Cyflwyniad
Mae cynllunio rhag argyfwng mewn llywodraeth leol yn cynnwys
cydlynu a pharatoi cynlluniau wrth gefn, gweithdrefnau a
gweithgareddau sy'n ymdrin â'r heriau a ddaw yn sgil argyfyngau
mawr, er enghraifft, llifogydd, achosion o glefydau heintus iawn
mewn anifeiliaid neu bobl, ymosodiadau terfysgol, damweiniau mawr
ac yn y blaen.
Amgylchedd Gwaith
Fel arfer mae swyddogion cynllunio rhag argyfwng llywodraeth leol
yn gweithio yn y swyddfa, ond mae angen ymweliadau ag amrywiaeth o
leoliadau, fel meysydd awyr, cyfleusterau diwydiannol a rigiau olew
hefyd.
Gweithgareddau dyddiol
Mae'r gwaith a wneir gan swyddogion cynllunio rhag argyfwng
llywodraeth leol yn eang iawn, ac mae'n amrywio o gyngor i gyngor.
Gallai'r dyletswyddau gynnwys rhai neu bob un o'r canlynol:
- gweithio'n agos gydag amrywiaeth o asiantaethau eraill, megis
sefydliadau argyfwng a gwirfoddol, grwpiau cymunedol, y fyddin,
llywodraeth ganolog, cynghorau lleol eraill, ac o bosibl
asiantaethau rhyngwladol, i sicrhau bod y cynlluniau, polisïau a
gweithdrefnau rhag argyfwng cywir yn eu lle;
- ymchwilio i unrhyw ddatblygiadau newydd a allai effeithio ar
gynllunio rhag argyfwng a gwneud y newidiadau perthnasol i'r
cynlluniau a gweithdrefnau ar y cyd â sefydliadau partner;
- cynnal hyfforddiant yn seiliedig ar senario ar gyfer staff y
cyngor lleol ac eraill o sefydliadau partner, fel eu bod yn gwybod
beth i'w wneud os bydd sefyllfa o argyfwng penodol yn codi a beth
fyddai eu rolau a'u cyfrifoldebau;
- delio'n uniongyrchol ag argyfyngau, er enghraifft, gallai
swyddog cynllunio rhag argyfwng llywodraeth leol dderbyn galwad
ffôn yn ystod y nos am lifogydd a achosir gan brif beipen ddŵr wedi
byrstio - fe allai weithio ar y safle ynghyd â sefydliadau partner
a chydlynu ymateb y cyngor;
- trefnu sesiynau adolygu gyda sefydliadau partner ar ôl i
argyfwng ddigwydd, er mwyn gwerthuso llwyddiant yr ymateb a gwneud
gwelliannau i'r gweithdrefnau.
Sgiliau a Diddordebau
Mae angen i swyddogion cynllunio rhag argyfwng llywodraeth
leol:
- fod yn gyfathrebwyr ardderchog sy'n gallu cysylltu'n effeithiol
ag amrywiaeth o wahanol bobl,
- gallu aros yn dawel a meddwl yn glir o dan bwysau,
- sgiliau cynllunio a threfnu da,
- gallu arwain a chymell eraill,
- sgiliau ymchwil da,
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig ardderchog.
Gofynion Mynediad
mae angen addysg o safn dda ar gynllunwyr rhag argyfwng
llywodraeth leol ac efallai byddai cymwysterau iechyd a diogelwch
perthnasol yn ddefnyddiol. Mae'r rhan fwyaf o gyflogwyr hefyd yn
chwilio am rywfaint o brofiad blaenorol mewn cynllunio rhag
argyfwng neu faes cysylltiedig, er enghraifft, efallai byddai gan
rheiny sydd wedi gweithio yn y gwasanaethau argyfwng neu'r lluoedd
fod a phrofiad addas. Mae hyfforddiant ar gyfer datblygiad
proffesiynol parhaus ar gael trwy'r Gymdeithas Cynllunio Rhag
Argyfwng.
Rhagolygon a chyfleoedd y dyfodol
Mae rhywfaint o ddilyniant gyrfa o lefel cymhorthydd, hyd at
swyddog cynllunio rhag argyfwng a rheolwr cynllunio rhag argyfwng.
Efallai bydd cyfleoedd hefyd i symud ymlaen i adrannau eraill y
cyngor lleol eraill fel cynllunio a thrwyddedu, priffyrdd a
chludiant, diogelwch cymunedol, neu'r gwasanaethau
amgylcheddol.
Mwy o Wybodaeth a Gwasanaethau
Coleg Cynllunio Rhag Argyfwng www.epcollege.com
Cymdeithas Cynllunio Rhag Argyfwng www.the-eps.org
UK Resilience, gwefan swyddfa'r Cabinet http://www.cabinetoffice.gov.uk/ukresilience
Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/) y
llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich
ysgol.