Swyddog gwasanaethau democrataidd

Cyflwyniad
Heddiw, mae'r awdurdodau lleol yn benderfynol o ddarparu math o wasanaeth y mae unigolion yn teimlo y maent yn ei haeddu fel trethdalwyr y cyngor.  Er mwyn cyflawni hyn, mae'r cynghorau yn annog mwy o ymgysylltiad a chyfranogaeth y cyhoedd.   Mae Swyddog Gwasanaethau Democrataidd yng nghanol yr ymgyrch hwn ac mae'r swydd yn un sydd ym mhob math o awdurdodau.  Pan na fydd swydd benodol, bydd swyddogaethau tebyg yn cael eu cyflawni er mwyn ceisio sicrhau fod y cyngor yn rhoi gwerth am arian i'r cyhoedd.

Amgylchedd y Gwaith
Yn bennaf bydd mewn swyddfa, ond fel aelod o bwyllgor, bydd yn rhaid mynychu cyfarfodydd mewnol ac allanol.  Mae disgwyl i'r swyddogion fynychu cyfarfodydd cyhoeddus megis fforymau canol y dref, cyfarfodydd bwrdd partneriaid a phwyllgorau eraill.  Mae'r Awdurdodau Lleol yn ystyried y swydd yn debyg i swyddog pwyllgorau ond gyda mwy o ddyletswyddau a dylanwad.

Gweithgareddau Dyddiol
Prif bwrpas y swydd yw darparu cymorth gweinyddol a rheoli i Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd sydd â'r pŵer i sicrhau fod y cyngor yn gweithredu mewn dull agored ac atebol.  Ystyr hyn yw cynghori pwyllgorau'r cyngor a gweithgorau am weithdrefnau cywir, deddfwriaeth berthnasol a dehongli rheolau sefydlog - beth y gellir ei wneud a'r hyn na ellir ei wneud - gan eu hysbysu am y penderfyniadau a wnaed a'r gweithredoedd i'w dilyn.  Mae cryn dipyn o waith pwyllgorau a thrafodaethau 'gwleidyddol' gyda chyfrifoldeb i drefnu cyfarfodydd, addysgu swyddogion, aelodau a chyrff allanol beth y mae'n ei olygu i redeg system llywodraeth leol ddemocrataidd.  Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda rheolwyr canol trefi sydd â chyswllt agos gyda'r cyhoedd ac yn delio â'r cwynion yn uniongyrchol.  Bydd swyddogion yn gweinyddu cyfarfodydd cyrff lled-gyfreithiol megis rhai sy'n ystyried apeliadau mynediad at addysg - lle bo pryderon rhieni ynglŷn â dyraniad ysgolion eu plant neu ysgolion y mae eu plant wedi'u gwahardd ohonynt yn cael eu hystyried.   Mae Swyddog Gwasanaethau Democrataidd yn rhoi cyngor i'r cyrff hyn yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, gweithdrefnau mewnol a chyfiawnder naturiol.  Yn hyn, mae dyletswyddau penodol eraill, sy'n cynnwys:

  • datblygu dealltwriaeth fanwl o ddeddf gweinyddol llywodraeth leol; 
  • paratoi adroddiadau o ganlyniadau pwyllgorau ar gyfer y Prif Weithredwr; 
  • ymchwilio a pharatoi ymatebion i'w harwyddo gan Arweinydd y Cyngor, y maer ac eraill; 
  • annog y cyhoedd a'r budd-ddeiliaid i ymgysylltu yn fforymau canol trefi; 
  • monitro dealltwriaeth o weithrediad democrataidd yn y cyngor; 
  • datblygu dulliau newydd o gynnwys y gymuned; 
  • cymryd rhan mewn mentrau sy'n gysylltiedig â rheoleiddio ac effeithlonrwydd perfformiad.

Sgiliau a Diddordeb
Er mwyn llwyddo yn y swydd bydd yn rhaid i chi:

  • ddangos brwdfrydedd at ymgysylltiad cyhoeddus wrth wneud penderfyniadau lleol; 
  • gweithio'n dda gyda phroses pwyllgorau ffurfiol a gyda grwpiau partner ehangach gan gynnwys y cyhoedd a budd-ddeiliaid eraill; 
  • gweithio mewn tîm; 
  • sefydlu perthnasau gwaith effeithiol gydag amrywiaeth o unigolion a grwpiau; 
  • cyfathrebu yn effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig; 
  • ysbrydoli hyder; 
  • dadansoddi a gwerthuso'n dda, gan lunio casgliadau rhesymol o wybodaeth gymhleth; 
  • defnyddio technoleg newydd; 
  • arddangos hydwythder a pharhau i fod yn effeithiol mewn amodau gwaith anodd; 
  • parchu a hyrwyddo amrywiaeth; 
  • arddangos ymwybyddiaeth wleidyddol; 
  • arddangos sgiliau gweinyddu ardderchog; 
  • gweithio gyda systemau prosesu geiriau ac e-bost.

Gofynion
Isafswm o 2 Lefel A (Gradd A-C) yn hanfodol.
Profiad mewn llywodraeth leol - wrth ddrafftio llythyrau, adroddiadau, gweinyddu pwyllgorau, gweithgorau - yn hanfodol.  Bydd disgwyl i chi fod yn weinyddwr cyfarfodydd da.  Efallai y bydd gennych gymhwyster ICSA neu gyffelyb.
Mae hyfforddiant cymwysterau a heb gymwysterau yn cael ei ddarparu yn fewnol a drwy gyrsiau byr allanol.

Rhagolygon a Chyfleoedd
Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni (sy'n adlewyrchu gofynion deddfwriaeth yr UE) mae'r cyhoedd yn disgwyl cydnabyddiaeth o'u hawl ac yn unol â hynny mae goblygiadau cynyddol ar yr awdurdodau.  Mae'r maes hwn o waith yn cynnig nifer o gyfleoedd ar gyfer dyrchafiad.   Mae sgiliau trosglwyddadwy a gaed o'r rôl hon yn golygu y bydd uwch swyddi yn llwybr gyrfa ddilys.  

Rhagor o Wybodaeth a Gwasanaethau
Sefydliad Siartredig Rheolwyr www.managers.org.uk
Sefydliad Rheolwyr Gweinyddol www.instam.org

Efallai y bydd rhagor o wybodaeth am y maes yma ar gael trwy Gyrfa Cymru (www.careerswales.com/) neu yn eich llyfrgell neu'ch swyddfa gyrfaoedd lleol neu'ch ysgol.

Related Links