Swyddog personél/adnoddau dynol

Cyflwyniad
Diben swyddogion personél/adnoddau dynol yw helpu i ofalu bod adnoddau dynol (gweithwyr) sefydliad mor effeithiol ag y bo modd.  Gallan nhw wneud hynny trwy roi cymorth uniongyrchol i'r gweithwyr neu roi gwybodaeth arbenigol i'w rheolwyr.  Mae tua 15,000 o swyddogion personél (gan gynnwys rheolwyr) ym myd llywodraeth leol y Deyrnas Gyfunol.  O achos amryw agweddau'r gwaith, mae sawl enw ar y swyddogion megis swyddogion cysylltiadau diwydiannol, swyddogion staffio a datblygu, swyddogion cysylltiadau â gweithwyr a swyddogion adnoddau dynol.

Amgylchiadau'r gwaith
Gall y gwaith fynd rhagddo mewn amryw fannau megis swyddfeydd ac adeiladau eraill yn yr awdurdod lleol.  Yn y swyddfa y gwneir y rhan fwyaf o'r gwaith, fodd bynnag.

Gweithgareddau beunyddiol
Mae amrywiaeth helaeth o orchwylion.  Dyma rai o'r prif ddyletswyddau:

  • gofalu am les y gweithwyr trwy, er enghraifft, gadw at ofynion y gyfraith ym maes iechyd a diogelwch a llunio ffyrdd o drin a thrafod problemau megis straen, smygu a thrais yn y gwaith;
  • llunio hysbysebion am swyddi, ateb cwestiynau ymgeiswyr, tynnu rhestri byr, trefnu paneli cyfweld a chymryd rhan ynddyn nhw lle bo angen;
  • gofalu bod gan weithwyr y medrau angenrheidiol, y statws priodol a chyflog cystadleuol (gwerthuso swyddi);
  • cadw ffeiliau a chofnodion ynglŷn â phersonél;
  • cydlynu trefniadau arfarnu;
  • cynnal cyrsiau hyfforddi, goruchwylio hyfforddiant rhai staff a chynghori am faterion hyfforddi;
  • ymgynghori â'r undebau llafur am gyflogaeth, gan gwrdd â nhw yn fynych i drafod materion megis diogelwch, amodau gwaith, polisïau a chyflogau;
  • helpu rheolwyr i baratoi cynlluniau adleoli staff lle mae adran wedi cau, ad-drefnu strwythurau staff mewn adrannau, goruchwylio cynigion i ymddeol neu adael yn gynnar a diswyddo staff (ar ôl i bopeth arall fethu) - at hynny, rhaid helpu rheolwyr i ymgynghori â gweithwyr ac undebau llafur ynglŷn ag unrhyw newidiadau a diswyddiadau arfaethedig;
  • helpu i lunio fframwaith y staff - lle mae angen disgyblu gweithwyr, rhaid i swyddogion personél ymdrin â nhw'n uniongyrchol neu gynghori'r rheolwyr sut y dylen nhw wneud hynny;
  • llunio, monitro, adolygu a diweddaru polisïau cyflogaeth y cyngor, gan ofalu bod gweithwyr y cyngor yn adlewyrchu natur poblogaeth y fro (gan gynnwys pobl anabl);
  • cynghori a chyfarwyddo rheolwyr am weithredu yn ôl polisïau cyflogaeth ym meysydd absenoldeb salwch, disgyblu, gallu, cwyno ac ati.

Medrau a diddordebau
Dylai swyddogion personél allu trin a thrafod pobl o bob lliw a llun fel y gallan nhw ennill eu hymddiried a'u parch.  Mae eisiau amynedd, agwedd dringar, medrau trefnu a'r gallu i ddod i benderfyniadau diduedd.  Mae rhaid meithrin medrau dadansoddi a datrys problemau i'w helpu i lunio polisïau, cynllunio a darogan pa fedrau y bydd eu hangen yn y dyfodol.  Yn olaf, mae'n bwysig i swyddogion personél weld sefyllfaoedd o safbwynt y cyflogwyr a'r gweithwyr fel ei gilydd.  Rhaid cadw at gyfrinachedd, gan fod angen trin a thrafod materion cyfrinachol yn aml.

Meini prawf derbyn
Sefydliad Breiniol Personél a Datblygu yw corff proffesiynol y rhai sy'n ymwneud â'r maes hwn.  Does dim gofynion lleiaf ond bydd y rhan fwyaf o bobl yn dechrau gyda gradd neu Ddiploma Cenedlaethol Uwch cyn astudio ar gyfer cymwysterau arbenigol.  Mae llawer o bobl wedi dechrau eu gyrfa trwy gyflawni gorchwylion gweinyddol maes personél ac astudio ar gyfer cymwysterau arbenigol wedyn.  Mae tair elfen i gynllun Sefydliad Breiniol Personél a Datblygu: 'Rheoli Craidd'; 'Personél a Datblygu Craidd'; 'Personél a Datblygu Arbenigol a Chyffredinol'.

Ar y llaw arall, mae modd symud i faes personél ar ôl bod mewn adran arall megis addysg neu briffyrdd.  Mae pawb yn cael astudio ar gyfer cymwysterau sylfaenol Sefydliad Breiniol Personél a Datblygu - Tystysgrif 'Arferion Personél' a Chynllun 'Ymgymhwyso'n Broffesiynol'.

Mae modd astudio ar gyfer y dystysgrif naill ai'n rhan amser neu trwy ddysgu agored ac mae angen blwyddyn i'w hennill, fel arfer.  Ymhlith cymwysterau eraill Sefydliad Breiniol Personél a Datblygu mae Tystysgrif 'Arferion Hyfforddi' a Thystysgrif 'Denu a Dethol'.  Cewch chi ymuno â Chynllun 'Ymgymhwyso'n Broffesiynol' naill ai'n amser llawn, rhan-amser neu'n ddysgwr agored.  O astudio'n rhan-amser, bydd angen tair blynedd i ymgymhwyso.  Mae Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol ar gael fel a ganlyn hefyd: 'Cymorth Personél' (Lefel 3), 'Rheoli Personél' (Lefel 4), 'Strategaethau Personél' (Lefel 5).  Mae modd bwrw prentisiaeth ym maes cymorth personél.  Ar ben hynny, mae rhai pobl yn symud i faes personél ar ôl bwrw prentisiaeth 'Gweinyddu Busnes'.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Ar ôl ymgymhwyso, mae'n weddol hawdd trosglwyddo medrau mewn awdurdod lleol i gyrraedd swyddi uwch megis blaen swyddog personél, ac mae'n bosibl cael eich dyrchafu'n brif swyddog personél wedyn.  Gan fod swyddogion personél/adnoddau dynol gan bob awdurdod lleol yn y Deyrnas Gyfunol, mae digon o gyfleoedd i'r rhai sy'n dewis gyrfa yn y maes hwn.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Sefydliad Breiniol Personél a Datblygu: www.cipd.co.uk
Rhwydwaith Sefydliadau Hyfforddi Awdurdodau Lleol a Rhanbarthol Ewrop: www.ento.org/portal

Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links