghyfreithlon;
- cynnig cyngor ac arweiniad i fusnesau a safleoedd gwastraff
diwydiannol ynghylch materion rheoli gwastraff;
- ymgynghori â phreswylwyr, grwpiau cymunedol, cynghorwyr,
cymdeithasau tai a chymdeithasau masnach ynglŷn â rheoli gwastraff,
nodi eu gofynion a chynnig datrysiadau priodol;
- rheoli a hyrwyddo unrhyw gynlluniau rheoli gwastraff newydd
sydd gan y cyngor;
- llunio adroddiadau a chadw cofnodion.
Sgiliau a Diddordebau
Mae angen i swyddogion rheoli gwastraff llywodraeth leol:
- fod yn gyfathrebwyr ardderchog;
- meddu ar sgiliau trefnu a gweinyddol da;
- meddu ar sgiliau datrys problemau a dadansoddi gwych;
- meddu ar sgiliau TG da;
- bod yn bwyllog dan bwysau;
- meddu ar ddiddordeb mewn materion a deddfwriaeth amgylcheddol a
gwybodaeth amdanynt.
Gofynion Mynediad
Mae'r rhan fwyaf o gynghorau yn gofyn am lefel dda o addysg, gan
gynnwys 5 TGAU/Gradd S (A-3/1-3). Mae rhai cyflogwyr yn gofyn am
gymhwyster perthnasol mewn rheoli gwastraff, fel HMC mewn rheoli
gwastraff neu N/SVQ Lefel 4 a reolir gan Fwrdd Hyfforddi ac
Ymgynghorol y Diwydiant Rheoli Gwastraff (WAMITAB). Gallant
hefyd ofyn am brofiad o ddelio â'r cyhoedd. Mae gan rai
swyddogion rheoli gwastraff radd neu Ddiploma Cenedlaethol Uwch
(HND) mewn pwnc perthnasol gyda modiwlau mewn rheoli gwastraff,
e.e. cemeg, bioleg, peirianneg, daeareg. Gall rhai
cyflogwyr ei gwneud yn ofynnol i chi fod yn aelod o'r Sefydliad
Siartredig Rheoli Gwastraff.
Cyfleoedd yn y Dyfodol
Gyda hyfforddiant a phrofiad priodol, gall fod yn bosibl i
swyddogion rheoli gwastraff llywodraeth leol symud i rolau rheoli
uwch yn y gwasanaethau rheoli gwastraff ac amgylcheddol
ehangach.
Rhagor o Wybodaeth a Gwasanaethau
Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff www.ciwm.co.uk
Sgiliau Ynni a Chyfleustodau www.euskills.co.uk
Cymdeithas Gwasanaethau Amgylcheddol www.esauk.org
Bwrdd Hyfforddi ac Ymgynghorol y Diwydiant Rheoli Gwastraff www.wamitab.org.uk
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y maes gwaith hwn drwy Yrfa
Cymru (www.gyrfacymru.com)
neu yn eich llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd neu lyfrgell
gyrfaoedd eich ysgol.
Related Links