Cyflwyniad
Mae yna adran gwasanaethau corfforaethol ym mhob math o awdurdodau
lleol. Fel yr awgryma'r enw, mae'n cynnwys gwaith craidd y
cyngor. Mae pob gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu i gymuned
leol yn dibynnu ar weinyddu effeithiol, rheoli adnoddau dynol,
cefnogaeth gyfrifiadurol, cynrychiolaeth a chyngor cyfreithiol,
marchnata a hyrwyddo a datblygu ac ymchwil trylwyr i
bolisïau. Ond calon hyn i gyd yw synnwyr ariannol
cadarn. Ni all unrhyw fusnes, masnachol nac fel arall, oroesi
gyda seiliau ariannol ansefydlog. Mae swyddogion cyllid yn
rhan o dîm sy'n cynnwys cyfrifwyr, technegwyr cyfrifeg,
cymhorthyddion cyfrifeg neu, fel eu gelwir weithiau, clercod
cyllid. Mae swyddogion cyllid yn gweithio i gyfrifwyr
proffesiynol cymwysedig.
Amgylchedd Waith
Mae'r rhan fwyaf o'r amser yn cael ei dreulio wrth ddesg a
chyfrifiadur. Weithiau, bydd gofyn i swyddogion ymweld ag
adrannau eraill i drafod y ffordd y mae cyfrifon yn cael eu cadw
neu i dreulio amser ar waith archwilio.
Gweithgareddau Pob Dydd
Mae swyddogion cyllid yn aml yn rheolwyr llinell i gymhorthyddion
a chlercod cyllid ac felly â throsolwg o'r gwaith cyfrifeg
sylfaenol:
- cofnodion ariannol;
- cynhyrchu a dadansoddi ffigurau ar gyfer cyfrifwyr neu
benaethiaid adrannau;
- archwilio cyfrifon;
- anfonebau;
- hawliadau treuliau;
- systemau cyfrifeg cyfrifiadurol.
Bydd cymhorthyddion cyfrifeg sy'n canfod camgymeriadau neu
achosion o gamweddau mewn hawliadau treuliau yn eu cyfeirio at
Swyddog Cyllid. Hefyd, fe fyddan nhw'n helpu gyda materion
mwy pellgyrhaeddol a allai gynnwys y cyngor cyfan neu adran fawr
megis y gwasanaethau cymdeithasol. Er enghraifft, gallen nhw
fod â rhan allweddol wrth ymdrin ag agweddau ariannol prynu a
monitro gwasanaethau ar gyfer y rhai yn y gymuned sydd ag anghenion
gofal arbennig - cadeiriau olwyn i bobl anabl, costau rhedeg
cartref preswyl i'r henoed ac yn y blaen. Bydd gofyn iddyn
nhw gynghori ar gyllidebau staff a monitro gwariant, taliadau i
gredydwyr a pharatoi adroddiadau ystadegol. Weithiau fe
fyddan nhw'n gweithio mewn cyfarwyddiaethau eraill, megis y
gwasanaeth tân lle nad oes, efallai, gyfrifydd proffesiynol yn
gweithio yno, ac felly â chyfrifoldeb arbennig am sicrhau fod
cyflogau a chyflenwyr yn cael eu talu'n brydlon.
Sgiliau a Diddordebau
Mae'n rhaid i swyddogion cyllid fod yn:
- dda â ffigurau, yn gywir ac yn gallu trin cyfrifiaduron yn
dda;
- gallu cyfarfod â therfynau amser allweddol;
- gallu cyfathrebu â chydweithwyr ar bob lefel;
- brwdfrydig;
- profiadol mewn rheoli ariannol a gweinyddu;
- gweithwyr tîm ac arweinyddion da.
Cymwysterau Mynediad i'r Swydd
Peth profiad o weithio mewn cyfrifeg a gwybodaeth dda o systemau
cyfrifeg cyfrifiadurol a phecynnau meddalwedd ariannol.
Bydd y rhan fwyaf o gynghorau'n rhagdybio y bydd gennych o leiaf
bedair TGAU, graddfa C neu fwy gan gynnwys Saesneg a mathemateg neu
gyfwerth mewn disgyblaeth berthnasol.
Mae yna hyfforddiant mewn swydd a gall swyddogion cyllid
gymhwyso fel aelodau o Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a
Chyfrifeg (CIPFA) neu Gymdeithas Technegwyr Cyfrifeg (AAT).
Rhagolygon a chyfleoedd ar gyfer y
dyfodol
Mae'r llwybr dyrchafiad yn glir ac yn anogol ond mae'n dibynnu ar
gymwysterau a phrofiad pellach. Mae yna lawer o gyfleoedd y
tu allan i awdurdodau lleol yn y sector preifat ac mewn
asiantaethau cyhoeddus megis yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol.
Yn y sector leol, gall swyddogion cyllid symud ymlaen i swyddi
rheolwyr ariannol ac, yn y pen draw, gydag aelodaeth o gorff
proffesiynol a hyfforddiant pellach, i fod yn gyfrifyddion
proffesiynol.
Gwybodaeth a Gwasanaethau Pellach
Cymdeithas Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig www.accaglobal.com
Cymdeithas Technegwyr Cyfrifeg www.aat.co.uk
Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr www.icaew.co.uk
Sefydliad Siartredig Cyllid a Chyfrifeg Cyhoeddus www.cipfa.org.uk
Y cylchgrawn Accountancy Age www.accountancyage.com/
Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/) y
llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich
ysgol.