Swyddog hawliau lles

Cyflwyniad
Nid dim ond trwy fara y gall pobl fyw, er bod angen peth bara ar bawb.  A'r unig obaith i rai pobl nad oes gyda nhw ddigon o arian i gael dau ben llinyn ynghyd, sydd mewn carfan fregus neu'n wynebu dyledion enfawr yw budd-daliadau gwladol.  Ar un adeg, wyrcws fyddai pen eu taith ond mae budd-daliadau i bobl anghenus bellach.  Mae swyddogion hawliau lles ym mhob math o awdurdodau lleol.  Maen nhw'n cynghori ac yn hysbysu pobl am hawl i dderbyn budd-daliadau, lwfansau a grantiau.  Mae swyddi y tu allan i faes llywodraeth leol, hefyd.

Amgylchiadau'r gwaith
Mewn swyddfa y byddwch chi'n gweithio er bod rhaid teithio i gartrefi pobl, tribiwnlysoedd a chyfarfodydd yn ôl yr angen os yw gwaith estyn braich ymhlith eich dyletswyddau.  Weithiau, gallai'r tywydd amharu ar y teithio.  At hynny, gallai fod anghydfod pan fo pobl o'r farn nad ydyn nhw'n derbyn popeth yn ôl eu hawliau.  Mae'n bosibl y bydd rhai hawlwyr yn byw mewn lleoedd annymunol, hefyd.  37 awr yw'r wythnos safonol heb angen shifftiau er y gallai fod sesiynau cynghori gyda'r nos neu ar ddydd Sadwrn.  Mae oriau hyblyg a rhan-amser ar gael mewn rhai swyddi.

Gweithgareddau beunyddiol
Prif amcan rôl swyddog hawliau lles yw helpu pobl i dderbyn cymaint o incwm ag y bo modd a'u cynghori nhw am ymdopi â dyledion ac anawsterau ariannol.  Gallai fod problemau o ran budd-dal tai, lwfans byw i'r anabl, cymorth i rieni sengl sy'n hawlio budd-dal plant, treth y cyngor, budd-dal diweithdra, tâl salwch, cymorth talu rhent, budd-dal profedigaeth, ceisiadau iawndal am anafiadau diwydiannol ac ati.  Gallai fod angen trafod eithriadau rhag rhai taliadau (megis rhagnodion), tocynnau mantais, gwasanaethau sydd ar gael yn rhad ac am ddim neu'n rhatach a chyfarpar, cymhorthion a chyfleusterau sy'n rhad ac am ddim.  Rhaid cynghori pobl, esbonio rheoliadau, awgrymu camau, eu helpu i lenwi ffurflenni ac ysgrifennu llythyrau, neu ysgrifennu a ffonio ar eu rhan.  Dyma'r dyletswyddau penodol:

  • cynrychioli hawlwyr gerbron tribiwnlysoedd neu gyrff cyffelyb;
  • helpu i weinyddu'r ganolfan (a allai fod yn asiantaeth nad yw'n perthyn i lywodraeth leol);
  • cynghori a chynorthwyo asiantaethau statudol a gwirfoddol megis cymdeithasau cymunedol, Adran Gwaith a Phensiynau San Steffan, Cyngor ar Bopeth ac ati;
  • paratoi a chyhoeddi gwybodaeth am hawliau lles.

Mae'r swyddogion yn ymwneud ag addysg a hyfforddiant fel a ganlyn, hefyd:

  • cynnal rhaglen hyfforddi am hawliau lles ac annog pobl i sefydlu grwpiau hunangymorth;
  • goruchwylio myfyrwyr a phrentisiaid a rhoi cyfarwyddyd proffesiynol parhaus iddyn nhw;
  • cymryd rhan mewn prosiectau arbennig ar gyfer defnyddwyr penodol.

Bydd tipyn o annibyniaeth wrth drefnu gorchwylion beunyddiol, ond mae'n bwysig gweithio fel tîm.  Yn ystod y dydd, byddwch chi'n cwrdd â gweithwyr cymdeithasol, swyddogion cyfreithiol, staff asiantaethau statudol a gwirfoddol, cynghorwyr, clientiaid a'r cyhoedd.

Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:

  • gallu gweinyddol;
  • gallu trin a thrafod symiau;
  • gallu cyd-dynnu â phobl o bob lliw a llun;
  • deall trefn y budd-daliadau a'r deddfau sy'n berthnasol iddi;
  • medrau cyfathrebu da - ar lafar ac ar bapur fel ei gilydd;
  • natur drefnus a dadansoddol, a'r gallu i drin a thrafod materion cymhleth;
  • gallu ymdopi ag anghydfod a thrin a thrafod phobl sydd o dan straen yn wrthrychol;
  • medrau trafod telerau;
  • deall effeithiau tlodi ac anffafrio ar bobl a sut y gallai hynny effeithio ar eu disgwyliadau;
  • gallu defnyddio technoleg gwybodaeth.

Meini prawf derbyn
Does dim gofynion addysgol na hyfforddiant penodol ar gyfer yr yrfa hon.  Gallai Lefelau 3 a 4 Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol 'Cynghorion a Chyfarwyddyd' fod yn ddefnyddiol, yn ogystal â phrofiad o waith gwirfoddol yn y gymuned, ymhlith yr ifainc neu'n gwnsler.  Byddai gradd yn y gwyddorau cymdeithasol neu'r gyfraith o gymorth mawr, fodd bynnag.  Gallai fod angen diploma neu radd ym maes gwaith cymdeithasol ar gyfer rhai swyddi yn yr awdurdodau lleol.

Ni waith pa gymwysterau ffurfiol sydd gyda chi, bydd ysgol profiad a gwybodaeth am waith y cynghorau leol a gwasanaethau cyhoeddus eraill yn asedion gwerthfawr i oedolion.  Dim ond hyn a hyn o swyddi amser llawn sydd ar gael, ond mae digon o gyfleoedd i ennill eich plwyf trwy ffyrdd anffurfiol ar y dechrau.  Mae llawer o swyddogion hawliau lles yn wirfoddolwyr sy'n gweithio heb gyflog i asiantaethau allanol a fydd yn eu hyfforddi yn y gwaith ac yn eu helpu i astudio ar gyfer cymwysterau i'w paratoi ar gyfer swydd amser llawn mewn awdurdod lleol.  Mae Cymdeithas Swyddfeydd Cynghori'r Dinasyddion, Shelter a Chylch Gweithredu Tlodi Plant yn cynnig cyrsiau byrion.  Mae cyfleoedd mewn canolfannau sy'n cynghori pobl am faterion cyfreithiol, masnachol, tai a chymdogaethau, canolfannau i bobl ifanc a gwasanaethau hysbysu a chynghori pobl am faterion anableddau dros y ffôn.  Mae swyddogion hawliau lles gan lawer o'r elusennau mawr.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Rheolwr hawliau lles yw'r cam nesaf.  Does dim modd cael eich dyrchafu yn y swydd hon fel arfer er y gallai dyrchafiad fod ar gael yn y gwasanaethau cymdeithasol ehangach ar ôl ennill cymwysterau perthnasol.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Cyngor Gofal Cymru: www.ccwales.org.uk
Cylch Gweithredu Tlodi Plant: www.cpag.org.uk
Cylchgrawn Community Care: www.communitycare.co.uk
Gwirfoddolwyr Gwasanaeth Cymuned: www.csv.org.uk/socialhealthcare
Adran Gwaith a Phensiynau: www.gov.uk/government/organisations/department-for-work-pensions
Rhwydwaith DIAL: www.scope.org.uk/dial
Cyngor Galwedigaethau Iechyd a Gofal: www.hpc-uk.org
Sefydliad Swyddogion Lles: www.instituteofwelfare.co.uk
Cymdeithas Swyddfeydd Cynghori'r Dinasyddion: www.nacab.org.uk
Rightsnet www.rightsnet.org.uk
Shelter www.shelter.org.uk
Medrau Gofal: www.skillsforcare.org.uk

Efallai bod rhagor am hyn ar wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), yn llyfrgell eich bro neu yn swyddfa/llyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links