Cyflwyniad
 Y cynghorau lleol sy'n gyfrifol am drefnu pob etholiad yn y
Deyrnas Gyfunol megis etholiadau'r Cynulliad, Senedd San Steffan a
Senedd Ewrop, etholiadau llywodraeth leol ac unrhyw
is-etholiadau.  Rheolwyr etholiadau sy'n gyfrifol am gynnal
cofrestr yr etholwyr a gofalu bod proses ethol yn mynd rhagddi'n
esmwyth.
Amgylchiadau'r gwaith
 Mewn swyddfa y byddwch chi'n gweithio gan amlaf.  37 awr yw'r
wythnos safonol er y gallai fod angen gweithio oriau ychwanegol cyn
etholiad ac ar ddiwrnod pleidleisio.
Gweithgareddau beunyddiol
 Mae rheolwyr etholiadau'n cydweithio â'u staff nhw a gwasanaethau
cyfreithiol y cyngor yn ogystal â chysylltu â rhai o adrannau
eraill y cyngor, aelodau seneddol, cynghorwyr, adrannau gwladol,
cyrff cyhoeddus ac asiantaethau allanol.  Dyma eu prif
gyfrifoldebau:
- cysylltu â phawb sy'n defnyddio'r gwasanaeth ynglŷn ag unrhyw
faterion sy'n ymwneud â gwasanaethau etholiadol, i'w cynghori a'u
cyfarwyddo nhw am bynciau deddfwriaethol a gweithdrefnol;
 
- bod yn gyfrifol am lunio a lledaenu'r dogfennau statudol
priodol;
 
- paratoi adroddiadau i'r cyngor, cabinet y cyngor, pwyllgorau
craffu'r cyngor ac amryw bwyllgorau eraill;
 
- cyflwyno adroddiadau cywir i'r Swyddfa Gartref yn brydlon ar ôl
etholiadau San Steffan a Senedd Ewrop;
 
- gofalu bod trefniadau cadw a dileu deunydd ar ôl etholiadau
lleol a threfnu i ddogfennau gael eu hanfon at Glerc y Goron ar ôl
etholiadau San Steffan;
 
- rheoli safleoedd pleidleisio a ffiniau etholaethau;
 
- cofnodi manylion ymgeiswyr a'u hasiantau ar gyfer
etholiad;
 
- goruchwylio proses enwebu ymgeiswyr ar gyfer etholiad.
 
At hynny, gallai rheolwr etholiadau fod yn gyfrifol am staff
etholiadau yn ogystal â chyflawni dyletswyddau corfforaethol
ehangach megis:
- arwain ynglŷn â goblygiadau trefnau adolygu ac arolygu;
 
- materion rheoli pobl megis cyfleoedd cyfartal, absenoldeb
oherwydd salwch, denu a dewis staff, hyfforddi a datblygu, disgyblu
a chwynion am anffafrio;
 
- dyrannu adnoddau yn yr adran.
 
Medrau a diddordebau
 Dyma'r rhai hanfodol:
- diddordeb mewn gwleidyddiaeth;
 
- gallu gweithio yn ôl amserlenni;
 
- gallu gweithio mewn tîm;
 
- gallu trin a thrafod pobl o bob lliw a llun yn y cyngor a'r tu
allan iddo;
 
- medrau technoleg gwybodaeth;
 
- gallu deall a defnyddio gwybodaeth newydd yn gyflym;
 
- gallu dirprwyo gorchwylion heb golli rheolaeth
gyffredinol;
 
- gallu datrys amrywiaeth helaeth o broblemau etholiadol
cymhleth;
 
- gallu llunio adroddiadau;
 
- gallu trafod telerau;
 
- gallu mynegi syniadau'n eglur;
 
- gallu ymaddasu yn ôl y sefyllfa a rhoi newidiadau ar
waith;
 
- bod yn effro i bynciau llosg a natur gyfrinachol y gwaith.
 
Meini prawf derbyn
 Mae eisiau Tystysgrif 'Gweinyddu Etholiadol' Cymdeithas y
Gweinyddwyr Etholiadol yn ogystal â phrofiad sylweddol o drefnu a
rheoli etholiadau megis:
- paratoi cofrestr etholwyr;
 
- trefnu etholiadau'r cyngor lleol, y Cynulliad, San Steffan a
Senedd Ewrop;
 
- adolygu ffiniau etholaethau a safleoedd pleidleisio.
 
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
 Gallai fod cyfleoedd i gael dyrchafiad yn rhai o adrannau eraill y
cyngor lleol megis y gwasanaethau democrataidd, gwaith llunio
polisïau neu swyddi cyfreithiol (ar ôl cael rhagor o
hyfforddiant).
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
 Cymdeithas Gweinyddwyr Etholiadol: www.aea-elections.co.uk
 Sefydliad Breiniol Gweithredwyr Cyfreithiol:
www.cilex.org.uk
 Sefydliad Arwain a Rheoli: http://www.i-l-m.com
 Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: www.wlga.gov.uk
 Cymdeithas y Gyfraith: www.lawsociety.org.uk
Efallai bod rhagor am hyn ar wefan Gyrfaoedd Cymru
(www.careerswales.com/), yn llyfrgell eich bro neu yn
swyddfa/llyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.
       
      
          Related Links