Arolygydd meysydd parcio

Cyflwyniad
Mae arolygwyr meysydd parcio yn gofalu am fannau parcio'r cyngor ar y stryd ac oddi ar y stryd, er mwyn sicrhau y cânt eu cynnal a'u cadw'n dda ac nad yw ceir yn cael eu parcio'n anghyfreithlon. Bydd rhai arolygwyr yn gweithio mewn maes parcio penodol ac yn casglu taliadau gan yrwyr, ond gan fod peiriannau tocynnau awtomatig yn y rhan fwyaf o feysydd parcio, mae'r rhan fwyaf o arolygwyr meysydd parcio yn teithio i nifer o leoliadau gwahanol drwy gydol eu diwrnod gwaith.

Amgylchedd Gwaith
Mae gan arolygwyr meysydd parcio swyddfa ganolog yn swyddfeydd y cyngor. Er hynny, bydd llawer ohonynt yn treulio'r rhan fwyaf o'r dydd yn cadw golwg ar y mannau parcio a gallant fod allan ym mhob tywydd. Darperir gwisg arbennig fel arfer.

Gweithgareddau Dyddiol
Mae gan arolygwyr meysydd parcio amrywiaeth o ddyletswyddau gan gynnwys:

  • cadw golwg ar feysydd parcio ar adegau a bennir gan y goruchwylydd meysydd parcio;
  • cadw golwg am unrhyw ddifrod i arwyneb y maes parcio, y lifftiau, peiriannau tocynnau a goleuadau oherwydd fandaliaeth neu achosion naturiol megis llifogydd;
  • atal pobl rhag defnyddio unrhyw leoedd parcio sydd wedi eu heffeithio, gan ddefnyddio conau neu rwystrau;
  • gwneud mân atgyweiriadau i offer a hysbysu'r goruchwylydd am rai mwy difrifol;
  • sicrhau bod gyrwyr wedi prynu tocyn parcio a'i arddangos yn gywir, ac nad ydynt wedi aros yn hirach na'r amser y talwyd amdano;
  • cadw golwg am gerbydau sydd wedi eu parcio y tu allan i'r cilfachau a nodir, a rhoi hysbysiadau tâl cosb arnynt os yw'n berthnasol;
  • cadw cofnodion cyfredol a chopïau o hysbysiadau a gyflwynwyd rhag ofn i'r gyrwyr gyflwyno apêl yn eu herbyn;
  • neilltuo lleoedd ym meysydd parcio'r cyngor ar gyfer unrhyw ymwelwyr a ddisgwylir;
  • archwilio meysydd parcio a chynorthwyo cwsmeriaid i adael mewn achos o dân neu argyfwng arall.

Sgiliau a Diddordebau
Mae angen i arolygwyr meysydd parcio:

  • fod yn ffit yn gorfforol, gan fod llawer o sefyll, cerdded ac weithiau codi eitemau trwm; 
  • bod yn gyfarwydd â'r ardal leol, gan y gofynnir iddynt am gyfarwyddiadau yn aml; 
  • bod yn gyfathrebwyr da, yn ysgrifenedig ac ar lafar; 
  • gallu aros yn dawel ac yn gwrtais, a gwrando'n amyneddgar ar gwsmeriaid sydd wedi cynhyrfu oherwydd iddynt dderbyn tocyn; 
  • bod yn bendant, ond yn gwrtais; 
  • bod yn sylwgar.

Gofynion Mynediad
Nid oes gofynion mynediad penodol, ond yn aml gofynnir i chi ddangos sgiliau gofal cwsmeriaid gwych a sgiliau rhifedd da. Mewn rhai achosion bydd angen trwydded yrru lawn arnoch hefyd.  Darperir hyfforddiant wrth i chi wneud eich gwaith ac fe allai gynnwys iechyd a diogelwch, cyfathrebu a gofal cwsmeriaid. Bydd cyfle o bosibl i gael N/SVQ mewn Gwasanaethau Parcio.

Cyfleoedd a gobeithion yn y dyfodol
Mae gobaith o gael dyrchafiad i swyddi goruchwylio. Bydd cyfleoedd hefyd o bosibl mewn meysydd trafnidiaeth a thrawsgludiaeth eraill neu ddiogelwch y cyngor. Gyda mwy o hyfforddiant gallwch symud ymlaen i feysydd galwedigaethol eraill sy'n ymwneud â gorfodi, megis cynllunio.

Mwy o Wybodaeth a Gwasanaethau
Cymdeithas Barcio Prydain www.britishparking.co.uk
Diwydiant Prydain Cymdeithas Diogelwch www.bsia.co.uk
Sgiliau ar gyfer diogelwch www.skillsforsecurity.org.uk

Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/) y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich ysgol.

Related Links