Swyddog gwybodaeth gwasanaethau hamdden

Cyflwyniad
A chithau'n swyddog gwybodaeth yn adran gwasanaethau hamdden awdurdod lleol, eich rôl fyddai gofalu bod pobl - y wasg, y cyfryngau, y cyhoedd a gweithwyr eraill y cyngor - yn gwybod am waith yr adran ac yn ymateb yn gadarnhaol iddo.  Mewn rhai cynghorau, mae'r swydd yn ymwneud â deunyddiau marchnata ac mewn eraill mae'n canolbwyntio ar gysylltiadau â'r wasg a'r cyhoedd.  Mewn rhai, mae'n ymwneud â'r ddau.  Felly, gallai'ch swydd gynnwys y canlynol neu elfennau ohono:

  • cynnal ymchwil a llunio deunyddiau marchnata;
  • rhoi gwybodaeth dros y ffôn, trwy ffacs a thrwy'r we;
  • ateb ymholiadau'r cyfryngau, y cyhoedd, staff y cyngor neu gynghorwyr;
  • cyflwyno straeon i bapurau newydd, cylchgronau, teledu a'r radio;
  • meithrin perthynas dda â newyddiadurwyr fel y gallwch chi gysylltu â'r un iawn ar yr adeg iawn i gael y canlyniad gorau.

Gan fod y cyfryngau'n fwyfwy pwysig yn ein cymdeithas ni bellach, mae mwy a mwy o bwyslais ar adroddiadau'r wasg a gwybodaeth gyhoeddus.  Felly, mae adrannau hysbysu, marchnata a chyhoeddusrwydd ar gynnydd, hefyd.  Mewn rhai cynghorau, gelwir swyddogion gwybodaeth adrannau gwasanaethau hamdden yn 'swyddogion marchnata', 'swyddogion y wasg a chysylltiadau cyhoeddus' neu unrhyw gyfuniad o'r rheiny megis 'swyddog materion y wasg' neu 'swyddog cysylltiadau cyhoeddus'.

Amgylchiadau'r gwaith
Yn y swyddfa mae swyddogion gwybodaeth yn gweithio ond, lle mae'u gwaith nhw'n ymwneud â chysylltiadau cyhoeddus neu'r wasg, efallai y byddan nhw mynd allan i gwrdd â newyddiadurwyr yn ogystal â threulio amser yn yr achlysuron maen nhw'n eu hyrwyddo.  Ym myd llywodraeth leol, mae'r rhan fwyaf o swyddogion gwybodaeth yn gweithio yn ôl oriau wythnosol safonol (37 awr) er y gallai fod peth gwaith y tu allan i'r oriau hynny pan fo angen cadw at amserlen neu fynd i achlysur gyda'r nos neu dros y Sul.

Gweithgareddau beunyddiol
A chithau'n swyddog gwybodaeth, byddech chi'n rhan o dîm ar gyfer:

  • cyfleu gwybodaeth am wasanaethau'r adran a/neu ofalu bod yr adran yn hysbys ymhlith y cyhoedd - boed yn genedlaethol, yn lleol neu'r ddau - fel y bydd yr wybodaeth briodol ar gael i'r cyhoedd a'r cyfryngau;
  • gallai fod angen bod yn rhagweithredol:
    o casglu gwybodaeth am achlysuron, atyniadau a gwaith adran y gwasanaethau hamdden;
    • llunio datganiadau i'r wasg a/neu ddeunyddiau marchnata - gan gynnwys ffynonellau gwybodaeth aml eu cyfryngau, o bosibl;
    • llunio cylchlythyrau mewnol;
    • gofyn am sêl bendith cyn eu cyhoeddi;
    • eu hanfon at newyddiadurwyr a phobl eraill ar eich rhestr bostio;
    • ffonio newyddiadurwyr i weld a fydd stori o ddiddordeb iddyn nhw;
    • anfon gwybodaeth ddilynol;
    • trefnu sesiynau tynnu lluniau, cyfweliadau ac achlysuron lansio;
    • darllen papurau newydd a chylchgronau a chasglu pigion o'r wasg i ddangos ble mae'ch straeon wedi'u cyhoeddi;
  • neu'n adweithiol:
    • ymateb i geisiadau'r wasg, y cyhoedd a'r cyngor am wybodaeth;
    • gwirio ffeithiau ac ystadegau (ar gais cydweithwyr, er enghraifft).

