Cynghorydd cwricwlwm/datblygiad proffesiynol
      
     
      
      
        Cyflwyniad
 Mae'r swydd bwysig hon yn rhan o'r gwasanaeth cynghori athrawon
sydd â'r nod o wella perfformiad ysgolion drwy godi safonau ac
effeithiolrwydd.  Drwy reoli gwaith y cynghorwyr, mae'r
cynghorydd datblygiad yn sicrhau cynllunio gweithredol a
darpariaeth cwricwlwm o ansawdd uchel.  Yn gryno, maent yn
helpu i adeiladu system gydlynol o ddatblygiad proffesiynol parhaus
(DPP).
Mae cynghorwyr yn atebol i'r Swyddog Gweithredol, Datblygiad
Proffesiynol, ac yn gweithio ym mhob math o awdurdod, ac eithrio
cynghorau dosbarth.
Amgylchedd Gwaith
 Fel arfer mae cynghorwyr yn gweithio o ganolfannau datblygu
proffesiynol ond, yn anochel, yn treulio llawer o amser yn teithio
i ysgolion a chanolfannau hyfforddi yn yr ardal leol.  Byddant
yn treulio 50% o'u hamser mewn ysgolion yn cyflwyno rhaglenni
hyfforddi neu'n cyflawni gweithgareddau ymgynghorol.  Maent
hefyd yn mynychu cynadleddau cenedlaethol a briffiau
llywodraethol.
Gweithgareddau Dyddiol
 Mae'r prif gyfrifoldebau a dyletswyddau fel a ganlyn:
- rheoli a chefnogi timau cynghori athrawon o ddydd i ddydd
 
- cydlynu a darparu rhaglenni sefydlu a DPP i gynghorwyr
 
- gweithio gyda chydweithwyr i ddylunio deunyddiau mewn perthynas
ag arferion a meysydd gwaith perthnasol
 
- cydlynu ymchwil a blaenoriaethau datblygu'r timau cynghori, gan
sicrhau bod y deunyddiau a gynhyrchir yn arwain at arferion da
 
- goruchwylio'r swyddog cyswllt (ymgynghorydd datblygu staff) ar
y cyd â'r swyddog proffesiynol, gan gynnwys dyrannu cydweithwyr i
ysgolion a sicrhau y darperir gwasanaethau
 
- llunio rhaglenni hyfforddi ar y cyd â'r swyddog proffesiynol ac
arweinwyr tîm yn unol ag anghenion cydnabyddedig, ynghyd â
defnyddio arbenigedd asiantaethau allanol
 
- cyfathrebu â swyddogion timau safonau mewn ysgolion sy'n peri
pryder
 
- cynnal cysylltiadau rhwng yr awdurdod lleol ac asiantaethau i
sicrhau rhaglenni cydlynol mewn perthynas â gwaith cynradd ac
uwchradd â ffocws arbennig
 
- rheoli gweithdrefnau sicrhau ansawdd o fewn thimau cynghori
athrawon.
 
Sgiliau a Diddordebau
 Mae'n hanfodol eich bod chi'n:
- gallu rheoli tîm
 
- dangos ymrwymiad personol i gyfle cyfartal
 
- meddu ar ddealltwriaeth eang o faterion cyfredol sy'n wynebu
awdurdodau lleol, cymunedau lleol a'r gwasanaethau addysg
 
- gallu cyfathrebu'n effeithiol
 
- meddu ar ymagwedd greadigol ac effeithiol at ddatrys
problemau
 
- meddu ar brofiad o baratoi a chyflwyno adroddiadau
 
- gallu sicrhau bod systemau ar waith i gofnodi gwaith tîm ac
adrodd arno
 
- ymwybodol o faterion sy'n ymwneud ag effeithiolrwydd
ysgol 
 
- ymwybodol o sut i ddatblygu a chynnal gwasanaeth cymorth
cwricwlwm a datblygiad proffesiynol a ddirprwywyd i ysgolion.
 
Gofynion Mynediad
 Dylech gael:
- cymhwyster addysgu a chymhwyster proffesiynol
terfynol 
 
- profiad addysgu sylweddol ar lefel uwch mewn ysgolion
 
- cymhwyster ôl-raddedig a/neu brofiad uniongyrchol sylweddol
mewn addysg ymarferol  
 
- tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
 
- dealltwriaeth o raglenni gwella ysgolion, gan gynnwys
gwybodaeth am fecanweithiau pennu targedau
 
- profiad rheoli sylweddol mewn ysgol, coleg a/neu adran addysg
AALl
 
- profiad sylweddol o annog newid drwy ddatblygu, gweithredu a
gwerthuso mentrau pwysig.
 
Cyfleoedd yn y dyfodol
 Ceir cyfle i weithio ar sawl lefel weithredol yn y gwasanaeth
addysg, yn y maes cynghori a rheoli.  Y brif swydd yw'r
Cyfarwyddwr Addysg.
 Ceir hefyd gyfleoedd mewn prifysgolion a cholegau addysg, ac yn y
sector preifat.
Rhagor o Wybodaeth a Gwasanaethau
 Yr Adran Addysg a Sgiliau www.dfes.gov.uk
 Swyddi addysg www.eteach.com
 Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru www.gtcw.org.uk
 Graduate Teacher Training Registry www.gttr.ac.uk
 Hyfforddiant Athrawon ac Addysg yng Nghymru www.teachertrainingcymru.org
Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/) y
llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich
ysgol.
       
      
          Related Links