Gweithiwr gofal plant (gweithiwr meithrinfa)

Cyflwyniad
Os ydych chi am weithio gyda phlant, dyma adeg dda i ddechrau'ch gyrfa.  Mae gwella darpariaeth gofal plant ymhlith y prif flaenoriaethau gwladol, a'r nod yw cynnig i bob plentyn mewn ardal sy'n ymwneud â Chynllun y Cychwyn Cadarn ofal rhan-amser yn rhad ac am ddim lle mae staff tra chymwysedig ac mae cefndir pob un wedi'i wirio trwy Gynllun Datgelu a Gwahardd.  Gallai lle fod ar gael i blentyn ar ôl iddo droi'n ddwy flwydd oed hyd at ei ben-blwydd yn dair neu nes ei fod yn mynd i'r ysgol feithrin, p'un bynnag ddaw gyntaf.  Mewn gwirionedd, mae prinder gweithwyr gofal plant cymwysedig mewn sawl awdurdod lleol.

Mae gweithwyr gofal plant (a elwir yn nyrsys meithrinfa, weithiau) yn cynnig gofal ac addysg i blant hyd at wyth mlwydd oed, ac yn cyflawni rôl bwysig ym mlynyddoedd cynnar y plant.  Mae gweithwyr gofal plant ym mhob awdurdod lleol (yn yr adrannau addysg, y gwasanaethau cymdeithasol a'r adrannau hamdden) a bydd enw'r swydd yn amrywio yn ôl natur y tîm a'r gwaith.  Dyma rai o'r enwau eraill: cynorthwywr meithrinfa, nyrs feithrinfa, rheolwr meithrinfa, swyddog/rheolwr crudfa a gweithiwr gofal plant.

Mae pob canolfan yn cynnig cyfleusterau rhagorol o dan do ac yn yr awyr agored lle gall y plant ymgynefino a hel ffrindiau.  Mae Fframwaith Cyflwyno'r Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yn rhoi dechreuad trefnus i weithwyr yn ystod y eu 12 wythnos gyntaf.  Mae'r fframwaith ar wefan Cyngor Gofal Cymru.

Amgylchiadau'r gwaith
Mae gweithwyr gofal plant, arweinwyr cylchoedd chwarae, goruchwylwyr meithrinfa a'u dirprwyon yn gweithio gyda phlant bach mewn amryw gyfleusterau gan gynnwys ysgolion, meithrinfeydd, cartrefi plant, crudfeydd, cynlluniau chwarae, canolfannau iechyd, cylchoedd chwarae, cylchoedd gofal sesiynol Cynllun y Cychwyn Cadarn a chanolfannau teuluoedd.  Mae pob canolfan yn cynnig cyfleusterau o safon o dan do ac yn yr awyr agored.  Maen nhw wedi'u trefnu'n dda ac mae llawer o gyfleoedd i'r plant anturio, mentro a bod yn chwilfrydig am eu byd.  Mae oriau gwaith yn amrywio yn ôl natur y ddarpariaeth.  Gallai fod angen dechrau'n gynnar a gorffen yn hwyr yn ogystal â gweithio dros y Sul.  Mae gofal sesiynol Cynllun y Cychwyn Cadarn ar gael am ddwy awr a hanner bob dydd am bum diwrnod yr wythnos dros 42 o wythnosau bob blwyddyn.  Mae modd cynnig y gofal hwnnw mewn cylch chwarae lleol, cylch meithrin, meithrinfa oriau dydd, canolfan i blant, gwarchodwr plant a chanolfan arall sy'n ymwneud â Chynllun y Cychwyn Cadarn.  Mae gweithwyr gofal plant yr ysgolion yn gweithio yn ôl oriau gwaith a gwyliau'r ysgolion hynny.

