Cyflwyniad
Mae swyddogion hyfforddi naill ai'n darparu, neu'n sicrhau darparu
hyfforddiant i'r holl staff sy'n ymwneud a chyflwyno gwasanaethau
i'w hawdurdod lleol. Efallai y bydd gofyn i Swyddogion Hyfforddi
gydweithio gydag awdurdodau cyfagos. Mae hyn yn cynnwys
trefnu ac/neu gynnal digwyddiadau hyfforddi naill ai'n bersonol,
neu drwy bartneriaid mewnol ac allanol, ymgynghorwyr, neu
sefydliadau academaidd a galwedigaethol.
Yn dibynnu ar faint y cyngor, gallai swydd swyddog hyfforddi fod
yn rhan o dîm canolog, yn rhan o adran bersonél/adnoddau dynol,
neu'n rhan o swyddogaeth hyfforddi adran, er enghraifft, o fewn yr
Adran Addysg. Mae rhai swyddi swyddogion hyfforddi wedi eu nodi fel
rhai arbenigol, e.e. datblygu rheolwyr. Beth bynnag yw'r rôl, mae'n
debyg y bydd peth gwaith cydlynu ar weithgareddau hyfforddi ar
lefel gorfforaethol, neu gan swyddog uwch. Ar hyn o bryd, mae
tua 8,000 o swyddogion hyfforddi wedi eu cyflogi yn y DU o fewn
llywodraeth leol. Fe'i ceir mewn cynghorau o bob math.
Amgylchedd Gwaith
Mae'r gwaith yn cael ei wneud mewn swyddfa fel arfer. Bydd rhai
swyddi arbenigol wedi eu lleoli mewn un ardal ond gan weithio ar
draws pob rhan o'r awdurdod, e.e. swyddog hyfforddi iechyd a
diogelwch. Efallai y bydd rhai swyddi wedi eu lleoli'n barhaol mewn
canolfan hyfforddi, lle bydd digwyddiadau hyfforddi gwahanol yn
cael eu cynnal bob dydd.
Gweithgareddau Dyddiol
Mae'r gwaith yn amrywiol. Er enghraifft, gallai olygu siarad gyda
rheolwr llinell adran er mwyn egluro sut y mae rhaglen hyfforddi'r
awdurdod wedi ei chynllunio, egluro sut mae angen cwblhau'r gwaith
papur cyn ac ar ôl y cwrs, ymgynghori gyda darparwyr allanol, neu
baratoi ar gyfer neu gynnal cwrs hyfforddi. Mae cryn dipyn o waith
gweinyddol i'w wneud hefyd. Mae gan swyddogion hyfforddi
cyffredinol gyfrifoldebau amrywiol. Efallai y bydd ganddynt
gyfrifoldeb dros gasglu deunyddiau ar gyfer digwyddiad hyfforddi,
sicrhau bod y rhai sy'n mynychu wedi cael digon o rybudd am y
lleoliad, arlwyo, amseroedd a dyddiadau ayyb. Efallai y bydd
ganddynt gyfrifoldeb hefyd dros gyflwyno amrediad o raglenni a
digwyddiadau a bydd angen iddyn nhw gynllunio a chynnal naill ai
ddigwyddiadau unigol neu gyfres o ddigwyddiadau.
Ni fydd rhai yn ymwneud a chynnal digwyddiadau ond yn hyfforddi
ac yn asesu unigolion neu grwpiau bychain o staff ar raglenni mewn
colegau neu hyfforddiant yn y gweithle. Bydd swyddi uwch yn gofyn
i'r swyddog hyfforddi weithio'n agos gyda rheolwyr llinell i helpu
i ddynodi anghenion hyfforddi a helpu i dargedu adnoddau'n
effeithiol fel y gellir cysylltu'r hyfforddiant gyda'r amcanion
busnes a gweledigaeth y cyngor. Bydd y swyddi hyn yn rheoli staff
eraill hefyd a bydd ganddynt gyfrifoldebau cyllidebol. Mae
swyddogion hyfforddi arbenigol yn canolbwyntio ar un maes penodol,
e.e. iechyd diogelwch. Ar lefelau is, mae'r swyddi hyn yn cefnogi
swyddog uwch neu arbenigol. Ar lefelau uwch, gallai deilydd y swydd
gael mwy o effaith ar draws y cyngor drwy gynnig hyfforddiant
arbenigol a chyngor i bob adran. Mae swyddogion hyfforddi datblygu
rheolwyr yn dylunio ac yn cyflwyno rhaglenni hyfforddi gyda'r
bwriad o wella sgiliau rheolwyr wrth weithredu polisïau ac arferion
corfforaethol. Maen nhw'n cynnig cyngor hefyd ynglŷn â datblygu'r
cynllun hyfforddi corfforaethol.
Sgiliau a Diddordebau
Mae angen i swyddogion hyfforddi gael sgiliau cyfathrebu cryf - yn
llafar ac yn ysgrifenedig. Mae angen hefyd iddynt feddu ar y gallu
i ymwneud a phob math o bobl a thrafod gyda rheolwyr llinell,
ymgynghorwyr, darparwyr hyfforddiant a gweithwyr. Mae ymrwymiad i
hyfforddiant a datblygu yn hanfodol.
Gofynion Mynediad
Nid oes cymwysterau lefel mynediad penodol ar gyfer swyddi
swyddogion hyfforddi. Efallai y bydd rhai awdurdodau yn gofyn am
S/NVQ (lefel 3) mewn Hyfforddi a Datblygu neu dystiolaeth o
gymhwyster tebyg a chymhwyster hyfforddi perthnasol h.y. ILM Lefel
5. Mewn sawl achos, bydd swyddogion hyfforddi wedi llwyddo neu yn
astudio drwy amrywiol ffyrdd ar gyfer cynllun cymhwyso proffesiynol
y Sefydliad Datblygu Personél.
Rhagolygon a chyfleoedd i'r dyfodol
Mae cyfleoedd am ddyrchafiad i swydd uwch swyddog hyfforddi a
rheolwr hyfforddi yn bodoli. Er mwyn cael dyrchafiad, efallai y
bydd angen i swyddogion symud o un awdurdod i'r llall. Mae pob
awdurdod yn cyflogi swyddogion hyfforddi ond mae'r mwyafrif i'w
cael yn yr awdurdodau mwyaf lle mae mwy o gyfle i fynd ymlaen mewn
gyrfa.
Gwybodaeth a Gwasanaethau Pellach
European Network of Training Organisations for Local &
Regional Authorities www.ento.org/portal
Hyfforddi a Mentora Ewropeaidd www.emccouncil.org
Rheoli Sector Cyhoeddus Cymru http://wales.gov.uk/psmwsubsite/psmw
Rhwydwaith Coleg Agored Cenedlaethol (Agored Cymru) www.agored.org.uk
Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth www.i-l-m.com
Sefydliad Rheolwyr Siartredig www.managers.org.uk
Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu www.cipd.co.uk
Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich
ysgol.