Rhagarweiniad
Mae swyddogion refeniw yn gyfrifol am weinyddu, casglu ac adennill
atebolrwydd Treth y Cyngor mewn Awdurdod Lleol. Rôl gweinyddwr
ariannol yw hon yn ei hanfod.
Amgylchedd Gwaith
Ar y cyfan, caiff y gwaith hwn ei wneud o swyddfa ond efallai y
bydd hefyd yn cynnwys ymweld â'r cyhoedd yn rheolaidd mewn
perthynas â materion penodol yn ymwneud ag asesu a chasglu Treth y
Cyngor.
Gweithgareddau o Ddydd i Ddydd
Gall y rôl gwmpasu ystod eang o gyfrifoldebau ac mae'n cynnwys
elfennau fel gostyngiadau, biliau, casglu ac adennill ac efallai y
bydd yn cynnwys cyfrifoldeb am y camau cyfreithiol angenrheidiol
hefyd (h.y. gorchmynion atebolrwydd, gorchmynion traddodi ac ati)
drwy Lysoedd yr Ynadon gan gynnwys camau gweithredu a ddefnyddir
gan feiliaid. Mae angen hefyd i swyddogion ddehongli ar ran
dyledwyr a rhoi cyngor iddynt, atodi gorchmynion enillion, ac
ymdrin â gohebiaeth ac ymholiadau cyffredinol gan y cyhoedd.
Sgiliau a Diddordebau
Mae angen i swyddogion refeniw allu dehongli gwybodaeth gymhleth a
meddu ar ddealltwriaeth drylwyr am ofynion dealltwriaeth mewn
perthynas â Threth y Cyngor. Byddai profiad blaenorol o weithio ym
maes cyllid cyhoeddus o fantais arbennig. Mae'r swydd yn cynnwys
defnyddio systemau TG a phecynnau meddalwedd amrywiol, ac felly,
mae angen i ymgeiswyr fod yn hyddysg mewn cyfrifiadura a meddu ar
sgiliau bysellfwrdd da. Mae angen sgiliau cyfathrebu ac ymagwedd
dda at ofal cwsmeriaid hefyd.
Gofynion Mynediad
Gan fod y rôl yn ymwneud â gweinyddiaeth yn bennaf, mae
cymwysterau perthnasol yn cynnwys cymwysterau gan y Sefydliad
Ardrethu a Phrisio Refeniw neu BTEC/BTEC Uwch mewn Gweinyddiaeth
Gyhoeddus neu Gyllid neu'r Lefel NVQ gyfwerth. Felly bydd
angen i chi fodloni'r gofynion mynediad i gael eich derbyn i'r
cyrsiau astudio uchod yn ogystal â meddu ar wybodaeth gyfredol am
Dreth y Cyngor ac Ardrethi Busnes.
Posibiliadau a chyfleoedd yn y dyfodol
Mae swyddi rheoli ar gael yn y maes gwaith hwn ac mae cyfleoedd i
arbenigo mewn agweddau penodol ar y gwaith e.e. apeliadau a gwaith
llys.
Rhagor o Wybodaeth a Gwasanaethau
Cyllid a Thollau EM www.hmrc.gov.uk
Y Sefydliad Refeniw, Ardrethu a Phrisio Refeniw www.irrv.net
Cymdeithas Rheoli Cyllid www.revenuemanagement.org.uk
Y Gymdeithas Cyllid www.revenuesociety.org.uk
Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich
ysgol.