Gweithgareddau beunyddiol
Yn ogystal â gofalu am y plant, mae gweithwyr gofal plant yn gyfrifol am ofalu bod cyfleoedd i'r plant gyflawni eu llawn dwf ym mhob agwedd ar eu datblygiad.  Felly, yn ystod wythnos arferol, byddan nhw'n ymwneud â chynllunio (gan gynnwys pob cynllun unigol), llunio adroddiadau a gwylio.  Rhaid iddyn nhw ymgysylltu â'r plant a bod yn esiamplau i'w hefelychu.  Mae'r gweithgareddau'n amrywio yn ôl natur y lle, ond dyma rai nodweddiadol:

  • croesawu plant a rhieni ben bore a helpu'r plant i ymdawelu;
  • y cynllunio fydd yn pennu gweithgareddau ddylai fod ar gael bob dydd megis chwarae mewn dŵr a thywod, cornel cartref, man adeiladu a man chwarae creadigol;
  • trefnu a llywio gweithgareddau grŵp;
  • trefnu a gosod mannau gweithgareddau thematig;
  • siarad ac ymgysylltu â'r plant, cadw llygad ar eu hymddygiad, annog plant swil i gymryd rhan a chynnal disgyblaeth;
  • rhoi byrbrydau iach a helpu'r plant i ddatblygu'n bersonol;
  • adrodd straeon o flaen grwpiau;
  • gofalu bod y plant yn chwarae'n ddiogel a'u goruchwylio yn yr awyr agored;
  • tacluso ar ôl gweithgareddau ac ar ddiwedd y dydd;
  • llenwi ffurflenni, diweddaru ffeiliau'r plant a chadw cofnodion;
  • cydweithio'n agos â staff eraill y feithrinfa.

Rhan arall o'r rôl yw nodi plant mae angen cymorth ychwanegol arnyn nhw a rhai y gallai fod arnyn nhw anawsterau corfforol neu deimladol.  Mewn achosion o'r fath, rhaid siarad â'r rhieni a phroffesiynolion eraill megis ymwelwyr iechyd, gweithwyr cymdeithasol, therapyddion lleferydd/iaith a seicolegwyr addysg.

Medrau a diddordebau
Y rhinweddau pwysicaf yw agwedd dringar a gwir ddiddordeb mewn plant a'u datblygu.  At hynny, bydd angen:

  • personoliaeth frwdfrydig, siriol a chyfeillgar;
  • medrau cyfathrebu a gwrando;
  • amynedd - gyda phlant, yn enwedig y rhai ac arnyn nhw broblemau ymddygiadol neu anawsterau addysgol arbennig;
  • natur ddigyffro a'r gallu i osgoi cynhyrfu ym mhob sefyllfa;
  • medrau gweithio ar y cyd, a'r gallu i gyd-dynnu ag oedolion (cydweithwyr, rhieni a phroffesiynolion gofal plant);
  • medrau creadigol a'r gallu i drefnu gweithgareddau cyffrous;
  • digon o egni;
  • synnwyr digrifwch!

Meini prawf derbyn
Diplomâu Gofal, Dysgu a Datblygu Plant Fframwaith y Cymwysterau a'r Credydau (lefelau 2, 3 a 5) sydd wedi disodli'r hen drefn bellach, gan gynnwys cymwysterau galwedigaethol cenedlaethol.  Er bod modd gweithio mewn meithrinfa heb unrhyw gymwysterau, mae'r awdurdodau lleol yn tueddu i chwilio am staff cymwysedig ac mae cyfleoedd ychwanegol a gwell i bobl sydd â chymwysterau.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Fel arfer, bydd dyrchafiad yn dibynnu ar eich profiad a'ch cymwysterau.  Mae modd i weithiwr gofal plant fynd yn arweinydd cylch chwarae neu'n ddirprwy arweinydd, yn oruchwyliwr neu'n ddirprwy oruchwyliwr neu'n rheolwr.  Mae rhai wedi sefydlu eu meithrinfeydd eu hunain.
 
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Cyngor Gofal Cymru: www.ccwales.org.uk
Cyngor Cymwysterau Gofal ac Addysg Plant: www.cache.org.uk
Cymorth, cynghorion a gwybodaeth i nyrsys meithrinfa: www.nurserynurses.co.uk
MNT Training: www.mnttraining.co.uk
Mudiad Meithrin: www.mym.co.uk
Cymdeithas Broffesiynol y Nyrsys Meithrin: www.mnttraining.co.uk

Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links