Cyflwyniad
 Nod y swydd hon yw annog rhagor o bobl i fynd i'r gwaith gyda'r
bws a gadael eu ceir gartref er lles yr amgylchedd.  Mae
swyddogion marchnata a datblygu cludiant cyhoeddus yn hyrwyddo
gwasanaethau cludo lleol trwy gydweithio â chwmnïau'r bysiau i
lunio ffyrdd effeithiol o farchnata cludiant.
Mae swydd hon mewn awdurdodau lleol o bob math - fel arfer, yn
adran trafnidiaeth y gwasanaethau amgylcheddol.
Amgylchiadau'r gwaith
 Mae peth gwaith yn y swyddfa a pheth teithio trwy'r ardal i weld
gwaith yr adran ar lawr gwlad ac ymweld â mudiadau lle mae cyfle i
hybu polisi cludiant y cyngor - er enghraifft, os yw cylch lleol yn
cwrdd i brotestio am dagfeydd mewn tref neu ddinas.  37 awr
yw'r wythnos safonol, a gallai fod rhaid gweithio gyda'r nos a
thros y Sul.
Gweithgareddau beunyddiol
 Mae'r swyddogion yn rhan o dîm cludo teithwyr o dan arweiniad
rheolwr.  Fel arfer, bydd cynlluniwr cludiant a swyddog
cludiant y cyngor yn y tîm hwnnw, hefyd.  Y prif ddyletswyddau
yw helpu i wneud y canlynol:
- meithrin partneriaethau gyda chwmnïau bysiau;
 
- llunio strategaeth hysbysu pobl am gludiant cyhoeddus;
 
- hyrwyddo tocyn y bydd pob cwmni'n ei gydnabod yn ôl Deddf
'Trafnidiaeth' 2000 a Deddf 'Cystadlu' 1998 - un tocyn, unrhyw
fws;
 
- sefydlu cynlluniau tocynnau mantais i ddisgyblion a hen
bobl;
 
- sefydlu mentrau hybu tocynnau mantais;
 
- marchnata a hysbysebu gwasanaethau bysiau gan gynnwys gosod
mannau gwybodaeth mewn lleoedd allweddol;
 
- meithrin partneriaethau gyda chynghorau tref a bro i hybu
cludiant gwledig;
 
- sefydlu fforwm cwmnïau a gweithwyr lleol i hybu cynlluniau
teithio;
 
- dadansoddi gwasanaethau'n fanwl gywir yn ôl prif ardaloedd
cyflogaeth y sir a gwella'r gwasanaethau hynny trwy feithrin
cysylltiadau agos â chwmnïau a gweithwyr;
 
- cynnal arolygon o'r rhai nad ydyn nhw'n defnyddio bysiau ac, ar
ôl dehongli'r canlyniadau, llunio rhaglenni i wneud cludiant
cyhoeddus yn fwy deniadol.
 
Medrau a diddordebau
 Dyma'r rhai hanfodol:
- cyfathrebu'n dda ar lafar ac ar bapur;
 
- llunio mentrau marchnata a hysbysebu effeithiol;
 
- negodi'n effeithiol;
 
- dadansoddi materion a phennu dewisiadau;
 
- datrys problemau;
 
- deall egwyddorion gofalu am gwsmeriaid;
 
- cyd-dynnu â phobl o bob lliw a llun;
 
- siarad yn gyhoeddus mewn cyfarfodydd.
 
Byddai disgwyl ichi ddeall yn eglur pa mor werthfawr yw
technoleg gwybodaeth o ran trefnu a marchnata cludiant,
hefyd.  Byddai o fantais pe baech chi'n gyfarwydd â'r deddfau
ynglŷn â chludiant cyhoeddus.
Meini prawf derbyn
 Ar gyfer y swyddi uwch, dylai fod gradd gyda chi.  Mae
profiad o weithio mewn tîm, rheoli prosiectau a defnyddio pecynnau
TG yn hanfodol ar gyfer swyddi canolradd.  At hynny, byddai
profiad o'r canlynol o gymorth:
- llunio mentrau marchnata;
 
- rhwydweithio ar draws sefydliadau a gweithio gyda chwmnïau
cludiant cyhoeddus neu ddiwydiant tebyg;
 
- trefnu a rheoli cyllidebau.
 
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
 Bydd cludiant yn fater pwysig i fyd llywodraeth leol drwy'r amser,
a bydd cyfleoedd i ddatblygu gyrfa yn y maes hwn yn parhau. 
Mae modd symud i swyddi cysylltiedig megis rheolwr cludiant
teithwyr a chael eich dyrchafu wedyn yn ddirprwy bennaeth
trafnidiaeth gan arwain at swydd pennaeth trafnidiaeth yn y pen
draw.
Byddai swyddi rheolwyr mewn cwmnïau preifat perthnasol, gan
gynnwys cwmnïau ymgynghorol trafnidiaeth a chludiant, ar gael
hefyd.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
 GoSkills: www.goskills.org
 Sefydliad Breiniol Logisteg a Chludiant: www.ciltuk.org.uk
 Sefydliad Breiniol Cysylltiadau Cyhoeddus: www.cipr.co.uk
 Sefydliad Breiniol Priffyrdd a Thrafnidiaeth: www.iht.org
 Sefydliad Logisteg a Chludiant: www.iolt.org.uk
Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu erthygl Sbotolau ar yrfaoedd yn y
diwydiannau creadigol: 
https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-diwydiannau-creadigol/
Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd
eich ysgol.