Swyddog datblygu gwasanaethau hamdden

Cyflwyniad
Mae Swyddogion Datblygu Gwasanaethau Hamdden yn rhan o'r tîm rheoli sy'n gofalu am wasanaethau hamdden a gynigir gan y cyngor.  Maent fel arfer wedi'u lleoli mewn maes penodol o'r gwasanaethau hamdden, er enghraifft, parciau a chefn gwlad, amgueddfeydd ac orielau, llyfrgelloedd a gwasanaethau gwybodaeth ac ati.  Mae Swyddogion Datblygu Gwasanaethau Hamdden yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill i ddylunio a datblygu ffyrdd o wneud gwasanaethau hamdden y cyngor yn fwy effeithiol ac effeithlon ac yn fwy poblogaidd gyda'r cyhoedd.

Amgylchedd Gwaith
Mae Swyddogion Datblygu Gwasanaethau Hamdden yn gweithio yn swyddfeydd y cyngor, ond yn aml mae'n rhaid iddynt ymweld ag amrywiaeth o safleoedd hamdden.  Maent fel arfer yn gweithio wythnos 37 awr safonol, gyda rhywfaint o waith gyda'r nos ac ar benwythnosau.

Gweithgareddau Dyddiol
Mae dyletswyddau Swyddog Datblygu Gwasanaethau Hamdden yn amrywio yn unol â'i faes gwaith penodol yn y gwasanaethau hamdden.  Fodd bynnag, gallai fod angen iddo gyflawni unrhyw rai o'r tasgau canlynol:

  • ymgynghori ag adrannau eraill, aelodau'r cyngor, sefydliadau lleol, grwpiau cymunedol a staff gwasanaethau hamdden a gwrando ar eu hawgrymiadau ar gyfer gwelliannau i wasanaethau hamdden cyfredol a datblygiadau ar gyfer rhai newydd;
  • ystyried ffyrdd o annog mwy o bobl i ddefnyddio gwasanaethau hamdden, er enghraifft, ystyried datblygu teithiau natur mewn parciau ac yng nghefn gwlad;
  • ysgrifennu adroddiadau yn seiliedig ar ymgynghoriadau a rhannu a chyflwyno gwybodaeth a syniadau i reolwyr a chynghorwyr;
  • rheoli projectau hamdden newydd i sicrhau eu bod yn rhedeg yn ddidrafferth, gan gynnwys cysylltu ag ymgynghorwyr, contractwyr a chydweithwyr yn y cyngor;
  • gwerthuso gwasanaethau hamdden yn barhaus, gan roi sylw penodol i gost-effeithiolrwydd;
  • paratoi amcanbrisiau ar gyfer cyllidebau a gwariant monitro;
  • cynnal gweithgareddau marchnata i hyrwyddo gwasanaethau hamdden;
  • ymateb i gwynion cwsmeriaid;
  • efallai y bydd yn rheoli tîm bach o staff ym maes datblygu gwasanaethau hamdden.

Sgiliau a Galluoedd
Mae angen i Swyddogion Datblygu Gwasanaethau Hamdden:

  • fod yn llawn dychymyg ac arloesol;
  • meddu ar y gallu i annog pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau a phrojectau;
  • meddu ar sgiliau cyfathrebu yn ysgrifenedig ac ar lafar;
  • gallu trefnu a blaenoriaethu baich gwaith;
  • gweithio gyda phobl a chymunedau i ddarparu gwasanaethau;
  • meddu ar sgiliau trafod;
  • meddu ar sgiliau rhifedd.

Gofynion Mynediad
Gallai gradd mewn pwnc perthnasol fel rheoli hamdden neu ddatblygu chwaraeon fod yn angenrheidiol.  Fodd bynnag, yn aml mae profiad perthnasol blaenorol mewn gwasanaethau hamdden/rôl reoli yn bwysicach.  Gallai cymhwyster proffesiynol perthnasol ac aelodaeth o'r Sefydliad Siartredig dros Reoli Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol (CIMPSA) hefyd fod o fudd.  Gall fod yn bosibl gweithio tuag at N/SVQ perthnasol yn y gwaith.

Cyfleoedd yn y Dyfodol
Gallai fod cyfleoedd i symud i lefel reoli uwch, yn y gwasanaethau hamdden neu fan arall yn y cyngor, er enghraifft, llyfrgelloedd neu barciau a chefn gwlad.  Gall hefyd fod yn bosibl symud i rolau datblygu polisi a rheoli perfformiad eraill yng nghanolfan gorfforaethol y cyngor.

Rhagor o Wybodaeth a Gwasanaethau
Sefydliad Siartredig dros Reoli Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol www.cimspa.co.uk
SkillsActive www.skillsactive.com

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y maes gwaith hwn drwy Yrfa Cymru (www.gyrfacymru.com) neu yn eich llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links