Cynorthwy-ydd hamdden

Cyflwyniad
Mae cynghorau'n rhedeg canolfannau hamdden neu chwaraeon i'w defnyddio gan y gymuned leol.  Mae cynorthwywyr hamdden (a elwir weithiau yn gynorthwywyr y ganolfan) yn gweithio yn ardaloedd 'sych' y ganolfan - ac o bryd i'w gilydd yn ardal y pwll nofio, ond dim ond os oes ganddynt gymwysterau priodol.   Gallant hefyd weithio mewn cyfleusterau cymunedol eraill lle cynhelir gweithgareddau hamdden a dosbarthiadau chwaraeon. Bydd cynorthwywyr hamdden wedi'u contractio i'r Cyngor neu fel aelod o staff achlysurol. Fel aelod o staff achlysurol byddai angen i chi gyflenwi ar ran aelod o staff ar gontract tra ei fod i ffwrdd o'i ddyletswyddau arferol.

Amgylchedd Gwaith
Mae'r wythnos waith arferol yn 37 awr ar batrwm shifft penodol sy'n cynnwys diwrnodau, nosweithiau a phenwythnosau.  Gall y gwaith fod o dan do mewn neuaddau chwaraeon, stiwdios dawns, pyllau nofio ac Ystafelloedd Ffitrwydd, neu yn yr awyr agored os oes gan ganolfannau gyrtiau tennis, caeau chwarae, Ardaloedd Chwaraeon Amlddefnydd neu draciau beicio a ddefnyddir drwy gydol y flwyddyn gan y gymuned a chlybiau. 

Gweithgareddau Dyddiol
Mae dyletswyddau cynorthwywyr hamdden yn amrywio o ddydd i ddydd.  Mae rhai canolfannau'n cyflogi staff ar gyfer y dderbynfa ac i ateb y ffôn, trefnu archebion, llogi cyfarpar, fel racedi, a gwerthu tocynnau.  Mewn canolfannau eraill, mae cynorthwywyr hamdden yn gweithio yn y dderbynfa ac yn cyflawni dyletswyddau eraill am yn ail, megis goruchwylio'r pwll nofio neu hyfforddi mewn dosbarth ffitrwydd, cynnal gwers nofio, gosod ystafelloedd ar gyfer partïon plant neu gyfarfodydd, neu weithgareddau eraill. Byddant yn gwybod lle y byddant yn gweithio ymlaen llaw oherwydd bydd y rheolwr sydd ar ddyletswydd yn rhoi gwybod iddynt.

Ar ddechrau'r shifft byddant yn mynd i'r ardal a bennwyd ar eu cyfer ac yn ei pharatoi ar gyfer gweithgareddau'r sesiwn gyntaf. Gallai'r rhain fod yn chwaraeon fel badminton neu dennis bwrdd, gweithgareddau fel ymarfer cylch, chwaraeon tîm dan do, trampolîn neu gymnasteg 'tumble tots' i blant bach neu chwaraeon yn yr awyr agored.   Gall y gwaith fod yn gorfforol ac mae'n cynnwys gosod a symud offer.  Efallai y bydd angen iddynt baratoi ardal i'w defnyddio ar gyfer ffair grefftau neu gyfarfod cyhoeddus drwy osod byrddau a chadeiriau.  Maent yn goruchwylio'r ardal, yn esbonio'r defnydd o gyfleusterau ac yn sicrhau bod cwsmeriaid yn gwybod sut i'w defnyddio'n ddiogel. Efallai y bydd angen iddynt ymyrryd a dweud wrth rywun ei fod yn ymddwyn yn beryglus.  Ar ddiwedd y sesiwn, bydd angen datgymalu popeth a'i storio yn y man cywir.

Efallai y byddant yn cymryd tro i weithio mewn caffis a bariau, gan weini bwyd a diod a chynnal partïon pen-blwydd plant - gan drefnu gemau a goruchwylio yn ystod amser bwyd.  Mae eu dyletswyddau cyffredinol o amgylch y ganolfan yn cynnwys glanhau'r ystafelloedd newid, yr ardaloedd cyhoeddus a'r toiledau.  Gall fod angen i Gynorthwywyr Hamdden weithio yn yr ystafell ffitrwydd a fydd yn cynnwys cynnal sesiynau sefydlu i ddefnyddwyr newydd ar yr offer ffitrwydd, diweddaru rhaglenni cleientiaid a monitro'r amgylchedd cyffredinol.

Sgiliau a Diddordebau
Mae angen i gynorthwywyr hamdden fod â diddordeb ym mhob math o weithgareddau chwaraeon a ffitrwydd.  Rhaid iddynt fod yn ffit a meddu ar ddigon o stamina.  Rhaid iddynt fod yn hoff o weithio gyda phobl a gallu delio â nhw yn ddiplomyddol, ond bydd angen ymddwyn yn awdurdodol o bryd i'w gilydd.

Gofynion Mynediad
Nid oes unrhyw ofynion penodol. Mae gan lawer o'r gweithwyr gymwysterau uwch fel GNVQ/GSVQ a Thystysgrifau Cenedlaethol BTEC/Awdurdod Cymwysterau'r Alban (SQA) mewn pynciau perthnasol.  Gallai tystysgrif cymorth cyntaf fod o fantais.  Gallai prentisiaethau mewn Chwaraeon a Hamdden fod ar gael.  Rhoddir hyfforddiant mewn swydd, ac anogir staff i weithio tuag at gymhwyster cydnabyddedig fel y rheini a gynigir gan y Sefydliad Siartredig dros Reoli Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol.  Mae S/NVQ mewn Chwaraeon a Hamdden ar gael ar Lefelau 1 a 2; ac mewn Hyfforddiant a Darparu Gweithgareddau (i oedolion a phlant) a Gweithrediadau Cyfleusterau ar Lefel 2.

Mae gwiriadau'r Swyddfa Cofnodion Troseddol yn hanfodol ar gyfer holl staff canolfannau hamdden.
Mae Cymhwyster Achub Bywyd Cenedlaethol (NPLQ) yn hanfodol ar gyfer pob aelod o staff sy'n gweithio yn ardal y pwll nofio.
Mae cymhwyster codi a chario yn hanfodol ar gyfer pob aelod o staff sy'n gweithio mewn cyfleusterau hamdden.
Mae cymhwyster hyfforddwr campfa yn hanfodol ar gyfer staff sy'n gweithio mewn Ystafelloedd Ffitrwydd.

Cyfleoedd yn y Dyfodol
Mae hamdden yn faes cyflogaeth sy'n ehangu.  Mae canolfannau chwaraeon neu byllau nofio y mae'r cyngor yn berchen arnynt yn y rhan fwyaf o drefi.  Mae rhai cynorthwywyr hamdden yn gweithio at gymwysterau ffitrwydd ac yn symud i weithio mewn canolfannau neu gampfeydd ffitrwydd penodol, sydd yn aml yn y cyfleuster hamdden.  Neu gallent gymhwyso fel hyfforddwyr mewn chwaraeon unigol neu hyfforddwyr aerobeg, gan gymryd dosbarthiadau.  Gall cynorthwywyr hamdden sy'n barod i weithio at gymwysterau goruchwylio gael dyrchafiad i fod yn rheolwr ar ddyletswydd a rheolwr y ganolfan.

Rhagor o Wybodaeth a Gwasanaethau
Sefydliad Siartredig dros Reoli Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol www.cimspa.co.uk
SkillsActive www.skillsactive.com

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y maes gwaith hwn drwy Yrfa Cymru (www.gyrfacymru.com) neu yn eich llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links