Cyflwyniad
Mae swyddogion ailgylchu'n helpu i achub yr amgylchedd - maen
nhw'n paratoi ac yn defnyddio cynlluniau gweithredu amgylcheddol ac
yn cynnal cynlluniau ailgylchu gwastraff megis gwydr, papur a
chaniau. Mae gan bob cyngor rywun sy'n gyfrifol am bolisïau
ailgylchu, naill ai yn y gwasanaethau amgylcheddol neu adran
glanhau'r strydoedd. Weithiau, bydd yn cyfuno'r gwaith â
meysydd megis rheoli gwastraff, iechyd yr amgylchedd neu fentrau
cymunedol.
Amgylchiadau'r gwaith
Er mai swyddfa yw'r ganolfan, bydd peth gweithio yn yr awyr agored
megis teithio i archwilio mannau ailgylchu, chwilio am safleoedd
newydd ac ymweld â chwmnïau. 37 awr yw'r wythnos safonol, fel
arfer. Gallai fod cyfleoedd i weithio'n rhan-amser a rhannu
swydd.
Gweithgareddau beunyddiol
Yn ôl pob tebyg, bydd y dyletswyddau fel a ganlyn:
- ceisio gwella strategaethau ailgylchu hirsefydlog a datblygu
ffyrdd newydd o gasglu ac ailgylchu gwastraff yn ôl targedau
gwladol;
- cydweithio â rhai o adrannau eraill y cyngor megis glanhau a
chynllunio i ychwanegu at nifer y mannau ailgylchu;
- cael gwybod am fentrau ailgylchu newydd trwy ddarllen
cyfarwyddebau'r cyngor, cadw golwg ar bolisïau Undeb Ewrop, mynd i
gynadleddau a chyfarfodydd a chynnal ymchwil;
- rheoli cytundebau â chwmnïau sy'n cludo gwastraff i'w ailgylchu
gan gysylltu â nhw dros y ffôn a thrafod telerau;
- cynghori cwmnïau lleol am gael gwared ar wastraff;
- ateb ymholiadau'r cyhoedd a thrin a thrafod cwynion - er
enghraifft, os yw safle ailgylchu'n orlawn;
- goruchwylio gwaith dosbarthu bagiau, biniau a blychau
ailgylchu;
- teithio'r ardal i archwilio safleoedd/canolfannau ailgylchu
mewn meysydd parcio, archfarchnadoedd ac ati gan ofalu bod
contractwyr yn gwagu biniau ac yn clirio gwydr a chaniau;
- annog pob un o adrannau'r cyngor i ailgylchu gwastraff;
- hysbysebu mentrau ailgylchu'r cyngor trwy siarad â'r wasg leol,
ysgrifennu datganiadau i'r wasg a rhoi cyfweliadau i sianeli radio
lleol;
- llunio posteri, taflenni a llawlyfrau ailgylchu yn ogystal â
rhoi gwybodaeth ar gyfer gwefan y cyngor;
- paratoi adroddiadau sydd i'w rhoi gerbron aelodau'r
cyngor.
Mae rhagor am fis ym mywyd uwch swyddog ailgylchu mewn awdurdod
leol ar wefan Gwella a Datblygu Llywodraeth Leol
Medrau a diddordebau
Mae angen y canlynol:
- bod yn effro i faterion amgylcheddol a deall deddfau'r Deyrnas
Gyfunol ac Undeb Ewrop ynglŷn ag ailgylchu;
- agwedd ragweithredol ynglŷn â rheoli gwastraff, polisïau
ailgylchu a materion amgylcheddol;
- medrau cyfathrebu da a'r gallu i roi cyflwyniadau eglur;
- natur ddarbwyllol a medrau negodi da;
- gallu ysgrifennu adroddiadau;
- gallu trefnu a chynllunio;
- gallu cynnal ymchwil, dadansoddi'r canlyniadau a dyfeisio
atebion ymarferol.
Meini prawf derbyn
Mae rhai cynghorau'n mynnu gradd mewn pwnc perthnasol megis
astudiaethau neu wyddorau amgylcheddol a rheoli gwastraff.
Mae'r mwyafrif yn gofyn am gefndir ym maes rheoli ac ailgylchu
gwastraff. Ar gyfer rhai swyddi uwch, gallai fod rhaid bod yn
aelod o Sefydliad Breiniol Rheoli Gwastraff. Efallai y bydd
modd astudio ar gyfer Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol neu
gymwysterau proffesiynol Sefydliad Breiniol Rheoli Gwastraff ar ôl
cael y swydd.
Yn ddelfrydol, byddai trwydded yrru gyda chi, hefyd.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Mae modd cael eich dyrchafu'n uwch reolwr ym maes rheoli ac
ailgylchu gwastraff. Ar ôl cael rhagor o hyfforddiant a
chymwysterau, gallai fod yn bosibl symud i feysydd eraill yn y
gwasanaethau amgylcheddol megis iechyd yr amgylchedd, cynllunio neu
drwyddedu. Gallech chi symud i rôl sy'n ymwneud â chynnal
ymchwil neu ddatblygu polisïau mewn adran arall, hefyd.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Sefydliad Breiniol Rheoli Gwastraff: www.ciwm.co.uk
Medrau Ynni a Chyfleustodau: www.euskills.co.uk
Cymdeithas Gwasanaethau Amgylcheddol: www.esauk.org
Recycle Now www.recyclenow.com
Bwrdd Hyfforddi a Chynghori Diwydiant Rheoli Gwastraff: www.wamitab.org.uk
Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd
eich ysgol.