Swyddog pridiannau tir

Cyflwyniad
Pan mae rhywun ar fin prynu eiddo - naill ai adeilad neu ddarn o dir - mae eu cyfreithiwr yn gwneud cais i'r cyngor am chwiliad Pridiannau tir lleol. Mae canlyniad y chwiliad yn dangos i'r prynwr a oes unrhyw fater yn effeithio ar yr eiddo neu'r tir e.e. llwybr cyhoeddus, cynlluniau i godi ffordd neu adeilad arall. Mae swyddogion pridiannau tir yn gyfrifol am gasglu'r holl wybodaeth berthnasol gan wahanol adrannau'r cyngor a'i anfon ymlaen at y cyfreithwyr.

Yr Amgylchedd Gweithio
Mae swyddogion pridiannau tir yn gweithio mewn swyddfa gan amlaf.

Gweithgareddau Dyddiol
Mae gwasanaethau pridiannau tir yn gyfrifol am gadw'r Gofrestr Pridiannau Tir a chynnal chwiliadau pridiannau tir lleol.  Mae chwiliad llawn wedi ei rannu'n ddwy ran:

  • mae'r rhan gyntaf yn amlygu pridiannau cofrestradwy e.e. pridiannau ariannol (a gofrestrwyd yn erbyn yr eiddo gan y cyngor lleol), grantiau gwella, gorchmynion cadwraeth coed, caniatâd cynllunio amodol a chytundebau; 
  • mae'r ail ran yn amlygu materion fel cynlluniau adeiladu ffyrdd, hanes cynllunio'r eiddo a rhybuddion sy'n effeithio ar yr eiddo.

Mae swyddogion pridiannau tir yn ymwneud â phob agwedd ar y gwaith, gan gynnwys:

  • Cadw cofnod o'r holl geisiadau sy'n dod i law;
  • casglu gwybodaeth a diweddaru'r Gofrestr Pridiannau Tir; 
  • cynnal chwiliadau manwl a gofyn am wybodaeth gan adrannau eraill y cyngor; 
  • cysylltu â chynghorau eraill yn yr ardal; 
  • delio gyda ffioedd chwiliadau pridiannau tir; 
  • defnyddio systemau GIS a chofnodion cyfrifiadurol ac ysgrifenedig i gasglu'r wybodaeth berthnasol; 
  • ail edrych ar yr wybodaeth a'i hanfon at y cyfreithwyr; 
  • cyfarfod gydag aelodau o'r cyhoedd sydd eisiau cynnal chwiliadau personol; 
  • goruchwylio cymorthyddion pridiannau tir a dirprwyo rhywfaint o'r gwaith cyffredinol.

Sgiliau a Diddordeb
Mae'n rhaid i swyddogion pridiannu tir fod:

  • yn drefnus; 
  • yn gywir, gan roi sylw i fanylion; 
  • yn gallu defnyddio systemau cyfrifiadurol a chyda sgiliau TG da; 
  • yn gallu cyfathrebu gydag amrywiaeth o bobl a chyda sgiliau gofal cwsmer a sgiliau dros y ffôn da; 
  • yn gyfarwydd ag ardal ddaearyddol y cyngor; 
  • yn gallu gweithio o fewn terfynau amser tynn a dan bwysau;
  • yn gallu gweithio'n dda fel rhan o dîm.

Gofynion
Does dim gofynion penodol ond mae angen o leiaf 4 TGAU gradd C arnoch chi (gan gynnwys Mathemateg a Saesneg).  Efallai y bydd rhai cynghorau yn gofyn am brofiad blaenorol neu wybodaeth o chwiliadau pridiannau tir.  Efallai y bydd gennych chi gyfle i astudio ar gyfer N/SVQs yn y maes.

Rhagolygon a Chyfleoedd
Efallai y bydd cyfleoedd i chi fynd yn eich blaenau i swyddi uwch neu swyddi rheoli. Drwy ennill cymwysterau ychwanegol a mynychu hyfforddiant, efallai y gallwch chi ddatblygu o fewn meysydd cyfreithiol eraill yn y cyngor, neu i wasanaethau cynllunio a rheoli datblygu.

Swyddi Cysylltiedig
Dilynwch y ddolen hon i weld rhestr o'r holl alwedigaethau cysylltiedig ag Adeiladu eich Cymuned. Fel arall, dilynwch y ddolen hon i weld yr holl broffiliau gyrfaoedd yn y maes.

Rhagor o Wybodaeth a Gwasanaethau
Sgiliau Asedau www.assetskills.org
Tir a chymdeithas busnes Gwlad www.cla.org.uk
Sefydliad Refeniw, Graddio a Phrisiant www.irrv.org.uk
Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig www.rics.org.uk
Mae Cymdeithas Awdurdodau Cofrestru Tiroedd Comin www.acraew.org.uk

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y maes gwaith hwn drwy Yrfa Cymru (www.gyrfacymru.com) neu yn eich llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links