Swyddog cefn gwlad/coetiroedd

Cyflwyniad
Pan fyddwch allan yn cerdded yng nghefn gwlad, ydych chi erioed wedi ystyried pwy benderfynodd i ble y dylai'r llwybrau arwain, pwy sy'n sicrhau eu bod yn glir o lystyfiant a phwy drefnodd i'r ardal bicnic gael ei lleoli mewn man penodol? Mae'n debygol mai swyddog cefn gwlad oedd yn gyfrifol am yr holl bethau hyn.   Ar hyn o bryd mae tua 5,000 o swyddogion cefn gwlad (neu goetiroedd) yn gweithio yn adrannau gwasanaethau amgylcheddol awdurdodau lleol.  Maent yn cefnogi ac yn helpu rheolwyr cefn gwlad i reoli parciau gwledig, coetiroedd, gwarchodfeydd natur, ardaloedd pysgota a hawliau tramwy cyhoeddus.

Y prif nod yw annog pobl i ymweld â chefn gwlad, hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r amgylchedd naturiol ac, ar yr un pryd, diogelu cynefinoedd naturiol planhigion ac anifeiliaid.

Amgylchedd Gwaith
Mae swyddogion cefn gwlad yn treulio tua hanner yr wythnos waith mewn swyddfa neu mewn cyfarfodydd, a'r hanner arall allan yn yr awyr agored. Mae angen ymweld â safleoedd i gynnal arolygon neu i gwrdd â pherchnogion tir, er enghraifft.  Mae'r rhain yn cael eu cynnal yn ôl yr angen, boed law neu hindda; gall swyddogion cefn gwlad ganfod eu hunain yng nghanol gwyntoedd cryfion, glaw trwm neu eira.

Gweithgareddau Dyddiol
Mae gwaith swyddog cefn gwlad yn amrywio o gyngor i gyngor.  Gallai'r canlynol fod ymysg y dyletswyddau nodweddiadol:

  • Edrych ar sut i ddatblygu ardaloedd o gefn gwlad unigol. Er enghraifft, a ddylai coetir gael ei ddatblygu i ddenu ymwelwyr, neu a ddylid ei ddiogelu i gynnal rhywogaethau o fywyd gwyllt/planhigion penodol?
  • Rheoli ymweliadau â chefn gwlad - ceisio atal difrod i'r tir drwy sicrhau bod digon o arwyddion yn dangos y llwybrau cerdded, bod digon o finiau ar gael, a bod mannau parcio ar gael. 
  • Addysgu pobl ar sut i ofalu am gefn gwlad, drwy daflenni, byrddau gwybodaeth ac ati.
  • Ymchwilio a llunio adroddiadau a fydd yn helpu i lunio polisïau cadwraeth hirdymor yr awdurdod. 
  • Siarad â landlordiaid a rhoi cyngor iddynt ar sut i reoli eu tir mewn ffyrdd sydd o fudd i fywyd gwyllt/cefn gwlad. 
  • Monitro ansawdd yr amgylchedd naturiol - archwilio safleoedd, cynnal arolygon, trefnu arbrofion gwyddonol. 
  • Trefnu a goruchwylio'r gwaith o gynnal a chadw parciau gwledig ac ardaloedd cadwraeth. 
  • Gwahodd ysgolion i gymryd rhan mewn 'dehongliadau amgylcheddol' - chwilota mewn pyllau, edrych am fywyd gwyllt, adnabod coed. 
  • Cynnig cyngor i bobl sydd am gynnal eu prosiectau cadwraeth eu hunain. 
  • Ymdrin â chwynion - ynghylch llystyfiant yn effeithio ar hawliau tramwy cyhoeddus, er enghraifft. 
  • Cwrdd ag asiantaethau fel yr Asiantaeth Cefn Gwlad i drafod cynlluniau cadwraeth. 
  • Cwrdd â pherchnogion tir i drafod cynlluniau y bwriedir eu rhoi ar waith yn agos at eu tir. 
  • Edrych ar geisiadau cynllunio a rhoi cyngor ar effeithiau negyddol ffordd newydd, er enghraifft, ar gefn gwlad.
  • Cyflwyno gwybodaeth lafar ar gefn gwlad i grwpiau lleol.
  • Ymdrin â gwaith papur ac ysgrifennu adroddiadau.

Sgiliau a Diddordebau
Mae sgiliau cyfathrebu yn hanfodol. Mae swyddogion cefn gwlad yn ymdrin â landlordiaid, swyddogion awdurdodau lleol eraill a'r cyhoedd o ddydd i ddydd.  Mae angen i swyddogion fod yn hyderus a phendant, ond gan gydymdeimlo â barn eraill.  Mae pwyll a'r gallu i drafod yn bwysig.

Hefyd, mae angen i swyddogion cefn gwlad:

  • fod yn drefnus, a meddu ar y gallu i gynllunio ymlaen llaw
  • gallu ysgrifennu adroddiadau a'u cyflwyno mewn cyfarfodydd
  • bod â diddordeb mewn gweithio gyda phlanhigion ac anifeiliaid yn eu hamgylchedd naturiol, a brwdfrydedd dros wneud hynny.

Gofynion Mynediad
Nid oes unrhyw ofynion mynediad penodol ond, gan fod llawer o gystadleuaeth am y swyddi, mae gan lawer o ymgeiswyr radd/diploma cenedlaethol uwch.  Ymysg y pynciau perthnasol mae gwyddorau amgylcheddol, bioleg, arolygu, daearyddiaeth, ecoleg, rheoli cefn gwlad/amgylcheddol.

Mae profiad drwy waith gwirfoddol neu waith dros dro yn hanfodol. Gall fod yn bosibl dechrau mewn swyddi ymarferol lefel is a gweithio'ch ffordd i fyny.  Mae NVQ/SVQ mewn Cadwraeth Amgylcheddol ar gael ar Lefelau 2 a 3.
Yn aml bydd angen trwydded yrru.

Cyfleoedd yn y dyfodol
Mae'r gystadleuaeth am swyddi ym maes cadwraeth yn uchel, felly gorau po fwyaf o brofiad sydd gennych.  Mae llawer o'r gwaith corfforol sy'n gysylltiedig â rheoli cefn gwlad yn dymhorol ac felly mae swyddi dros dro yn aml ar gael.   Gall swyddogion cefn gwlad sydd â'r cymwysterau gofynnol symud i fod yn uwch swyddogion neu reolwyr cefn gwlad, gyda chyfrifoldeb am reoli tîm o swyddogion a chyllideb.

Ceir hefyd gyfleodd mewn asiantaethau Llywodraethol, gan gynnwys English Nature, yr Asiantaeth Cefn Gwlad, Treftadaeth Naturiol yr Alban a Chyngor Cefn Gwlad Cymru; a chydag ymddiriedolaethau elusennol fel y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar, Coed Cadw a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Rhagor o Wybodaeth a Gwasanaethau
Cyngor Amgylcheddol www.the-environment-council.org.uk
Cyngor Cefn Gwlad Cymru www.ccw.gov.uk
Lantra www.lantra.co.uk
The Conservation Volunteers www.tcv.org.uk
Y Sefydliad Ecoleg ac Amgylcheddol www.ieem.net

Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/) y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich ysgol.

Related Links