Swyddog diogelwch

Cyflwyniad
Mae diogelwch yn fwyfwy pwysig yn yr oes ansicr hon - i feysydd awyr, gwestyau mawr, llysgenadaethau, banciau a chynghorau lleol!  Mae'r cynghorau'n berchen ar lawer o dir ac adeiladau ac mae swyddogion diogelwch yn gyfrifol am y safleoedd hynny a diogelwch y bobl sy'n gweithio yno.  Mae swyddogion diogelwch mewn awdurdodau o bob math, er y gallai rhai berthyn i gwmnïau preifat.

Amgylchiadau'r gwaith
Mae eisiau cadw golwg ar amryw safleoedd drwy gydol y dydd a'r nos gan gynnwys canolfannau dinesig, amgueddfeydd, canolfannau hamdden, meysydd chwaraeon, mynwentydd, swyddfeydd hysbysu ymwelwyr - yn wir, pob adeilad a darn o dir sy'n eiddo i'r cyngor a lle gallai fod perygl.  Gall y gwaith fod yn ddiflas pan nad yw dim byd yn digwydd ac yn gyffrous pan ddaw rhywbeth i'r amlwg. Mae disgwyl gweithio mewn gwisg unffurf ac mae dillad diogelu ar gael yn ôl yr angen.  Gallai fod eisiau mynd i safleoedd pan nad ydych chi ar ddyletswydd - er enghraifft, lle mae larwm wedi canu neu lle mae rhywbeth wedi digwydd ar un o safleoedd y cyngor.

Gweithgareddau beunyddiol
Gall fod angen diogelu safle yn gyffredinol gan wirio adeiladau, monitro ymwelwyr, defnyddio offer megis camerâu a larymau, cyflawni gorchwylion cynnal a chadw a symud offer a chelfi.  Mewn sawl ffordd, gall swyddog diogelwch weithredu'n warden neu'n gludwr mewn sefyllfa o'r fath.  Prif rôl y swyddog, fodd bynnag, yw gofalu bod yr adeilad a phopeth sydd ynddo yn ddiogel.  Gallai nifer o weithwyr llai profiadol fod o dan ei adain.  Fe fyddwch chi'n ymwneud â'r cyhoedd weithiau megis wrth brif fynedfa'r ganolfan ddinesig.  Felly, rhaid bod yn gwrtais ac yn barod eich cymwynas bob amser, gan amlygu agwedd gadarn heb wylltio byth.

Medrau a diddordebau
Mae angen y canlynol:

  • profiad o drin a thrafod y cyhoedd;
  • gallu osgoi cynhyrfu wrth ymateb i ymholiadau;
  • agwedd gwrtais a helpgar;
  • agwedd gwrtais dros y ffôn;
  • bod yn heini;
  • natur sefydlog ac aeddfed;
  • parodrwydd i wisgo dillad unffurf pan fo'n briodol;
  • medrau sylfaenol o ran defnyddio cyfrifiadur.

Meini prawf derbyn
Does dim meini prawf penodol, ond disgwylir addysg o safon dda.  Weithiau, mae gofyn i ymgeiswyr ddangos profiad o weithio ym maes diogelwch ac ysgrifennu cofnodion cywir a darllenadwy.  Mae 'cadw cofnod' yn rhan o'r swydd, yn aml.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Mae sawl cyfle i gael swydd o'r fath ym myd llywodraeth leol yn ogystal â'r sector preifat.  Gan fod natur y gwaith yn amrywio'n fawr o'r naill safle i'r llall, mae sawl gwahanol ffordd o fynd ymlaen - er enghraifft, trwy astudio ar gyfer cymwysterau proffesiynol mewn maes megis iechyd a diogelwch trwy gyrsiau rhan-amser, gyda'r nos ac ati neu wella'ch cyrhaeddiad addysgol yn gyffredinol.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Sgiliau Ased: www.assetskills.org
Cymdeithas Diwydiant Diogelwch Prydain: www.bsia.co.uk
Sefydliad y Ddinas a'r Urddau: www.city-and-guilds.co.uk
Cymdeithas Rheolwyr Teledu Cylch Cyfyng Cyhoeddus: www.pcma.org.uk
Medrau er Diogelwch: www.skillsforsecurity.org.uk

Fe gewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links