Swyddog cyflogresi

Cyflwyniad
Mae gan yr awdurdodau lleol amrywiaeth helaeth o weithwyr mewn gwahanol swyddi.  Mae rhai'n gweithio yn ôl amodau amser llawn ac mae rhai'n gweithio'n rhan-amser neu'n rhannu swydd.  Gallen nhw gael eu talu bob wythnos neu bob mis, a gallai rhai hawlio tâl am oriau ychwanegol, shifftiau, oriau ychwanegol, dyletswydd y tu allan i oriau arferol a/neu fonws.  Mae modd iddyn nhw ddewis ymuno â chynllun pensiwn a gofyn i'r cyfraniadau gael eu tynnu oddi wrth eu cyflogau.  Gwaith adran y cyflogresi yw gofalu bod pawb yn cael y cyflog cywir a diweddaru'r cofnodion perthnasol.  Ar ben hynny, mae rhai cynghorau'n gweinyddu cyflogresi ysgolion sydd i'w rheoli'n lleol, gan ddefnyddio gwybodaeth mae gweinyddwyr yr ysgolion wedi'i chyflwyno.

Amgylchiadau'r gwaith
Mae swyddogion cyflogresi'n gweithio yn swyddfeydd y cyngor, gan gyflawni'r rhan fwyaf o'u gwaith â chyfrifiaduron wrth eu desgiau.  Efallai y byddan nhw'n mynd i gyfarfodydd mewn swyddfeydd ac adeiladau eraill, weithiau.

Gweithgareddau beunyddiol
Mae swyddogion cyflogresi'n rheoli tîm o glercod neu gynorthwywyr cyflogresi.  Eu rôl yw dyrannu gwaith ymhlith aelodau'r tîm a'u goruchwylio nhw i ofalu eu bod yn paratoi, yn gwirio ac yn cofrestru data erbyn dyddiad talu gweithwyr y cyngor bob wythnos neu fis.  Fel arfer, bydd gweithwyr yn cael eu talu ar ddiwrnod penodol yn ystod yr wythnos.  Bydd cyflogau'r rhai sydd i'w talu'n fisol yn cael eu trosglwyddo i'w cyfrifon banc tua diwedd y mis a bydd adroddiad o'i gyflog yn mynd at bob un.
Bydd staff y cyflogresi'n gwirio dalenni amser sy'n dangos faint o oriau mae pawb wedi'u gweithio gan bennu unrhyw fonws, goramser a thaliadau ychwanegol eraill sy'n ddyledus a didynnu treth incwm, yswiriant gwladol a chyfraniadau at y pensiwn.  Byddan nhw'n paratoi adroddiad ac ynddo'r wybodaeth honno i gyd i bob gweithiwr.  Rhaid iddyn nhw brosesu manylion salwch statudol a galwedigaethol, hefyd.

Mae swyddogion cyflogresi'n gyfrifol am ofalu bod y staff yn cael unrhyw gynnydd blynyddol sy'n ddyledus iddyn nhw hefyd, yn ogystal â chofnodi costau'r cyflogau blynyddol i bob adran o'r cyngor.Byddan nhw'n paratoi ystadegau ar gyfer penaethiaid a rheolwyr adrannau yn ôl yr angen.  Byddan nhw'n cysylltu â'r adrannau recriwtio a phersonél i gael gwybod pryd y bydd gweithwyr yn ymuno, yn gadael neu'n ymddeol a gofalu bod eu cyflogau nhw yn gywir.

Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai pwysicaf:

  • goruchwylio - gallu dirprwyo gwaith i bobl eraill;
  • trin a thrafod sustemau TG;
  • gallu gweithio'n fanwl gywir yn ôl dull;
  • gallu gweithio o'ch pen a'ch pastwn eich hun ac yn rhan o dîm;
  • natur drefnus - gallu canolbwyntio, rhoi sylw i fanylion a blaenoriaethu gwaith yn ôl amserlenni;
  • gwybod am amodau a thelerau gwladol a lleol ynglŷn â gwahanol swyddi yn ogystal â rheoliadau yswiriant gwladol a threth incwm.

Rhaid cadw gwybodaeth yn gyfrinachol.  Er enghraifft, ddylen nhw ddim trafod cyflogau na materion personol gweithwyr (weithiau, gallai fod angen iddyn nhw drin a thrafod gorchmynion atodi enillion neu benderfyniadau llysoedd am ddyledion, gan ofalu bod arian yn cael ei dynnu oddi wrth gyflog gweithiwr a'i roi i swyddfa'r llys).

Meini prawf derbyn
Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Lefel II (neu gymhwyster cyfwerth) gyda pheth tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol ychwanegol.  Gallai fod gan rai darpar weithwyr gymwysterau uwch, fodd bynnag.  At hynny, mae angen gwybodaeth am faterion cyflogresi a phrofiad o weithio mewn tîm o dan bwysau.  Mae angen profiad o ddefnyddio cronfeydd data cyfrifiadurol ynglŷn â chyflogresi, hefyd.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Mewn cyngor bychan, gallai fod un neu ddau swyddog sy'n gyfrifol am dîm bychan ac ynddo ddau neu dri chynorthwywr.  Mewn cyngor mawr, gallai fod dau neu dri phrif/uwch swyddog cyflogresi, wyth neu naw swyddog cyflogresi a rhyw 20 o gynorthwywyr.  Mae modd cael eich dyrchafu'n rheolwr cyflogresi maes o law.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifeg: www.aat.co.uk
Sefydliad Breiniol y Proffesiynolion Cyflogresi: http://www.cipp.org.uk/

Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links