Casglwr sbwriel/gyrrwr/goruchwyliwr

Cyflwyniad
Ydych chi'n gwybod bod pob teulu'n taflu tua pum tunnell o wastraff y flwyddyn? Gwaith gwasanaethau rheoli gwastraff a chasglu sbwriel yw ei gasglu, ei gladdu, ei losgi neu ei ailgylchu.  A hynny heb gynnwys gwastraff masnachol o siopau, bwytai, ffatrïoedd ac ati.  Bydd awdurdodau lleol naill ai'n cynnal eu gwasanaethau eu hunain ar gyfer casglu sbwriel a rheoli gwastraff neu eu comisiynu trwy gytundeb.  Fel arfer, bydd gan bob cerbyd yrrwr a llwythwyr sy'n casglu'r sbwriel ac yn mynd ag e i domen, cyfleuster ailgylchu neu ganolfan ddidoli.  Yn ôl yng nghanolfan y gwasanaeth, bydd y rheolwyr a'r goruchwylwyr yn trefnu'r casglu arferol ac arbennig ac yn gwirio gwaith.

Amgylchiadau'r gwaith
Mae'r llwythwyr a'r gyrwyr yn gweithio ar fwrdd cerbydau casglu sbwriel yn yr awyr agored, yn y strydoedd, wrth domenni, ar safleoedd tirlenwi, mewn cyfleusterau trin gwastraff ac mewn gorsafoedd trosglwyddo.  Mae goruchwylwyr yn treulio rhywfaint o amser yn y swyddfa yn ogystal â gwirio gwaith yn y strydoedd.  Mae'r llwythwyr a'r gyrwyr yn gwisgo siacedi melyn, oferôls, esgidiau caled a dillad gwrth ddŵr.  Mae'r goruchwylwyr yn gwisgo dillad busnes er bod rhaid gwisgo siacedi melyn yn yr awyr agored.

37 awr yw'r wythnos arferol, gan ddechrau ben bore (tua 7.00).  Gallai fod angen gweithio dros y Sul weithiau.  Mewn rhai ardaloedd, efallai y bydd rhaid gweithio shifftiau yn ôl amserlen 24 awr.

Gweithgareddau beunyddiol
Mae'r timau'n casglu sbwriel o gartrefi a safleoedd masnachol a diwydiannol, gan gynnwys llwythi swmpus.  Mae'r llwythwyr yn gwagio biniau cartrefi, bagiau plastig, biniau olwynion a sbwriel rhydd ar y cerbyd gan adael y rhai gwag (lle bo hynny'n berthnasol) yn ôl wrth y man casglu.  Mae mwy a mwy o angen iddyn nhw ofalu eu bod yn dodi'r deunyddiau sydd wedi'u didoli ymlaen llaw mewn rhannau penodol o'r cerbyd er mwyn eu cadw ar wahân.  Maen nhw'n helpu'r gyrrwr i symud y cerbyd yn ddiogel ar y strydoedd a mynd â sbwriel i fannau cael gwared arno megis tomenni, canolfannau ailgylchu neu safleoedd claddu.

Mae gyrrwr pob cerbyd yn arwain tîm o lwythwyr sbwriel.  Rhaid goruchwylio'r casglu ar deithiau arferol ac arbennig ac archwilio'r cerbyd bob dydd i ofalu ei fod yn lân ac yn ddiogel drwy'r amser.

Mae goruchwylwyr yn gweithio o ganolfannau, gan ddyrannu gwaith ymhlith y timau a gofalu eu bod yn ei gyflawni yn ôl amserlenni a safonau priodol.  Felly, rhaid gwirio dalennau amser ac archwilio'r strydoedd i ofalu bod y gwaith wedi'i wneud.  Maen nhw'n gyfrifol am ofalu bod gan y timau ddillad/offer priodol ac am wirio a chaniatáu ceisiadau am daliadau.
 
Ar ben hynny, fe fydd y goruchwylwyr yn asesu peryglon ac yn ymchwilio i unrhyw ddamweiniau neu ddigwyddiadau.

Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:

  • medrau cyfathrebu da;
  • bod yn ddigon cryf a heini i wneud gwaith llwythwyr a gyrwyr;
  • gallu cadw at amserlenni;
  • diddordeb a gallu ynglŷn â gweithio mewn tîm;
  • ymroi i weithio yn ôl safonau priodol.

Meini prawf derbyn
Does dim angen cymwysterau academaidd ar yrwyr a llwythwyr, fel arfer.  Rhaid i'r llwythwyr fod yn gryf ac yn heini a thros 18 oed.  Dylai pob gyrrwr fod dros 21 oed ac yn meddu ar drwydded gyrru cerbydau trwm.  Yn aml, bydd goruchwylwyr wedi'u dyrchafu o'r rhengoedd ond mae modd i rywun a chanddo bedair TGAU (A*-C) neu gymhwyster cyfwerth ddechrau'n oruchwyliwr.  Mae'r staff yn cael eu hyfforddi wrth y gwaith fel arfer mewn pynciau megis ymwybyddiaeth o ddiogelwch, codi a chario, iechyd a diogelwch, offer diogelu, trin a thrafod nodwyddau a gofalu am gwsmeriaid.  Gallai goruchwylwyr astudio ar gyfer Uwch Ddiploma Genedlaethol neu Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol ym maes rheoli gwastraff.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Mae cyfleoedd i weithio ym maes casglu sbwriel ledled y Deyrnas Gyfunol boed dros gyngor neu gwmni preifat.  O ennill trwydded gyrru cerbydau trwm, gall llwythwyr fynd yn yrwyr a gall llwythwyr a gyrwyr fel ei gilydd gael eu dyrchafu'n oruchwylwyr ar ôl hel digon o brofiad.

Gall goruchwyliwr ddatblygu ei yrfa wedyn mewn amryw swyddi ym maes rheoli gwastraff ac mae modd mynd yn rheolwr rhanbarth neu ardal ynglŷn â nifer o weithgareddau.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Sefydliad Breiniol Rheoli Gwastraff: www.ciwm.co.uk
Energy and Utility Skills www.euskills.co.uk
Cymdeithas Gwasanaethau Amgylcheddol: www.esauk.org
Bwrdd Cynghori a Hyfforddi Diwydiant Rheoli Gwastraff: www.wamitab.org.uk

Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links