Cyflwyniad
 Mae'r modd rydych chi'n cael gwared ar hen boteli, cardfwrdd a
phapurau newydd yn arbennig o bwysig!  Mae'n fwyfwy pwysig
defnyddio'n hadnoddau naturiol yn ddoeth a pharchu'r
amgylchedd.  Fel arall, mae perygl y bydd dim byd ar ôl. 
Un ffordd o ddiogelu'r dyfodol yw ailgylchu gwastraff.  Rôl
swyddog prosiectau yw cydlynu pob elfen o gynlluniau rheoli
gwastraff.  
Amgylchiadau'r gwaith
 Byddech chi'n treulio peth amser yn y swyddfa yn ogystal ag ymweld
â lleoedd megis safleoedd tirlenwi, tomenni sbwriel a chyfarfodydd
cyhoeddus.  Mae dillad diogelu ar gael am y gallai fod ambell
orchwyl brwnt a pheryglus.  37 awr yw'r wythnos safonol a does
dim rhaid gweithio gyda'r nos na thros y Sul.
Gweithgareddau beunyddiol
 Prif ddiben y swydd yw llunio a rheoli prosiectau fel na fydd
cymaint o wastraff yn yr ardal.  Mae rhai cynghorau mawr yn
cael gwared ar ryw 400,000 o dunelli o wastraff cartrefi a 16,000 o
dunelli o bapur bob blwyddyn - digon i lenwi stadiwm pêl-droed
mawr!  Rhaid manteisio i'r eithaf ar unrhyw wastraff trwy ei
ailgylchu.  Mae swyddog prosiectau'n gyfrifol am bob rhan o'r
broses boed ymgynghori, trin a thrafod data neu weithio ar
safleoedd.  Mae'n ymwneud â siarad â thrigolion a rheolwyr
eiddo i sefydlu trefniadau ailgylchu ar ystadau, ac mewn fflatiau
ac ysgolion.  Rhaid addysgu pobl am wastraff, gan eu hannog i
ddefnyddio'r blychau mae'r cyngor wedi'i roi iddyn nhw ar gyfer
ailgylchu, mynd â photeli gwydr gwyrdd, brown a chlir, poteli
plastig a phapurau newydd i'r biniau sydd ar amryw fannau cyhoeddus
a hyd yn oed osgoi prynu nwyddau mae gormod o ddeunydd pecynnu
amdanyn nhw.  I'r perwyl hwn, mae gofyn i swyddog prosiectau
ailgylchu wneud y canlynol:
- ymchwilio, cynghori a chynorthwyo ynglŷn â llunio a chynnal
prosiectau arbed gwastraff;
 
- ymgynghori â chymunedau a chymryd rhan mewn prosiectau;
 
- rhoi cymorth a chynghorion ar gyfer gweithgareddau cyfredol yn
y gymuned;
 
- cydweithio â chontractwyr i ofalu bod gwasanaeth effeithlon a
dibynadwy ar gael i'r trigolion;
 
- pennu gofynion cytundebau ar gyfer nwyddau, offer a
gwasanaethau;
 
- cynnal ymchwil, paratoi adroddiadau a chyflwyno
argymhellion;
 
- mynychu cyfarfodydd pwyllgorau a chyhoeddus;
 
- gofalu bod ymateb prydlon i ymholiadau a chwynion trigolion,
cwmnïau, mudiadau gwirfoddol, adrannau eraill o'r cyngor, uwch
swyddogion a chynghorwyr;
 
- monitro hynt cynlluniau a chyflwyno adroddiadau am hynny.
 
Yn ystod eu gwaith, bydd swyddogion prosiectau'n cydweithio â
phennaeth rheoli'r strydoedd, swyddogion gwastraff a gorfodi, blaen
swyddogion a chyrff allanol megis busnesau, safleoedd adeiladu,
ffatrïoedd a grwpiau cymunedol.
  
 Medrau a diddordebau
 Os yw her rheoli gwastraff yn eich ysgogi, bydd angen gwneud y
canlynol:
- trafod telerau cytundebau ac ati;
 
- paratoi a defnyddio cynlluniau gwaith effeithiol yn ôl amserlen
a chyllideb;
 
- datrys problemau'n greadigol;
 
- trin a thrafod pobl o bob lliw a llun;
 
- cynnal ymchwil, llunio mentrau newydd ac ymchwilio i faterion
dadleuol;
 
- cyfathrebu'n dda ar lafar ac ar bapur fel ei gilydd;
 
- defnyddio technoleg gwybodaeth;
 
- rheoli'n effeithiol.
 
Dylai fod gyda chi ddiddordeb ym maes diogelu'r amgylchedd a
dylech chi ddeall rôl cyhoeddusrwydd ac addysg ynglŷn â hwyluso
newidiadau cymdeithasol.
Meini prawf derbyn
 Mae gradd prifysgol (neu gymhwyster cyfwerth) a phrofiad o reoli
prosiectau yn hanfodol.  Ar ben hynny, byddai angen profiad
o'r canlynol:
- paratoi, trefnu a defnyddio cynlluniau yn ôl amserlenni
penodol;
 
- canolbwyntio ar anghenion cwsmeriaid trwy gyswllt personol â'r
rhai sy'n defnyddio ac yn cynnig gwasanaethau;
 
- hyrwyddo rhaglenni, cynhyrchion a mentrau ymhlith
cynulleidfaoedd neu farchnadoedd allanol/mewnol;
 
- gweithio mewn tîm;
 
- cloriannu gwaith y tîm a chyflwyno adroddiadau amdano.
 
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
 Fydd problem gwastraff ddim yn diflannu.  Mae cyfleoedd
drwy'r amser i reoli amryw brosiectau ym meysydd yr amgylchedd a
chadwraeth.  Mae swyddi megis pennaeth rheoli'r strydoedd a
rheolwr gwastraff a gorfodi ymhlith y posibiliadau eraill,
hefyd.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
 Cymdeithas Ailgylchu: www.therecyclingassociation.com
 Sefydliad Breiniol Rheoli Gwastraff: www.ciwm.co.uk
 WAMITAB www.wamitab.org.uk
 Medrau ynni a chyfleustodau: www.euskills.co.uk
Fe gewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd
eich ysgol.