Cyflwyniad
Mae gofyn statudol i gynghorau roi cymorth a llety i rai carfanau
o bobl ddigartref. Diben swyddogion pobl ddigartref yw dod o
hyd i lety dros dro ar eu cyfer, llunio strategaethau osgoi
digartrefedd a rhoi cynghorion a gwybodaeth i deuluoedd sydd heb
gartref.
Amgylchiadau'r gwaith
Bydd swyddogion pobl ddigartref yn treulio peth amser yn teithio
eu bro i gyfweld pobl ddigartref sy'n byw mewn llety dros
dro. Fe fyddan nhw'n treulio gweddill yr wythnos yn gweithio
yn swyddfeydd y cyngor. 37 awr yw'r wythnos safonol, yn ôl
trefn amser hyblyg. Bydd angen gweithio gyda'r nos a thros y
Sul weithiau, a gallai fod angen gweithio tyrn ar ddyletswydd
gartref, y tu allan i oriau gwaith, hefyd.
Gweithgareddau beunyddiol
Mae swyddogion pobl ddigartref yn rhoi pobl ddigartref mewn llety
dros dro. Efallai bod rhai wedi'u troi allan o'u cartrefi am
fethu â thalu'r rhent, ymddwyn yn wael neu anghytuno â'r
landlord. Gallai eraill fod wedi cyrraedd yr ardal yn
ddiweddar ac yn chwilio am le i fyw ynddo. Mae swyddogion
pobl ddigartref yn ymwneud â nifer o orchwylion wrth geisio
cartrefu pobl:
- cael gwybod pam maen nhw heb gartref a - lle bo'n berthnasol -
pam gadawon nhw eu cartref blaenorol;
- trefnu llety dros dro - yn un o anheddau gwag y cyngor, mewn
hostel neu lety preifat megis gwesty gwely a brecwast;
- ceisio dod o hyd i gartref parhaol trwy bennu hawl pobl i fynnu
un yn ôl meini prawf adran materion tai'r cyngor;
- helpu pobl i gyflwyno cais am gartref.
Gall fod yn anodd dod o hyd i lety dros dro - yn arbennig o'r
math sy'n gweddu i'r teulu digartref. Rhaid bod yn dringar
wrth eu hannog i'w dderbyn neu'n gadarn wrth esbonio nad oes dewis
amgen. Gallai fod angen esbonio na fydd cartref parhaol ar
gael am beth amser i ddod hefyd am fod cynifer o deuluoedd ar restr
aros y cyngor. Mae'n bosibl y bydd gan rai pobl ddigartref
broblemau ynglŷn ag iechyd y meddwl, y ddiod gadarn neu
gyffuriau. O ganlyniad, gallai ymddygiad rhai fod yn heriol a
bydd angen cyfathrebu'n dringar â nhw. Pan fo gweithiwr
cymdeithasol, heddwas neu weithiwr gwirfoddol yn ffonio y tu allan
i oriau gwaith i ddweud bod rhywun newydd golli ei gartref, rhaid
trefnu llety dros dro yn ddiymdroi.
Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:
- medrau cyfathrebu rhagorol a'r gallu i weithio gyda phobl sydd
ar ben eu tennyn;
- y gallu i helpu pobl heb eu barnu nhw;
- amlygu cydymdeimlad ond bod yn deg, hefyd;
- y gallu i weithio o'ch pen a'ch pastwn eich hun;
- y gallu i ymdopi â phwysau.
Meini prawf derbyn
Gallai'r gofynion amrywio ond, yn aml, bydd profiad ym maes tai
neu ganolfan cynghori pobl ddigartref o fantais. Efallai y
bydd cyngor yn mynnu o leiaf bedair TGAU (A*-C). Dyma ofynion
eraill allai fod yn berthnasol:
- cymhwyster perthnasol ym maes tai, neu'n astudio ar ei
gyfer;
- ymwybyddiaeth o faterion digartrefedd a phrofiad o drin a
thrafod pobl ddigartref;
- profiad perthnasol o drefn y budd-daliadau megis Budd-dal
Tai;
- y gallu i baratoi adroddiadau, gweithio yn ôl amserlenni, cadw
gwybodaeth ystadegol a blaenoriaethu gwaith;
- y gallu i drin a thrafod cyfrifiaduron, medrau cyfathrebu a'r
gallu i fod yn gadarn lle bo angen;
- trwydded yrru.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Gallai fod cyfle i symud i rôl ehangach ym maes tai. Efallai
y bydd yn bosibl symud i feysydd eraill megis budd-daliadau, cyngor
am gyflogaeth neu reoli hosteli, hefyd.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Asset Skills: www.assetskills.org
Centrepoint: www.centrepoint.org.uk
Sefydliad Breiniol Tai: www.cih.org
Crisis www.crisis.org.uk
Homeless: www.homeless.org.uk
Llamau www.llamau.org.uk
Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd
eich ysgol.