Cyflwyniad
Mae 20% o ddisgyblion wedi'u diffinio'n rhai ac arnyn nhw
anghenion addysgol arbennig - o achos anabledd corfforol, nam ar y
lleferydd, problemau ymddygiadol neu anableddau dysgu - ar ryw adeg
yn ystod eu hamser yn yr ysgol. Y cynghorau sy'n gyfrifol am
eu haddysgu. Mae modd rhoi cymorth ychwanegol i'r rhan fwyaf
o blant yn ysgolion y brif ffrwd. Mae canran fechan yn
mynychu ysgolion arbennig. Mae gofyn i bob cyngor asesu'r hyn
y dylai ei gynnig i ddiwallu anghenion arbennig plant. Rôl
swyddogion anghenion arbennig yw rheoli'r broses a rhoi
argymhellion am y cymorth allai gael ei roi. Bydd eisiau ar
ryw 2% o blant 'ddatganiad', dogfen ffurfiol sy'n amlinellu
anghenion arbennig y plentyn dan sylw a'r cymorth sydd i'w roi ar
eu cyfer. Mae swyddogion anghenion arbennig mewn cynghorau
sirol, unedol a dinasol. Swyddogion asesu anghenion addysgol
arbennig yw eu henw mewn rhai cynghorau.
Amgylchiadau'r gwaith
Mae swyddogion anghenion arbennig yn gweithio mewn swyddfa yn
adran addysg y cyngor. Maen nhw'n gyfrifol am holl ysgolion
rhyw ardal fel arfer, a byddan nhw'n treulio llawer o amser yn
ymweld ag ysgolion a mynd i gyfarfodydd a chynadleddau am achosion
penodol.
Gweithgareddau beunyddiol
Fel arfer, bydd naill ai'r ysgol neu'r rhieni'n cyflwyno cais am
asesu. Bydd swyddog anghenion arbennig yn gofyn i'r ysgol roi
gwybodaeth ysgrifenedig: y rhesymau dros y cais, manylion unrhyw
gamau arbennig sydd wedi'u cymryd yn barod, adroddiadau meddygol,
enghreifftiau o waith y plentyn a dymuniadau'r rhieni. Ar ôl
iddo bwyso a mesur hynny, bydd naill ai'n rhoi cyfrifoldeb i'r
ysgol am drefnu cymorth ychwanegol neu'n asesu anghenion y plentyn
yn fanwl (asesiad statudol). Cyn penderfynu, fe allai ofyn am
gynghorion cydweithwyr, seicolegwyr addysg neu'r uwch swyddog sy'n
gyfrifol am anghenion addysgol arbennig yn y cyngor. Os
asesu'r anghenion yw'r penderfyniad, bydd rhaid ymgynghori â'r
rhieni, yr athrawon (cydlynydd anghenion arbennig yr ysgol a'r
prifathro, fel arfer), seicolegwyr addysg, meddygon ac, efallai,
gweithwyr cymdeithasol. Ar ôl yr asesiad statudol, bydd y
swyddog yn penderfynu a ddylai lunio 'datganiad' o argymhellion neu
beidio. Wrth baratoi datganiad, bydd yn crynhoi sylwadau pawb
mae wedi ymgynghori â nhw ac argymell y math o gymorth fydd yn
briodol i'r plentyn. Er enghraifft: therapi lleferydd,
ffisiotherapi, cymorth ar gyfer llythrennedd a rhifedd neu gymorth
i newid rhai mathau o ymddygiad.
Ar ôl ymgynghori â'r rhieni, bydd yn argymell ysgolion all
hwyluso'r camau gafodd eu pennu yn y datganiad. Ysgol
bresennol y plentyn fydd honno, yn aml. Rhaid i bob swyddog
anghenion addysgol arbennig gadw at amserlen yn ôl y
gyfraith. Rhaid dod i bob penderfyniad cyn pen cyfnod penodol
a rhaid cwblhau'r broses i gyd hyd at roi'r datganiad cyn pen chwe
mis ar ôl derbyn y cais am asesu. Mae rhaid i staff yr ysgol
a rhieni'r plentyn gwrdd i adolygu'r datganiad bob blwyddyn.
Mewn rhai achosion, er enghraifft lle mae rhywun wedi gofyn am
newidiadau yn y ddarpariaeth neu lle mae'r plentyn yn symud o ysgol
gynradd i ysgol uwchradd, bydd swyddog dros anghenion arbennig yn
bresennol, hefyd. Ar ôl siarad â'r plentyn, y rhieni a'r holl
broffesiynolion sy'n ymwneud â'r achos, gallai fod argymhelliad i
newid y cymorth. Mae swyddogion anghenion arbennig yn treulio
llawer o amser bob dydd yn siarad â phroffesiynolion a rhieni dros
y ffôn. Gallen nhw dreulio rhai oriau bob wythnos yn llunio
datganiadau a rhai dyddiau'n ymweld ag ysgolion neu'n mynd i
adolygiadau. Gallai rhieni gyflwyno apêl pe bai cyngor yn
penderfynu peidio ag asesu anghenion eu plentyn neu lle nad ydyn
nhw'n fodlon ar y cymorth sydd wedi'i gynnig yn y datganiad
terfynol. Mewn achosion o'r fath, gallai fod angen i swyddog
anghenion arbennig baratoi adroddiad ar gyfer uwch swyddog addysg
fydd yn amddiffyn penderfyniad y cyngor gerbron tribiwnlys
anghenion addysgol arbennig.
Medrau a diddordebau
Mae angen y canlynol:
- agwedd graff a thringar;
- gallu meithrin perthynas â phlant, rhieni a chydweithwyr;
- gallu ymdopi â sefyllfaoedd anodd a derbyn y gallai rhai rhieni
adweithio'n ffyrnig lle nad oes modd cyd-fynd â'u dymuniadau;
- gallu cyfathrebu'n dda ac ysgrifennu adroddiadau eglur;
- gallu gweithio yn ôl amserlenni a blaenoriaethu
gorchwylion.
Meini prawf derbyn
Fel arfer, bydd cyngor yn mynnu o leiaf addysg Safon Uwch a pheth
profiad o drin a thrafod anghenion arbennig. Mae llawer o
swyddogion dros anghenion arbennig yn raddedigion. Mae gan
rai brofiad o weinyddu addysg. Mae rhai'n gyn athrawon.
Fe fydd cydweithwyr profiadol yn rhoi hyfforddiant yn y gwaith.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Efallai mai dim ond un swyddog anghenion arbennig fydd mewn cyngor
bychan. Fe allai fod rhwng chwech ac wyth mewn cyngor
mawr. Mae modd cael dyrchafiad at lefel uwch swyddog addysg a
dirprwy gyfarwyddwr addysg.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Adran Addysg San Steffan: www.education.gov.uk
Swyddi ym maes addysg: www.eteach.com
Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru: www.gtcw.org.uk
Cofrestr Hyfforddi Graddedigion yn Athrawon: www.gttr.ac.uk
Hyfforddiant ac Addysg i Athrawon Cymru: www.teachertrainingcymru.org
Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd
eich ysgol.