Swyddog datblygu cymunedol
Cyflwyniad
Mae Swyddog Datblygu Cymunedol yn cefnogi rhaglenni sy'n anelu at
leihau tlodi a helpu i wella bywydau pobl sy'n byw mewn ardaloedd
difreintiedig. Y nod yw cynnwys cymunedau yn y gwaith o
chwilio am atebion i'r problemau y maent yn eu hwynebu mewn
partneriaeth â chyrff statudol a gwirfoddol. Bydd y Swyddog
Datblygu Cymunedol yn hyrwyddo'r rhaglen yn lleol, rhanbarthol a
chenedlaethol drwy ymgysylltu'n strategol â darparwyr gwasanaeth
allweddol a chyrff rhanbarthol a chenedlaethol eraill. Mae'r
swydd yn adnabod ymarfer da o fewn yr awdurdod lleol yn ogystal ag
yn rhanbarthol a chenedlaethol, gan sicrhau cyfnewid gwybodaeth ac
ymarfer da, adnabod cyfleoedd cyllido a gweithredu cynlluniau ar
draws ardal yr awdurdod lleol yn ogystal â rhai rhanbarthol.
Mae'n bosibl y bydd yna gyfrifoldebau rheoli staff yn ogystal â
rheoli cyllidebau.
Amgylchedd Gwaith
Mae'r gwaith yn cynnwys elfen o weinyddu wrth ddesg ond caiff
mwyafrif yr amser ei dreulio'n gweithio yn y maes neu mewn
canolfannau cymunedol o fewn yr ardal ddaearyddol sy'n cael ei
chefnogi.
Gweithgareddau Dyddiol
Gall y dyletswyddau gynnwys:
- datblygu a chynnal cysylltiadau gyda phartneriaid strategol o
fewn pob sector er mwyn sicrhau bod yr holl gynlluniau'n cyd-fynd a
chyd-blethu â blaenoriaethau'r rhaglen;
- sicrhau bod rhanddeiliaid allweddol a darparwyr gwasanaeth yn
cael eu cynnwys yn effeithiol yn y gwaith o weithredu'r
rhaglen;
- adnabod a meithrin cynlluniau rhanbarthol i fynd i'r afael ag
anghenion ar draws ffiniau clwstwr a bwrdeistref;
- adnabod ac ymgeisio am gyllid i weithredu cynlluniau ar draws y
fwrdeistref yn ogystal â rhai rhanbarthol.
Sgiliau a Diddordebau
Bydd y canlynol gan y Swyddog Datblygu Cymunedol:
- profiad o weithio ym maes datblygu cymunedol;
- gwybodaeth am brosesau Atebolrwydd yn Seiliedig ar Ganlyniadau
(RBA);
- dealltwriaeth o ddeddfwriaeth a pholisi cyfredol mewn perthynas
ag allgau cymdeithasol a thlodi;
- dealltwriaeth o ac ymrwymiad i swyddogaeth llywodraeth leol a
gwaith datblygu cymunedol;
- dealltwriaeth o sut mae allgau cymdeithasol yn effeithio ar
fywydau pobl;
- gallu i gyfathrebu'n hawdd ac effeithiol gydag amrywiaeth eang
o bobl a sefydliadau;
- gallu i gynhyrchu deunyddiau ac adroddiadau ysgrifenedig o
safon uchel;
- sgiliau rhyngbersonol cryf;
- gallu i sefydlu perthnasau cynhyrchiol gydag aelodau etholedig,
uwch swyddogion y cyngor, sefydliadau allanol a thrigolion
lleol;
- gallu i dderbyn a deall gwybodaeth newydd yn sydyn;
- gallu i weithio ar eich liwt eich hun neu fel rhan o dîm a
chynnig arweiniad a chyfarwyddyd i eraill;
- gallu i ddod o hyd i atebion i faterion sensitif a
chymhleth;
- gallu i weithio dan bwysau ac o fewn terfynnau amser llym;
- cryf eich cymhelliad, gyda gallu i ddangos egni a gweledigaeth
er mwyn ysgogi eraill;
- dangos dyhead i wneud cyfraniad cadarnhaol tuag at wella
ansawdd byw pobl mewn cymunedau difreintiedig;
- deall pwysigrwydd ac egwyddorion cyfranogiad cymunedol.
Gofynion Mynediad
Mae Swyddogion Datblygu Cymunedol fel arfer yn raddedigion.
Mae nifer o brifysgolion y DU yn cynnig cyrsiau gradd neu ôl-radd
perthnasol ym maes datblygu cymunedol neu bynciau perthynol.
Cyfleoedd a Rhagolygon ar gyfer y Dyfodol
Efallai y byddwch yn gweithio i lywodraeth leol neu ganolog neu
sefydliad nid-er-elw ym maes datblygu cymunedol.
Gwasanaethau a Gwybodaeth Bellach
Community Development Foundation www.cdf.org.uk
Federation for Community Development Learning www.fcdl.org
Gallwch gael gwybodaeth bellach ar y maes gwaith hwn drwy Gyrfa
Cymru (www.gyrfacymru.com)
neu yn eich llyfrgell leol, y swyddfa yrfaoedd neu lyfrgell
yrfaoedd eich ysgol.
Related Links