Swyddog marchnadoedd

Cyflwyniad
Mae sawl math o farchnadoedd stryd boed stondin sy'n gwerthu jam a theisenni cartref yng nghefn gwlad neu farchnad yng nghanol y dref - megis yr un enwog yn Petticoat Lane, Llundain - lle gallwch chi brynu bron popeth rhwng sosbannau a chyfrifiaduron.

Mae pobl yn hoffi marchnadoedd achos eu bod yn llawn cymeriadau lliwgar a bod y pethau sydd ar werth yn rhatach o lawer na'r nwyddau mae siopau'n eu cynnig.  Ar ôl prynu rhywbeth, fodd bynnag, gallai fod pris ychwanegol i'w dalu ynglŷn â chlirio sbwriel ac anhrefn.  Dyna un o'r rhesymau pam mae gan gynghorau lleol swyddogion marchnadoedd ('swyddogion masnachu yn y strydoedd', weithiau). 

Amgylchiadau'r gwaith
Yn y bôn, byddwch chi'n gweithio yn yr awyr agored ac yn dychwelyd i'r swyddfa i ysgrifennu adroddiadau a phennu amserlenni cynnal a rheoleiddio marchnadoedd.

Mae digon o sŵn a chynnwrf, ambell arfer amheus a ffraeo - heb sôn am y tywydd.  Does dim gwisg ffurfiol er y gallai fod angen dillad diogelu ar adegau.

Fel arfer, rhaid gweithio yn ôl shifftiau a rhestr dyletswyddau, er bod arian ychwanegol am wneud hynny.  37 awr yw'r wythnos safonol.

Gweithgareddau beunyddiol
Mae swyddogion marchnadoedd yn goruchwylio'r modd mae marchnadoedd y cyngor yn mynd yn eu blaen bob dydd.  Rhaid iddyn nhw ofalu bod popeth sy'n digwydd yn y marchnadoedd yn cyd-fynd â pholisïau'r cyngor a'r deddfau cyfredol: lleoliad pob marchnad a'r effaith ar ardaloedd preswyl; pryderon ynglŷn â thrafnidiaeth; llanastr, difwyno, aroglau, sŵn a materion iechyd a diogelwch.  Gan weithio yn ôl canllawiau mae pawb wedi cytuno arnyn nhw, bydd swyddogion yn cadw llygad barcud ar bob ardal, yn casglu tystiolaeth ac yn paratoi adroddiadau i ddibenion erlyn pan ddaw i'r amlwg bod pobl heb gadw at y gyfraith.  Cyn gwneud hynny, fodd bynnag, byddan nhw'n ceisio ysgogi a helpu pobl i ofalu am yr amgylchedd.  Maen nhw am effeithio er gwell ar ein ffordd o fyw a phan fo modd osgoi problemau yn hytrach na gorfod eu datrys, bydd y gwaith yn foddhaol iawn.

Dylai swyddogion marchnadoedd fod yn barod i gyflwyno tystiolaeth a dadleuon pan fo angen erlyn rhywun, fodd bynnag.  Maen nhw'n gweithio mewn timau gan amlaf, ac anghenion ac ymddygiad masnachwyr y stryd sy'n pennu eu hamserlenni.

Fe fyddwch chi'n ymwneud bob dydd ag adran iechyd yr amgylchedd (gan gynnwys swyddogion safonau masnach), y cyhoedd, masnachwyr y stryd, yr heddlu, gwardeiniaid traffig ac, ar adegau, y llysoedd.

Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol: 

  • craffter ynglŷn ag arferion y stryd;
  • mwynhau gweithio yn yr awyr agored;
  • medrau cyfathrebu rhagorol;
  • brwdfrydedd;
  • gallu trin a thrafod pobl o bob lliw a llun;
  • medrau negodi a threfnu da;
  • gallu trin a thrafod sefyllfaoedd anodd ac ymosodol;
  • gwybod y deddfau perthnasol ynglŷn â masnachu, yr amgylchedd a'r ffyrdd;
  • gallu codi datganiadau gan dystion a pharatoi achos;
  • hyder.

Dylech chi allu gyrru car a defnyddio cyfrifiadur, hefyd.

Meini prawf ymgeisio
Bydd angen dwy flynedd o brofiad ym maes gorfodi (troseddau sy'n ymwneud â'r amgylchedd a'r ffyrdd).

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Er nad oes llwybr dyrchafu eglur yn y maes hwn, ar wahân i fod yn rheolwr, mae'n bosibl mynd ymlaen trwy symud i rannau eraill o'r sector.  Ar ôl rhagor o hyfforddiant, er enghraifft, gallech chi symud i adrannau eraill sy'n ymwneud â iechyd a diogelwch, rheoli difwyno, safonau masnach a monitro bwyd.  Mae maes diogelu'r amgylchedd ar gynnydd, ac mae digon o alw am bobl i weithio ynddo.  Mae hynny'n berthnasol i fyd llywodraeth leol a chyrff allanol megis Asiantaeth yr Amgylchedd sy'n rhoi gwybodaeth am beryglon llifogydd ac ati i'r cynghorau lleol a'r gwasanaethau brys.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Cymdeithas Awdurdodau Marchnadoedd Prydain: www.nabma.com 
Ffederasiwn Masnachwyr Marchnadoedd Prydain: www.nmtf.co.uk 
Marchnadoedd Gwlad a Thref: www.townandcountrymarkets.co.uk 
Sefydliad y Safonau Masnach: www.tradingstandards.gov.uk 
www.thetrader.co.uk

Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich ysgol.

Related Links