Rheolwr gwerthu a marchnata, gwasanaethau hamdden

Rhagarweiniad
Os ydych yn rheolwr gwerthu a marchnata mewn adran Gwasanaethau Hamdden mewn Cyngor, rydych yn debygol o fod yn gyfrifol am hyrwyddo atyniadau hamdden fel y celfyddydau (theatrâu lleol er enghraifft), chwaraeon (fel canolfannau chwaraeon a hamdden) neu'r amgylchedd (parciau lleol neu atyniadau cefn gwlad a chanolfannau ymwelwyr, er enghraifft). Mae'n rôl bwysig mewn unrhyw Gyngor - eich gwaith chi yw sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn gwybod am yr atyniadau rydych yn eu rheoli - ac yn eu defnyddio.

Amgylchedd Gwaith
Mae'ch amgylchedd gwaith yn dibynnu ar y maes rydych yn canolbwyntio arno a'r cwmpas cyfrifoldeb sydd gennych yn y Cyngor rydych yn gweithio iddo. Pa faes bynnag yw'ch arbenigedd, rydych yn debygol o weithio oriau afreolaidd neu roi cymorth mewn digwyddiadau a gynhelir gyda'r nos neu ar y penwythnos.

Gweithgareddau o Ddydd i Ddydd
Mae tasgau bob dydd yn amrywio mewn swyddi penodol ond maent yn debygol o gynnwys cyfrifoldebau fel:

  • Marchnata;
  • llunio llyfrynnau neu daflenni sawl gwaith y flwyddyn sy'n disgrifio'r atyniad a'r hyn sy'n digwydd yno - sy'n cynnwys:
  • cyfarfodydd gyda chydweithwyr yn y ganolfan i ddysgu am gynlluniau yn y dyfodol;
  • ymgysylltu â phobl allanol fel arddangosfeydd neu adloniant teithiol;
  • rhoi testun, delwedd (fel ffotograff) a syniad bras o'r drefn i ddylunydd;
  • prawfddarllen y copi;
  • anfon y deunyddiau terfynol i'w hargraffu;
  • trefnu dosbarthu deunyddiau marchnata - gan gynnwys:
  • penderfynu ar radiws yr ardal rydych am i'r deunyddiau marchnata ei chwmpasu;
  • canfod lle y dylai gwybodaeth fod ar gael;
  • sicrhau bod cronfa ddata o ddefnyddwyr (a darpar ddefnyddwyr) yn cael ei chadw'n gyfredol;
  • trefnu dosbarthu deunyddiau;
  • sicrhau bod atyniadau'n cael eu marchnata'n fewnol, i weithwyr y Cyngor;
  • trefnu i ddeunyddiau marchnata fod ar gael os bydd eich arddangosfa neu'ch atyniad yn mynd ar daith;
  • rheoli staff marchnata, gan gynnwys hyfforddiant.

Byddai angen i chi ymdrin â chysylltiadau â'r wasg hefyd, a allai gynnwys:

  • llunio ac anfon datganiadau i'r wasg; 
  • meithrin cydberthynas dda â'r cyfryngau fel y gallwch alw arnynt pan fydd angen cyhoeddusrwydd arnoch; 
  • trefnu cipolygon ymlaen llaw ar gyfer y wasg neu ddigwyddiadau eraill, gan gynnwys ymweliadau gan enwogion; 
  • coladu gwybodaeth reoli ac ystadegau ar gyfer cyfranogiad cynulleidfaoedd ac i fesur effeithiolrwydd y wybodaeth farchnata.

Sgiliau a Diddordebau
Mae angen i chi feddu ar ddigonedd o stamina a brwdfrydedd gwirioneddol dros y maes rydych yn gysylltiedig ag ef. Mae'n hollbwysig eich bod yn ymrwymo i'r swydd - gallwch ymgolli yn y rôl hon os ydych yn ei mwynhau. Mae hyblygrwydd yn bwysig ynghyd â pharodrwydd i droi eich llaw at beth bynnag sydd angen ei wneud. Mae angen sgiliau cyfathrebu ardderchog arnoch - yn ysgrifenedig ac ar lafar - i gyfleu atyniadau'r lleoliadau rydych yn eu marchnata. Mae hyder o ran ymdrin ag amrywiaeth o bobl, gan gynnwys cydweithwyr, y wasg, y cyhoedd ac enwogion neu Bobl Bwysig Iawn, yn hanfodol.

Gofynion Mynediad
Nid oes un llwybr penodol i'r swydd hon. Er bod llawer o reolwyr gwerthu a marchnata'n raddedigion, mae profiad yn bwysig hefyd. Gallai cymwysterau GNVQ/GSVQ mewn astudiaethau'r cyfryngau neu astudiaethau busnes fod yn ddefnyddiol, yn yr un modd â chymwysterau BTEC/SQA - Diploma neu Dystysgrif mewn Busnes a Chyllid gyda dewis Marchnata, er enghraifft. Mae nifer o gyrsiau gradd mewn prifysgolion sy'n cynnwwys Gweinyddu Busnes neu'r Celfyddydau, marchnata, cysylltiadau cyhoeddus neu astudiaethau'r cyfryngau fel arbenigedd. Mae diplomâu ôl-raddedig a Graddau Meistr hefyd mewn Gweinyddu Busnes, Cysylltiadau Cyhoeddus a Marchnata. Ar ôl cael eich penodi, gallwch weithio tuag at gymwysterau proffesiynol y Sefydliad Addysg ar gyfer Cyfathrebu, Hysbysebu a Marchnata neu'r Sefydliad Marchnata Siartredig.

Posibiliadau a chyfleoedd yn y dyfodol
Mae nifer y rheolwyr gwerthu a marchnata yn amrywio yn ôl maint a lleoliad yr awdurdod lleol. Efallai y cewch ddyrchafiad yn yr adran. Mae'n bosibl symud i awdurdodau eraill hefyd o gael dyrchafiad. Mae swyddi gwerthu a marchnata mewn lleoliadau masnachol, y tu allan i lywodraeth leol. Efallai y bydd rolau mewn cysylltiadau cyhoeddus, cyhoeddusrwydd a hysbysebu o ddiddordeb hefyd.

Rhagor o Wybodaeth a Gwasanaethau
Y Sefydliad Addysg ar gyfer Cyfathrebu, Hysbysebu a Marchnata www.camfoundation.com
Y Sefydliad Cysylltiadau Cyhoeddus www.cipr.co.uk
Y Sefydliad Marchnata Siartredig www.cim.co.uk

Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu erthygl Sbotolau ar yrfaoedd yn y diwydiannau creadigol: https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-diwydiannau-creadigol/

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y maes gwaith hwn drwy Yrfa Cymru (www.gyrfacymru.com) neu yn eich llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links