Cyflwyniad
Mae angen i bobl deithio - i'r gwaith, i'r ysgol, i'r
siopau, i'r gwyliau ac ati. Mae rôl bwysig i gynllunwyr
trafnidiaeth byd llywodraeth leol ynglŷn â gofalu bod cyfundrefn
drafnidiaeth. Eu diben yw trefnu, llunio, cynnal a chadw
isadeiledd ein trafnidiaeth a gofalu ei fod yn cydblethu ag
amcanion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ardal y cyngor
lleol.
Amgylchiadau'r gwaith
Yn y swyddfa y mae'r cynllunwyr yn gweithio fel arfer, er
y byddan nhw'n ymweld â safleoedd weithiau.
Gweithgareddau beunyddiol
Mae'r cynllunwyr yn cyflawni amrywiaeth helaeth o
ddyletswyddau, gan gynnwys:
- paratoi cynlluniau trafnidiaeth strategol;
- defnyddio cyfrifiaduron i lunio modelau trafnidiaeth;
- ystyried y ffyrdd gorau o ddatrys problemau ym maes
trafnidiaeth;
- asesu effaith amgylcheddol ar gynlluniau newydd ar gyfer
ffyrdd/rheilffyrdd;
- paratoi gofynion ar gyfer, er enghraifft, cynlluniau arafu
cerbydau neu barthau cerddwyr;
- asesu effaith unrhyw adeiladau newydd megis canolfannau siopa
ar dagfeydd;
- cydweithio â staff adrannau eraill y cyngor megis cynllunio a
rheoli datblygu;
- helpu athrawon, rhieni a disgyblion i baratoi cynlluniau
teithio i'r ysgol;
- paratoi cynlluniau teithio gwyrdd;
- cynghori cwmnïau ar gynlluniau teithio gwyrdd;
- astudio damweiniau ceir a dyfeisio ffyrdd o'u hosgoi;
- trafod telerau gyda'r rhai y bydd cynlluniau newydd yn
effeithio arnyn nhw;
- cymharu costau â manteision;
- paratoi a rheoli cytundebau;
- paratoi cynghorion ar gyfer cynghorwyr ac aelodau o Senedd San
Steffan a'r Cynulliad;
- mynd i rai o gyfarfodydd y cyngor;
- monitro ystadegol;
- ymateb i newidiadau yn y gyfraith ac i ddogfennau
ymgynghori.
Medrau a diddordebau
Mae eisiau'r canlynol:
- amgyffred a diddordeb ynglŷn â phobl, lleoedd a theithio;
- gallu ymarferol a medrau datrys problemau;
- medrau cyfathrebu da;
- medrau dadansoddi a meddwl rhesymegol;
- syniadau creadigol ac arloesol;
- medrau da ym maes TGCh.
Meini prawf ymgeisio
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn dechrau eu gyrfa ym maes
cynllunio trafnidiaeth ar ôl ennill gradd mewn pwnc megis
daearyddiaeth neu beirianneg sifil. Mae gan mwy a mwy o
gynllunwyr raddau mewn pynciau megis astudiaethau busnes,
astudiaethau amgylcheddol, economeg, mathemateg neu gynllunio
trefol (gan gynnwys cludiant) bellach, fodd bynnag.
Mae modd astudio ar gyfer gradd meistr yn y maes hwn mewn rhai
prifysgolion. Fe welwch chi ragor ar wefan Transportation
Opportunities Gallai fod modd astudio ar gyfer Cymhwyster
Galwedigaethol Cenedlaethol yn y maes hwn, hefyd.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Mae modd datblygu'ch gyrfa trwy gael eich dyrchafu'n
rheolwr trafnidiaeth. Ar ben hynny, gallai fod cyfleoedd i
fod yn rheolwr yn rhai o adrannau eraill y cyngor megis y
gwasanaethau amgylcheddol neu adran y cynllunio.
Gwybodaeth a gwasanaethau ychwanegol
Sefydliad Breiniol Logisteg a Thrafnidiaeth: www.ciltuk.org.uk
GoSkills www.goskills.org
Sefydliad y Peirianwyr Sifil: www.ice.org.uk
Cymdeithas Cynllunio Trafnidiaeth: www.tps.org.uk
Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/),
y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich
ysgol.