Cyflwyniad
 Ceir swydd fel hon ym mhob ymgynghoriaeth/adran beirianneg a
phriffyrdd arferol, ac y mae'n rhoi cyfle i beirianwyr gael
hyfforddiant a phrofiad ychwanegol wrth iddynt weithio ar gyfer eu
cymhwyster.  Gallai staff dylunio â chymorth cyfrifiadur hefyd
ei gweld fel cam i swydd ym maes peirianneg.  Mae'r swydd ar
gael ym mhob math o awdurdod.
Amgylchedd Gwaith
 Bydd cynorthwywyr technegol fel arfer yn gweithio yn swyddfeydd
adrannau dylunio neu drafnidiaeth wrth ymyl peirianwyr, technegwr
TG a rhifwyr arolygon traffig.  Byddant yn treulio llawer o
amser wrth gyfrifiadur, sydd weithiau'n cysylltu â dylunwyr,
penseiri a pheirianwyr mewn cyfarwyddiaethau eraill. Byddant hefyd
yn teithio i wahanol safleoedd gwaith sydd weithiau'n fwdlyd ac yn
anodd eu defnyddio ar dywydd gwael.  Bydd dillad gwarchod ar
eu cyfer.  Mae'r oriau gwaith yn safonol - sef 37 awr yr
wythnos - a phur anaml y bydd angen gweithio sifftiau 
gwrthgymdeithasol.
Gweithgareddau Dyddiol
 Bob dydd, bydd cynorthwywyr technegol yn cyfrannu i brosiectau
drwy roi cymorth cyffredinol 'swyddfa ddylunio' i grŵp o bobl sy'n
gyfrifol am greu cynlluniau priffordd a thraffig.  Byddant yn
treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn creu ac yn cynnal cynlluniau,
brasluniau, lluniau a diagramau addas ar gais staff eraill yr
ymgynghoriaeth.  Bydd hyn yn golygu defnyddio'r cyfleusterau
cyfrifiadurol diweddaraf a defnyddio terfynellau'n
uniongyrchol.  Bydd yn rhaid iddynt hefyd:
- ffeilio, llungopïo ac argraffu lluniau â chymorth cyfrifiadur
yn unol â gofynion y grŵp;
 
- ymweld â safleoedd adeiladu a gwaith priffyrdd;
 
- lunio, goruchwylio a dadansoddi arolygon traffig a chyflwyno
adroddiadau arnynt.  Mae hyn yn cynnwys cysylltu â sefydliadau
eraill a goruchwylio staff dros dro;
 
- gysylltu â rhannau eraill o adrannau'r amgylchedd, trafnidiaeth
a chynllunio;
 
- fynychu ymgynghoriadau, ymchwiliadau a chyfarfodydd cyhoeddus
er mwyn cefnogi'r arbenigwyr.
 
Rhan o ddyletswydd cynorthwywyr technegol fydd ymchwilio i'r
mannau gorau ar gyfer cynnal arolygon traffig a lleoli cyfrifwyr,
gyda golwg benodol ar ddiogelwch.  Bydd yn rhaid iddynt ateb
cwestiynau'r cyhoedd am ymgynghoriadau cyhoeddus, a materion
cynllunio, a chynghori staff yn gyffredinol ynglŷn â defnyddio
systemau meddalwedd cymhleth.  Bydd gofyn iddynt gynllunio
ymlaen llaw a helpu gydag arddangosfeydd.  Byddwn hefyd yn
disgwyl iddynt gynnig ffyrdd newydd o egluro'r cynlluniau sydd
gennym mewn golwg i aelodau etholedig a'r cyhoedd, drwy ddefnyddio
lluniau neu ddiagramau.  Byddant yn gyfrifol am ddarparu'r
cymhorthion hyn ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus sy'n ymdrin â
materion fel cynlluniau traffig newydd, er enghraifft.
Sgiliau a Diddordebau
 Er mwyn cyflawni'r swydd hon y mae'n rhaid i gynorthwywyr
technegol:
- allu trafod rhifau'n dda (er mwyn amcangyfrif
tendrau/costau); 
 
- allu darllen ac ysgrifennu'n dda er mwyn llunio adroddiadau ar
brosiectau; 
 
- allu tynnu lluniau yn ôl graddfa; 
 
- fod yn gyfarwydd â dulliau newydd o weithredu, a thechnegau a
deddfwriaeth newydd; 
 
- fod yn hollol gyffyrddus yn defnyddio cyfarpar swyddfa
cyffredin a chyfleusterau arlunio terfynell cyfrifiadur; 
 
- allu defnyddio cyfarpar arolygu ar gyfer ymweliadau â
safleoedd; 
 
- wybod am reolau diogelwch wrth weithio'n agos i
briffyrdd; 
 
- allu cyflwyno'n dda a darparu cymhorthion gweledol
effeithiol; 
 
- allu hyfforddi pobl eraill ar gyfer defnyddio meddalwedd
arlunio i ddibenion arbenigol; 
 
- fod yn ddigon cymodol a medrus wrth gyd-drafod i allu darbwyllo
cleientiaid i dderbyn gofynion y gyfraith; 
 
- allu gweithio heb eu harolygu.
 
Gofynion Derbyn
 Bydd angen o leiaf 4 tystysgrif TGAU radd 'C' arnoch.  Bydd
disgwyl hefyd i chi ddeall arferion a dulliau gweithredu Peirianneg
Sifil a gallu defnyddio cyfleusterau arlunio cyfrifiadurol. 
Byddai dwy flynedd o brofiad perthnasol mewn amgylchedd peirianneg
priffyrdd neu amgylchedd tebyg hefyd yn fanteisiol.
Rhagolygon a Chyfleoedd
 Mae sawl cyfle am ddyrchafiad fel yr awgrymwyd yn y cyflwyniad i'r
braslun hwn.  Gall cynorthwyydd technegol ddod yn dechnegydd
peirianneg, yn beiriannydd corfforedig ac yn beiriannydd siartredig
drwy ddilyn rhagor o hyfforddiant, ennill cymwysterau a chael ei
arolygu gan gorff peirianneg proffesiynol fel Sefydliad Peirianwyr
Sifil.  Bydd hyfforddiant mewnol ar gael hefyd yn aml.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
 E-sgiliau www.e-skills.com
 Sefydliad Peirianwyr Sifil www.ice.org.uk
 Sefydliad Peirianwyr Sifil www.ihie.org.uk
 Sefydliad Rheoli Systemau Gwybodaeth www.imis.org.uk
 Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Thrafnidiaeth www.ciht.org.uk
Cewch ragor o wybodaeth am y maes hwn hefyd drwy gysylltu â
Gyrfa Cymru (www.careerswales.com/),
eich llyfrgell leol, eich swyddfa yrfaoedd neu lyfrgell yrfaoedd
eich ysgol.
Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu Sbotolau erthygl ar yrfaoedd mewn
STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg): https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-stem/