Efallai y byddwch chi'n ymwneud â chynnal ymchwil i gytundebau newydd a ffonio papurau newydd, cylchgronau, sianeli teledu a radio i ddod o hyd i'r ddolen gyswllt fwyaf priodol a meithrin perthynas â nhw.  Yn ôl pob tebyg, bydd rhaid ichi weithio yn ôl amserlenni mewnol (yn yr adran, pan fo rhywbeth ar fin digwydd, er enghraifft) ac allanol pan fo deunydd ar fin cael ei gyhoeddi neu raglen ar fin cael ei darlledu.  Wrth drefnu achlysur, efallai y byddwch chi'n gyfrifol am ddod o hyd i fan addas a chadw lle ynddo yn ogystal â chael hyd i enwogion a gofalu bod lluniaeth ar gael.  Yn ystod yr achlysur, gallai fod rhaid ichi ofalu am y wasg, y ffotograffwyr a'r pwysigion.

Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:

  • manwl gywirdeb - dylai gwybodaeth fod yn gywir;
  • medrau cyfathrebu da ar lafar ac ar bapur fel ei gilydd - rhaid cael hanfod y stori a chyfleu'r ffeithiau'n eglur (wrth drin a thrafod y cyfryngau, rhaid ennyn diddordeb newyddiadurwr yn gyflym fel y bydd am ddefnyddio'ch stori chi);
  • gallu cydbwyso amryw orchwylion yr un pryd;
  • gallu gweithio o dan bwysau a bod yn fodlon cadw at amserlenni;
  • cymeriad rhadlon;
  • dyfalbarhad - i ofalu y bydd eich neges yn cael ei chyfleu.

Meini prawf derbyn
Mae amryw lwybrau at y swydd hon.  Gallai Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol 'Astudiaethau'r Cyfryngau' fod yn ddefnyddiol, yn ogystal â chymwysterau Cyngor Addysg Busnes a Thechnoleg megis diploma neu dystysgrif ym maes busnes a chyllid ynghyd â marchnata.  Mae prifysgolion yn cynnig nifer o gyrsiau gradd megis cysylltiadau cyhoeddus, marchnata neu astudiaethau'r cyfryngau.  Ar ben hynny, mae diplomâu i ôl-raddedigion a graddau meistr ym meysydd marchnata a chysylltiadau cyhoeddus.  Ar ôl eich penodi, gallwch chi astudio ar gyfer cymwysterau proffesiynol Sefydliad Addysg Cyfathrebu, Hysbysebu a Marchnata neu Sefydliad Breiniol Marchnata.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Mae nifer y swyddogion gwybodaeth yn amrywio'n sylweddol yn ôl pa mor fawr yw'r awdurdod lleol ac mae cymaint o amrywio ynglŷn ag enw'r swydd, hefyd.  Efallai y bydd modd cael eich dyrchafu'n rheolwr yn eich adran ac, yn y pen draw, cyrraedd swydd y cyfarwyddwr.  Gallech chi symud i awdurdod arall am ddyrchafiad, hefyd.  Mae swyddi cyffelyb y tu allan i fyd llywodraeth leol, mewn cwmnïau masnachol, er enghraifft.  Gallai rolau marchnata a hysbysebu fod o ddiddordeb, hefyd.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Sefydliad Breiniol Rheoli Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol: www.cimspa.co.uk/
Sefydliad Breiniol Marchnata: www.cim.co.uk
Sefydliad Addysg Cyfathrebu, Hysbysebu a Marchnata: www.camfoundation.com
Cymdeithas Diwydiant Ffitrwydd: www.fia.org.uk/
Sefydliad Rheoli Hamdden ac Amwynderau: www.infomat.net/infomat/rd_staffroom/rd1/database/ilam/index.asp
Lifetime Health & Fitness www.lifetimehf.co.uk
Cylchgrawn 'Recreation Management': www.recmanagement.com
SkillsActive www.skillsactive.com
Chwaraeon Cymru: www.sportwales.org.uk

Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links